Swydd Wag -- Cyfarwyddwr, Pobl a Lleoedd Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Uwch Wasanaeth Sifil 2
tua £100,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

29/06/23 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae'r rôl hon yn gweithredu mewn amgylchedd cymhleth sy'n symud yn gyflym, a chan mai dyma’r rôl adnoddau dynol uchaf yn y sefydliad mae gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb dros y canlynol:

  • Datblygu, arwain a gweithredu mentrau strategol y sefydliad ar gyfer pobl a newid. Byddwch yn cydweithio ag uwch-arweinwyr ac yn eu cynghori ar sut y gellir cyflwyno'r diwygiadau hyn, gan lywio'r sefydliad i sicrhau ei fod yn barod i ymateb i heriau'r dyfodol.
  • Arwain a chyfrannu at ddiwylliant sy'n seiliedig ar werthoedd gan sbarduno lefelau uchel o ymgysylltu â staff drwy bartneriaeth gymdeithasol.
  • Darparu arweinyddiaeth ragorol ac ysbrydoledig yn achos swyddogaeth pobl y sefydliad: hyfforddi a chefnogi staff adnoddau dynol proffesiynol i weithredu'n strategol a chynyddu eu harbenigedd proffesiynol i ddarparu strategaeth a gwasanaethau adnoddau dynol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, sy'n effeithiol ac yn effeithlon i Lywodraeth Cymru ac i’r cyrff a noddir ganddi. Mae hon yn rôl arwain allweddol a fydd yn meithrin partneriaethau ar draws y busnes cyfan, gan ddiffinio a darparu ein gwasanaethau adnoddau dynol gyda chymorth dau Ddirprwy Gyfarwyddwr a thîm o bron 150 o staff adnoddau dynol proffesiynol ar draws pob safle.
  • Sbarduno'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau adnoddau dynol a chorfforaethol, darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid drwy brosesau a systemau effeithlon, gan fanteisio i'r eithaf ar werth ein data a'r defnydd ohonynt.
  • Cefnogi'r Ysgrifennydd Parhaol ac aelodau'r Tîm Arwain ar faterion pobl ac, yn benodol, rheoli perfformiad yr uwch-dîm; gallu a dilyniant yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS); Adnoddau SCS a Thâl a Gwobrwyo SCS. Chi fydd y cynghorydd proffesiynol arweiniol i’r Ysgrifennydd Parhaol a’r uwch-dîm ar faterion adnoddau dynol cymhleth a sensitif.
  • Bydd gennych rôl allweddol o ran trawsnewid y sefydliad: byddwch yn arwain drwy esiampl o ran ein gwerthoedd sef creadigrwydd, tegwch, partneriaeth a phroffesiynoldeb, gan sbarduno diwylliant cydweithredol a chynhwysol lle mae gennym ddisgwyliadau uchel, a grymuso ein staff i gyflawni.
  • Darparu arweiniad arbenigol ar ddysgu a datblygu a meithrin gallu. Byddwch yn sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i helpu’r sefydliad i gyflawni, ac i gefnogi ein gweithwyr i gyflawni eu potensial yn llawn.
  • Arwain ein strategaeth gweithlu a bod yn frwd dros greu gweithlu amrywiol, cynhwysol a dwyieithog – gan gynnwys cyflawni'r ymrwymiadau uchelgeisiol a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu a Strategaeth y Gymraeg: ‘Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd’.
  • Rheoli ystad weinyddol Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod gan y sefydliad y lleoedd modern, cost-effeithiol sydd eu hangen arno i gefnogi staff i weithio'n effeithiol, i gysylltu ac i gydweithio ledled Cymru. Ar hyn o bryd rydym ran o'r ffordd drwy ‘flwyddyn beilot’ Gweithio Hybrid a fydd yn ein helpu i ddatblygu ein ffyrdd o weithio a’n swyddfeydd ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys rhannu ein hadeiladau gyda phartneriaid yn y gwasanaeth cyhoeddus.
  • Arwain ein swyddogaeth diogelwch a seiberddiogelwch – gan sicrhau bod Llywodraeth Cymru, ei Gweinidogion, ei staff yn ogystal â'i seilwaith ffisegol a digidol yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu.
  • Arwain ein swyddogaeth gyfathrebu fewnol a'n rhaglen ymgysylltu â gweithwyr, gan sicrhau bod gan ein gweithlu cyfan yr wybodaeth y mae arno ei hangen i gyflawni'n effeithiol a'r cyfle i gyfrannu at newid a gwella.
  • Darparu arweiniad ar gyfer yr Uned Cyrff Cyhoeddus a gwasanaethau corfforaethol allweddol megis ein Gwasanaeth Cyfieithu fel rhan o rôl arwain weithredol yng Ngrŵp y Prif Swyddog Gweithredu, y sefydliad ehangach a’r sector cyhoeddus yn gyffredinol.
  • Sicrhau sylfaen dystiolaeth gref o fewnwelediad gweithwyr, gwybodaeth rheoli a data i lywio penderfyniadau a rheoli gwasanaethau effeithiol.
  • Rheoli cyllidebau, adnoddau, a chynigion gwariant ar gyfer meysydd atebolrwydd uniongyrchol ac, fel aelod o uwch-dîm arwain y sefydliad sy'n cyflenwi rhaglenni adnoddau dynol, sicrhau effeithlonrwydd pellach a chynnal gweithlu effeithiol o ran adnoddau dynol, datblygu sefydliadol a gwasanaethau corfforaethol.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu


Asesiadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig

Bydd y gweithgareddau isod yn rhan o'r asesiad cyffredinol sydd ei angen ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn.

  • Profion Seicometrig Ar-lein – bydd y rhain yn cynnwys thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein ymhen 10 diwrnod gwaith i’r cyfarfod llunio rhestr fer.  Os ydych chi wedi gwneud y profion seicometrig ar-lein yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gyfer swydd ar yr un radd, ni fydd angen ichi wneud y profion hyn eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio penodol hwn.
  • Ymarfer ymgysylltu â staff/rhanddeiliaid – cynhelir hwn ar wythnos yn dechrau 24 Gorffennaf 2023. Rhagor o fanylion i ddilyn.
  • Cyfweliadau gan banel, a chyflwyniad – mae'r rhain wedi'u trefnu ar gyfer wythnos yn dechrau 7 Awst 2023. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams. Bydd y cyfweliadau’n para tua 45 munud. Bydd y Panel yn cael adborth ar ôl ichi gwblhau'ch profion seicometrig a chymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu â staff, cyn ichi gael cyfweliad. Bydd eich cyfweliad yn ystyried sut y mae eich sgiliau a'ch profiad fel y maent wedi’u hamlinellu yn eich CV a'ch datganiad personol yn bodloni gofynion y rôl. Bydd ymgeiswyr yn cael o leiaf wythnos o rybudd am bwnc y cyflwyniad. Nodwch y dylid gwneud y cyflwyniadau heb rannu taflenni neu ddefnyddio dyfeisiau electronig oni bai bod hynny’n rhan o addasiad rhesymol. Fodd bynnag, mae croeso ichi ddefnyddio cardiau i brocio’r cof.
  • Sgwrs anffurfiol - Byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad â'r Ysgrifennydd Parhaol cyn y cyfweliad olaf i ddysgu mwy am y rôl a'r sefydliad. Sylwch nad yw hyn yn rhan o'r broses asesu ffurfiol. Mae’r rhain wedi’u trefnu ar gyfer wythnos yn dechrau 24 Gorffennaf 2023. Rhagor o fanylion i ddilyn.

Mae disgwyl i'r holl asesiadau uchod gael eu cynnal o bell drwy Microsoft Teams.


Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.

Gwybodaeth arall am y swydd

Cynigir y swydd hon yn barhaol neu ar sail benthyciad/secondiad am hyd at 2 flynedd i ddechrau. Mae’n swydd amser llawn, ond rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn rhannu swydd. Os nad oes gennych bartneriaeth rhannu swydd ar waith ac y byddech yn hoffi cael trafodaeth gyda’r nod o ffurfio un ar gyfer y swydd hon, cysylltwch â RecriwtioUWS@llyw.cymru. Nodwch na allwn warantu y bydd modd dod o hyd i bartner.
Wythnos yn dechrau 7 Awst 2023
Os hoffech drafod y rôl hon ymhellach, anfonwch e-bost i RecriwtioUWS@llyw.cymru

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.