Swydd Wag -- Seiri Maen / Bricwyr Medrus

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
EO - £26,900 - £30,610
£25,860
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cadw yw gwasanaeth amgylcheddol hanesyddol Llywodraeth Cymru – sy’n gweithio i sicrhau bod gan Gymru amgylchedd hanesyddol hygyrch sy’n cael ei ddiogelu’n dda.

Rydym yn gwarchod treftadaeth Cymru i’r safon orau bosibl ac yn helpu i gynnal cymeriad unigryw tirweddau a threfi Cymru. Rydym yn gyfrifol am rai o’r safleoedd mwyaf arwyddocaol yn y byd, ac rydym yn helpu pobl i ddeall a gofalu am eu lle a’u hanes - a lle Cymru yn y byd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o dîm bach sy’n cyflawni cyfrifoldebau statudol er mwyn gwarchod a chynnal a chadw henebion sydd yn ein gofal, a’u prif swyddogaethau yw gwneud gwaith maen cadwraeth, cynnal a chadw cylchol ac adweithiol a gwaith cyflwyno yn safleoedd a henebion Cadw o fewn ardal ddaearyddol. Mae’r De wedi’i rannu’n dri rhanbarth:

Y De-ddwyrain, De’r Canolbarth a’r De-orllewin. Mae swydd wag ar gael yn y Gogledd hefyd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thimau rhanbarthol presennol. Nodwch eich rhanbarth o ddewis wrth wneud cais

Prif dasgau

Mae tasgau a sgiliau allweddol yn cynnwys:

Gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn am waith maen traddodiadol er mwyn eich galluogi i wneud gwaith atgyfnerthu ac ail-weithio pennau waliau, gwaith wyneb a chraidd waliau darniog agored.

Y gallu i weithio yn ddiogel bob amser a gallu gweithio ar uchder sylweddol o sgaffaldau wedi’u hadeiladu’n briodol yn ôl y gofyn.

Gallu cofnodi, anodi gwaith maen hanesyddol a bregus a chyflawni gwaith datgymalu mewn trefn ofalus, ac ailadeiladu a sefydlogi darnau o waith maen yn ofalus a chywir o luniau, ffotograffau a chofnodion.

Gallu atgyweirio gwaith maen nadd arbennig a phwrpasol ar y safle (wedi’i baratoi yn rhywle arall). 

Gallu cyflawni technegau cadwraeth arbenigol fel pinio, growtio, atgyweiriadau mortar plastig angori, araenu cysgodi, cael gwared ar graffiti ac ati. 

Gwneud gwaith adeiladu amrywiol sy’n gysylltiedig â chynnal a chadw a gwarchod henebion a safleoedd hanesyddol sydd ar agor i ymwelwyr, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf a gwaith gwella cyflwyniad safle nad yw’n waith maen.

Cynorthwyo gyda dyletswyddau llafurio â llaw, gan gynnwys cael gwared ar forter, symud deunyddiau, cymysgu mortar, amdddiffyn rhag y tywydd ac ati. 

Gyda’ch rheolwr llinell, paratoi, cytuno a chynnal Cynllun Rheoli Perfformiad, Hyfforddiant a Datblygu. Byddwch yn cyflawni’r holl hyfforddiant gorfodol ac yn chwilio am hyfforddiant mewnol ac allanol pellach a chyfleoedd datblygu priodol.

Sicrhau bod holl gerbydau, Cyfarpar Diogelu Personol, peiriannau, cyfarpar mynediad ac offer Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio, yn cydymffurfio, yn ddiogel ac yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda.

Sicrhau bod holl gerbydau, peiriannau a chyfarpar Llywodraeth Cymru yn cael eu gadael yn saff ac yn ddiogel drwy’r amser.

Y gallu i yrru ac ysgwyddo cyfrifoldeb am gerbydau gwaith yn ôl y gofyn.

Sicrhau bod cyfleusterau lles gwaith yn lân, yn hylan, yn ddiogel, yn daclus ac yn cydymffurfio. Rhoi gwybod am risgiau a phroblemau yn brydlon ac yn gyfrifol.

Mewn cydweithrediad â’r Goruchwylydd Gwaith a’r Rheolwr Gwaith Cadwraeth ac Eiddo, byddwch yn cyfrannu at gwmpas a hyd a lled pecynnau gwaith, dulliau cadwraeth ac ymyrraeth priodol, dewis deunyddiau, gofynion mynediad, rhaglen ac ati. Byddwch yn cynorthwyo i ddatblygu Datganiadau Dull ac Asesiadau Risg, cynnal sgyrsiau bocs celfi yn eich tro gyda chydweithwyr a datblygu Asesiadau Risg penodol ar y gwaith gofynnol.

Cynorthwyo i ddatblygu blaenraglenni gwaith drwy nodi gwaith posibl ar gyfer y dyfodol.

Cyfrannu at hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o waith Cadw drwy arddangos ein gwaith i ymwelwyr, mynychu a chynrychioli Cadw mewn digwyddiadau allanol, arddangosiadau gwaith, cyfleoedd cyfryngau ac ati.

Gallu gweithredu cyfarpar TG gyda lefel sylfaenol o sgiliau a dealltwriaeth.

Yn ogystal â’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a restrir, efallai y bydd angen i chi gyflawni dyletswyddau eraill a neilltuir i chi, gan gynnwys gwaith nad yw’n waith crefft sy’n addas i’r Radd

Cyfleoedd datblygu

Anogir cyfleoedd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol fel rhan o gynllun hyfforddi a datblygu strwythuredig. Fel rhan o dîm arbenigol bach, mae llwybr gyrfa a chyfleoedd posibl yn y dyfodol i ddatblygu gyrfa

Dyddiad Cau

07/02/22 13:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gweld y Darlun Mawr – Datblygu dealltwriaeth o’ch strategaeth eich maes eich hun a sut mae’n cyfrannu at flaenoriaethau’r Adran.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Siarad â’r bobl berthnasol er mwyn cael y wybodaeth gywiraf a chael cyngor pan nad ydych chi’n siŵr sut i fynd rhagddi.

Meithrin Gallu i Bawb – Ysgwyddo cyfrifoldeb am ansawdd eich gwaith eich hun a chwilio am gyfleoedd i wella drwy ddysgu parhaus.

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd – Gweithio gyda’r tîm i bennu blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli’ch holl waith i ddiwallu anghenion y cwsmer a’r busnes


Meini Prawf Penodol i'r Swydd 

Gallu profedig i ymgymryd â thechnegau cadwraeth arbenigol megis pinio, growtio, trwsio morter plastig, angori, gorchuddio cysgod, tynnu graffiti a chynnal a chadw henebion hanesyddol. 

Y wybodaeth a'r gallu i weithio'n ddiogel bob amser, yn enwedig ar adegau o uchder pan fo angen sgaffaldiau wedi'u hadeiladu'n briodol. 

Y gallu i weithio fel rhan o dîm effeithiol gan sicrhau bod safonau gwaith uchel yn cael eu cyrraedd yn unol ag amserlenni prosiectau a rhaglenni

Proses Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cyflwyno cais gyda thystiolaeth yn erbyn yr hysbyseb meini prawf. Os bydd yn llwyddiannus yn y sifft, gwahoddir ymgeiswyr i gyfweliad rhithwir. Yn ystod y cyfweliad, gofynnir cyfuniad o gwestiynau i ymgeiswyr a gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth arbenigol mewn ymateb i rai delweddau a ddarperir

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Laurence Toole - Laurence.Toole@gov.wales - 07805854960

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.