Swydd Wag -- Rolau Amrywiol Gradd 7 - Benthyciad o’r Tu Allan

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
Hyd at 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
Cynhalir sgwrsion cyflwyniadol a rheolwyr llinell ar-lein. Byddwn yn cadarnhau'r dyddiadau cyn bo' hir.

Pwrpas y swydd

Rydym yn awyddus i wneud yn fawr o arbenigedd staff o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil er mwyn esgor ar effaith ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae ein Gradd 7 yn cynnig rôl arwain hanfodol yn Llywodraeth Cymru. Caiff pob un ohonom ein hysgogi gan y gwerthoedd a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: sef uniondeb, gwrthrychedd, gonestrwydd a didueddrwydd. Yn ychwanegol at y cod mae gennym ein gwerthoedd a’n disgwyliadau ein hunain sy’n crynhoi ein ‘ffordd Gymreig’ o weithio, gan adlewyrchu’r uchelgeisiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 Mae gennym amrywiaeth o rolau â blaenoriaeth i’w llenwi, lle bydd ystod eang o sgiliau a phrofiad yn angenrheidiol. Mae’r rolau ar gael yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yng Ngrŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, yn y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac yng Ngrŵp yr Ysgrifennydd Parhaol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â swyddi â blaenoriaeth. Wrth wneud cais am un o’r rolau hyn, felly, byddwch yn cytuno i symud i swydd yr ystyrir ei bod yn fwyaf priodol i chi ar sail yr wybodaeth a gyflwynwch.

Prif dasgau

Yr hyn y bydd y sefydliad yn ei ddisgwyl

  • Byddwch yn meddu ar y gallu i weithio dan bwysau, a byddwch yn hyblyg, yn rhagweithiol ac yn hunanysgogol. Bydd gennych uchelgais i arwain a chymell tîm er mwyn cyflawni gwaith yn llwyddiannus mewn amgylchedd heriol, llawn pwysau ac sy’n symud yn gyflym.
  • Byddwch yn gallu rhoi dull arloesol ar waith, gan chwilio am gyfleoedd i wneud pethau’n wahanol a chan fod yn ddigon ymatebol i addasu a datblygu opsiynau newydd wrth i bethau newid.
  • Fel Gwas Sifil effeithiol, byddwch yn deall y dirwedd wleidyddol a’r rôl sydd gan y Gweinidogion o ran gosod yr agenda ar gyfer eich maes busnes; byddwch yn deall sut i gyflawni pethau mewn perthynas â phrosesau llywodraethu a phrosesau rheolaeth ariannol; byddwch yn meddu ar y gallu i reoli risgiau, gan wneud penderfyniadau cytbwys gyda dim, neu fawr ddim, arweiniad; a byddwch yn gallu cyfathrebu’n glir ar bob lefel, yn cynnwys cyfathrebu gydag uwch randdeiliaid a Gweinidogion.

Yr hyn y bydd eich tîm yn ei ddisgwyl

  • Byddwch yn trysori amrywiaeth a chynhwysiant, gan greu amgylchedd lle bydd unigolion yn teimlo’n ddiogel i gwestiynu, rhannu syniadau a mynegi pryderon.
  • Byddwch yn fodel rôl a all gymell ac ysbrydoli eraill, pennu gweledigaeth ac ennyn ymrwymiad eraill, gan gynnig cyfeiriad a blaenoriaethau clir ar gyfer y tîm, a chan sicrhau bod yr holl aelodau’n deall y cyfraniad a wnânt at wireddu amcanion, a’u bod yn teimlo’n abl i gyflawni eu rôl.
  • Byddwch yn cynorthwyo eraill i ddatblygu, gan ddangos eich bod yn deall pa mor bwysig yw dysgu, gan gynllunio a darparu cyfleoedd ac annog unigolion i ddatblygu, a chan fuddsoddi amser yn eich datblygiad eich hun hefyd.

Yr hyn y bydd rhanddeiliaid allweddol yn ei ddisgwyl

  • Byddwch yn gallu defnyddio barn ddoeth, tystiolaeth a gwybodaeth i gyflwyno cyngor a chanllawiau credadwy i randdeiliaid mewnol ac allanol fel ei gilydd.
  • Byddwch yn deall pa mor bwysig yw adeiladu a chynnal perthnasoedd adeiladol, oddi mewn ac oddi allan i Lywodraeth Cymru. Byddwch yn meddu ar sgiliau dylanwadu cryf ynghyd â’r gallu i adeiladu perthnasoedd cydweithredol a fydd yn cwestiynu gyda chymorth ac yn meithrin ymddiriedaeth a chyd-barch ar draws ffiniau sefydliadol.

