Swydd Wag -- Arolygydd Gofal Iechyd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
HEO - £32,460 - £39,690
£30,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Casglu a defnyddio gwybodaeth o fewn y tîm ac ymateb i bryderon / hysbysiadau rheoleiddiol i helpu i sicrhau bod gweithgareddau AGIC yn canolbwyntio ar ddiogelwch ac ansawdd cleifion, ac yn ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru (gan gynnwys Iechyd Meddwl).

Helpu i gyflwyno rhaglen o arolygiadau, adolygiadau a/neu weithgarwch rheoleiddio mewn modd amserol ac i safon broffesiynol.

Rheoli timau a gweithio fel aelod ohonynt (gallai hyn gynnwys staff AGIC a/neu adolygwyr allanol o amrywiaeth o gefndiroedd) i gynnnal arolygiadau ac ymchwiliadau i safon broffesiynol.

Prif dasgau

Bydd disgwyl i Arolygwyr Gofal Iechyd AGIC weithio'n hyblyg ar draws timau, gan gynnal arolygiadau, adolygiadau neu weithgarwch rheoleiddio. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth o dasgau isod. Yn ystod eu gyrfa, cânt eu hannog a'u cefnogi i ennill profiad yn yr ystod o swyddogaethau AGIC. Gall hyn gynnwys lleoliadau yn y gangen Partneriaethau, Gwybodaeth a Methodoleg ar batrwm cylch.

Tasgau sy'n benodol i'r swydd (ni fydd y rôl yn cynnwys pob un o'r tasgau hyn ar yr un pryd o reidrwydd):


Casglu a defnyddio gwybodaeth

  • Cydweithio â thimau arolygu, rheoleiddio ac adolygu eraill, ac â rhanddeiliaid fel y bo'n briodol, i nodi a rhannu gwybodaeth a datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith AGIC.
  • Cydweithio â thimau Gwybodaeth a Methodoleg i ddatblygu a phrofi'r amrywiaeth o adnoddau a chynhyrchion a ddefnyddir fel rhan o waith arolygu ac adolygu AGIC.
  • Cydgysylltu ag achwynwyr yn uniongyrchol lle y bo'n briodol, a chyfarfod â nhw lle bo angen i drafod eu pryderon, fel y gellir casglu'r wybodaeth sydd ganddynt a phenderfynu a yw eu gwybodaeth yn peri pryderon uniongyrchol o ran diogelu a/neu ddiogelwch cleifion, neu'n darparu tystiolaeth o fethiant systemig.
  • Mynd ati'n barhaus i ddefnyddio'r wybodaeth a gesglir gan amrywiaeth o ffynonellau i gynnal asesiadau risg o'r systemau a'r gwasanaethau sy'n gweithredu ar wahanol lefelau ledled GIG Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Sefydliadau Gofal Iechyd Annibynnol a gwasanaethau, er mwyn argymell camau i'w cymryd gan AGIC. Gall y camau hyn gynnwys atgyfeirio pryderon at gorff arall sydd mewn gwell sefyllfa i fynd i'r afael â'r mater neu'r maes sy'n peri pryder.


Cynllunio a chyflenwi

Cefnogi'r gwaith cyffredin o reoli a chyd-drefnu'r rhaglen flynyddol o weithgareddau y cytunwyd arni ar gyfer y tîm. Gallai hyn gynnwys:

  • Datblygu cwmpas a dull gweithredu yr arolygiadau/adolygiadau, gan sicrhau bod y ffocws yn gywir a'n bod yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau ac adnoddau.
  • Arwain, trefnu a rheoli'r gwaith o gynnal arolygiadau ac adolygiadau unigol yn unol ag amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt.
  • Amserlennu gweithgareddau a chasglu'r dystiolaeth sydd ei hangen yn unol â'r safonau a'r gweithdrefnau a bennwyd gan AGIC.
  • Prosesu cofrestriadau, amrywiadau, ymholiadau a datgofrestriadau yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a chanllawiau AGIC.
  • Arwain, trefnu a chynnal, ar y cyd ag adolygwyr arbenigol lle y bo'n briodol, yr holl gyfweliadau, arolygiadau a gwiriadau sy'n ofynnol wrth ystyried ceisiadau cofrestru, ac wrth baratoi argymhellion ar gyfer rheoleiddio a phenderfyniadau i'w cymeradwyo gan y Pennaeth Gofal Iechyd Annibynnol.

