Swydd Wag -- Ceidwad - Mae sawl swydd ar gael

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Cadw - Gwasanaethau Ymwelwyr
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£21,300
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gwahanol leoliadau
Gwaith Haearn Blaenafon, Baddonau Rhufeinig Caerllion, Castell Coch, Castell Caerffili, Castell Cilgerran, Castell Cas-gwent, Castell Conwy, Castell Harlech, Castell Talacharn, Palas Esgobion Tyddewi, Abaty Ystrad Fflur, Abaty Tyndyrn, Llys a Chastell Tretŵr a Castell Caernarfon
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cadw yn awyddus i ddarparu profiad o'r radd flaenaf i ymwelwyr yn y safleoedd sydd wedi'u staffio yn ei ofal. Ochr yn ochr â'n cyfrifoldeb statudol i warchod a hyrwyddo mynediad cyhoeddus i'r safleoedd hyn, rydym wedi ymrwymo i wneud y safleoedd yn lleoedd pleserus, perthnasol ac ysgogol i ymweld â nhw.

Mae gan geidwaid rôl hanfodol i gyflawni'r ymrwymiadau hyn drwy ddarparu safonau rhagorol o ran gwasanaeth cwsmeriaid ac ymgysylltiad cymunedol a sicrhau bod y safle'n gweithredu'n effeithlon ac yn ddiogel.

Prif dasgau

Mae ceidwaid yn gweithio fel tîm, dan arweiniad Prif Geidwad neu, mewn safleoedd llai o faint, Ceidwad Arweiniol, i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i ymwelwyr. Mae'r ceidwad yn ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau ymarferol i groesawu a chynorthwyo ymwelwyr, cynnal safonau uchel o gyflwyniad a diogelwch a gwerthu tocynnau mynediad, cofroddion a chyhoeddiadau i'r cyhoedd. Bydd disgwyl i geidwaid ymgymryd â'r dyletswyddau canlynol:

  • Darparu croeso dwyieithog cynnes a chwrtais, nodi anghenion ymwelwyr a cheisio eu cynorthwyo i fwynhau eu hymweliad
  • Ymateb yn effeithiol i ymholiadau ymwelwyr am y safle, ei hanes, ei gyfleusterau, gwasanaethau ychwanegol (e.e. addysg, digwyddiadau a llogi preifat), Cadw a'r ardal leol
  • Gweithredu fel bod y safle'n ddiogel, yn weddus ac yn hygyrch i ymwelwyr, gan gymryd rhan mewn archwiliadau safle dyddiol
  • Cefnogi'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau hyrwyddo lleol a gweithio gyda chydweithwyr Cadw i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau arbennig gyda'r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr, amser crwydro, gwariant, boddhad a deilliannau dysgu
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu rôl y safle yn y gymuned, gan gysylltu â grwpiau buddiant lleol, cyrff twristiaeth a threftadaeth a busnesau
  • Ymdrin ag arian parod a chynnal gweithdrefnau ariannol fel y nodir yn rheoliadau arian parod a chyfrifyddu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dilyn argymhellion archwilio a chanllawiau llywodraethu
  • Cynhyrchu neu helpu i gynhyrchu ffurflenni misol yn unol â chanllawiau ariannol Llywodraeth Cymru a chynhyrchu gwybodaeth ychwanegol am berfformiad henebion, yn ôl y gofyn
  • Gwerthu tocynnau mynediad, cofroddion a chyhoeddiadau, a gweithredu fel bod yr ardal fanwerthu'n cael ei chyflwyno'n ddeniadol a'i stocio'n briodol
  • Cefnogi mentrau ehangach Cadw i gynhyrchu incwm drwy werthu aelodaeth a hyrwyddo safleoedd eraill

 

Cyfleoedd datblygu

Y cyfle i hyfforddi mewn gwasanaeth cwsmeriaid gyda'r Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Y cyfle i gymryd rhan mewn teithiau tywys mewn gwisgoedd.

Dyddiad Cau

02/12/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Newid a Gwella

  • Adolygu arferion gweithio a meddwl am syniadau i wella'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Holi er mwyn deall penderfyniadau a chwestiynu’r 
    penderfyniadau hynny mewn modd adeiladol

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Mynd ati i holi am wybodaeth gan gwsmeriaid er mwyn deall 
    eu hanghenion a’u disgwyliadau a rheoli gwybodaeth yn 
    briodol 

Cyflawni'n Brydlon

  • Cymryd rhan mewn gwaith i sicrhau ansawdd cynnyrch neu 
    wasanaethau

Meini prawf penodol i'r swydd

Profiad o weithio mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid prysur sy'n wynebu'r cyhoedd, yn ddelfrydol mewn amgylchedd treftadaeth, manwerthu, hamdden neu dwristiaeth.
Y gallu i ymgymryd â gweithdrefnau trin arian parod a chynhyrchu a dadansoddi gwybodaeth ariannol sylfaenol.
Y gallu i gyfathrebu'n hyderus ac effeithiol gyda chwsmeriaid a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau’n cael eu rhoi ar y rhestr fer a bydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae croeso i ymgeiswyr wneud cais trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Os gwahoddir ymgeiswyr i gyfweliad, gofynnir un cwestiwn yn yr iaith arall i'w dewis iaith i brofi eu gallu yn yr iaith honno.

Mae rotas ceidwadol yn seiliedig ar wythnos waith saith diwrnod, ac yn cynnwys gweithio ar benwythnosau, gyda'r nos a gŵyl y banc.

Rolau llawn a rhan amser ar gael.



Jackie Arrowsmith - 03000 259079 or Angharad Howell - 02920883143

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.