Byddwch yn gallu defnyddio syniadau creadigol i lunio argymhellion, gan fanteisio ar gyfleoedd i weithio ar y cyd ar draws ffiniau.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle gwych i greu effaith trwy ddod â’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad gwerthfawr i adran wahanol yn y llywodraeth. Hefyd, bydd modd i chi feithrin eich gallu a’ch set sgiliau trwy fod yn rhan o ystod eang o waith hollbwysig, yn cynnwys blaenoriaethau fel ymateb i COVID-19 a threfniadau pontio’r UE.

Dyddiad Cau

06/09/22 16:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Llwyddiant blaenorol o ran cynnig arweinyddiaeth a chyfeiriad i staff er mwyn sicrhau y gellir cyflawni gwaith yn effeithiol.

Proses Asesu

Pecyn ymgeisydd.

Bydd ein hysbysebion Adran Arall o’r Llywodraeth yn rhedeg nes ein bod wedi llenwi pob rôl wag. O ganlyniad, ni fydd dyddiad cau a bydd ceisiadau’n cael eu didoli a’u penodi wrth iddynt ddod i law. Bydd y drefn deilyngdod yn seiliedig ar amseriad y ceisiadau. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein holl swyddi gwag, byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau llunio cais i roi gwybod i chi y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad anfon yr e-bost.

Gwybodaeth arall

Penodiadau a Thelerau ac Amodau

  • Dim ond i Weision Sifil presennol mae cyfleoedd benthyciad o’r tu allan ar gael (ar sail benthyg yn unig).
  • Mae rolau i’w cael ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hir (hyd at ddwy flynedd).
  • Ni ddisgwylir i chi drosglwyddo’n barhaol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae’r holl rolau ar gael ar radd y swydd barhaol ac ar sail symud ar draws yn unig.
  • Ni fydd dyrchafiadau dros dro na dyrchafiadau parhaol ar gael trwy gyfrwng y cyfle hwn; fodd bynnag, bydd nifer o’r rolau’n cynnig cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
  • Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch paru â rôl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwch yn eich ffurflen gais.
  • Ni allwn warantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw swydd, neu swydd benodol.
  • Os cewch eich paru’n llwyddiannus â rôl, byddwch yn symud dan drefniadau ffurfiol Benthyciad o’r Tu Allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru.
  • Bydd eich cyflog parhaol yn cael ei baru â’r pwynt cyflog agosaf ar fand cyflog y radd, ac ni fyddwch ar eich colled https://llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael cymeradwyaeth/caniatâd gan eich rheolwr llinell i’ch rhyddhau.
  • Rhaid i chi fod ar gael i’ch rhyddhau yn syth, oherwydd ar ôl i chi gael eich paru â rôl disgwylir i chi fynd i’r afael â’r swydd yn ddi-oed.
  • Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o'r gwahanol broffesiynau a'r rhai â sgiliau arbenigol neu gyffredinol.
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Rydym yn gefnogol i’r arfer o weithio gartref a’r arfer o deilwra patrymau i weddu i amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd mwyafrif y deiliaid swyddi yn gweithio gartref.
  • Er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer proses dethol yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion a all weithio’n ddwyieithog.
  • Gan mai benthyciad yw hwn, pe bai’r swydd yn dod i ben dylech gadw mewn cof y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.
HRTransitionTeam@gov.wales / TimTrawsnewidAD@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi templed CV Symud ar Draws. Os na chaiff hwn ei lenwi a/neu ei gyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.

Yn y cais CV symud ar draws, bydd angen i chi gyflwyno 500 gair yn ymwneud â’r canlynol:

  • Soniwch am adeg pan wnaethoch gynnig arweinyddiaeth a chyfeiriad i staff er mwyn sicrhau bod modd cyflawni gwaith yn effeithiol. Beth fu’r effaith a’r canlyniad?

Ymhellach, bydd angen i chi nodi eich sgiliau a’ch profiad, cyflwyno hanes byr o’ch gyrfa, a nodi eich hoff ddewisiadau o ran Grŵp/Adran a maes gwaith craidd â blaenoriaeth.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r camau sy’n berthnasol i’r broses dethol a pharu yn y pecyn i ymgeiswyr.

Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch TimTrawsnewidAD@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

**Nodwch:  Os oes gennych chi gyfrif Penodi yn barod, a hoffech chi ddiweddaru eich enw defnyddiwr i’r cyfeiriad e-bost @llyw.cymru newydd, dylech fewngofnodi i’ch cyfrif gan ddefnyddio’ch hen fanylion, yna clicio ar eich enw, a dewis ‘Golygu manylion personol’.  Gallwch ddiweddaru eich manylion personol cofrestredig ar y dudalen hon.**

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.