Gwneud gwaith fel y bo'n briodol i ymateb i faterion a phryderon newydd mewn perthynas â gofal iechyd yn ystod y flwyddyn, a allai gynnwys:

  • cynllunio, trefnu ac arwain adolygiadau ac arolygiadau, gan gynnwys darnau o waith uchel eu proffil.
  • sicrhau y caiff y dystiolaeth ar gyfer unrhyw gamau gorfodi posibl ei pharatoi yn unol â'r fframwaith rheoleiddio perthnasol a pholisïau a gweithdrefnau AGIC.
  • Gweithio fel aelod o dîm fel y bo'n ofynnol.


Adrodd a chymryd camau dilynol

  • Dogfennu canfyddiadau ac adrodd arnynt, gan lunio adroddiadau o ansawdd uchel sy'n addas at y diben ac yn addas i'w cyhoeddi. Ar gyfer llawer o adroddiadau AGIC, gall fod angen darparu fersiynau hawdd eu darllen, neu mewn fformatau amgen sy'n diwallu anghenion penodol unigolion.
  • Cyfrannu at ddigwyddiadau'r cyfryngau a'r wasg sy'n cyfleu rhaglen arolygu a chanfyddiadau AGIC.
  • Cydweithio ag eraill er mwyn sicrhau y caiff camau dilynol priodol eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion a nodir yn ystod adolygiadau ac arolygiadau.

Effaith bersonol

  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol â'r GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cydweithwyr yn AGIC, Llywodraeth Cymru, Darparwyr Gofal Iechyd, Arolygiaethau eraill a phroffesiynau gofal iechyd er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio i wella gwasanaethau gofal iechyd.

Tasgau cyffredin

  • Rheoli, helpu ac arfarnu staff drwy brosesau sefydledig Llywodraeth Cymru.
  • Cydweithio â chydweithwyr yn AGIC.
  • Cyfrannu at weithgareddau corfforaethol AGIC a'u datblygu.
  • Rheoli eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain a datblygiad aelodau o'u tîm.
  • Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhan o Broffesiwn yr Arolygwyr Gofal Iechyd. Bydd disgwyl i chi lunio, cynnal a dilyn cynllun datblygiad proffesiynol priodol a chwblhau dysgu fel sy'n ofynnol gan AGIC.

Dyddiad Cau

06/05/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Pennu cyfeiriad - Gwneud penderfyniadau effeithiol

  • Nodi amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth perthnasol a chredadwy a chydnabod yr angen i gasglu data newydd pan fydd angen o ffynonellau mewnol ac allanol.

Cydgysylltu â phobl - Arwain a chyfathrebu

  • Cyfathrebu gan ddefnyddio arddulliau, dulliau ac amseru priodol, gan gynnwys sianeli digidol, er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith orau.

Cyflawni canlyniadau - Rheoli gwasanaeth safonol

  • Gweithio gyda thîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni.

Cyflawni canlyniadau - Cyflawni yn unol â therfynau amser

  • Monitro eu gwaith personol a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu'n brydlon er mwyn cadw'r gwaith ar y trywydd cywir a chynnal perfformiad.

Meini prawf sy'n benodol i'r swydd

  • Profiad o gynnal arolygiadau a/neu adolygiadau gan ddefnyddio fframwaith proffesiynol er mwyn sicrhau y caiff adolygiadau eu llunio'n briodol a'u bod yn seiliedig ar wybodaeth, neu wybodaeth am wneud gwaith o'r fath.
  • Gwybodaeth am wahanol systemau rheoleiddio a fframweithiau safonau.
  • Profiad o gasglu a choladu tystiolaeth, dadansoddi, dod i gasgliadau, a chyfleu'r rhain yn glir.


Proses Asesu

Bydd y broses asesu yn cynnwys sifft trwy'r ceisiadau ac wedyn cyfweliadau.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Zoe Weaver - zoe.weaver@gov.wales - 0300 062 8163

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.