Swydd Wag -- Dadansoddwr Gwybodaeth

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
HEO - £32,460 - £39,690
£30,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Mae hwn yn gyfle Cyfnod Penodol am hyd at ddwy flynedd, gyda'r posibilrwydd o swydd barhaol yn amodol ar y meini prawf sydd ar waith ar y pryd. Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar gyfer cyfleoedd secondiad neu gynllun benthyg am hyd at ddwy flynedd hefyd.
Mae hwn yn gyfle Cyfnod Penodol am hyd at ddwy flynedd, gyda'r posibilrwydd o swydd barhaol yn amodol ar y meini prawf sydd ar waith ar y pryd. Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar gyfer cyfleoedd secondiad neu gynllun benthyg am hyd at ddwy flynedd hefyd.
Lleoliad arall
Gall y swydd hon fod wedi'i lleoli yn unrhyw un o swyddfeydd AGC: Caerfyrddin, Cyffordd Llandudno neu Ferthyr Tudful.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. 

Yn atebol i'r Rheolwr Tîm Perfformiad a Gwybodaeth, bydd y swydd hon yn darparu'r wybodaeth, y data a'r sgiliau dadansoddi, er mwyn helpu i AGC drosi gwybodaeth yn ddeallusrwydd am y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant.

Prif dasgau

  • Datblygu a chynnal gwybodaeth am y sectorau gofal cymdeithasol a'r sector gofal plant, gyda chyfle i ddatblygu gwybodaeth fwy arbenigol mewn un sector.
  • Cael, cofnodi a dadansoddi data a gwybodaeth ar berfformiad rheoleiddio a pherfformiad sectorau.
  • Archwilio patrymau a thueddiadau mewn gwybodaeth, gan gysylltu hynny â newidiadau i bolisïau ac arferion, yn enwedig gwybodaeth am berfformiad. 
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau ysgrifenedig ac ar lafar ar ganfyddiadau'r dadansoddiad i uwch-reolwyr, grwpiau prosiect a chydweithwyr eraill yn AGC neu'r sector cyhoeddus. 
  • Sefydlu a chynnal cysylltiadau â thimau Cofrestru ac Arolygu a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod AGC yn ymwybodol o ddata a dadansoddiadau newydd ac sy'n dod i'r amlwg, ac yn mapio'r rhain i nodau ACG. 
  • Cyfrannu at swyddogaeth adrodd / gwybodaeth gyhoeddus AGC drwy adroddiadau a dulliau cyfathrebu eraill.  Mae hyn yn cynnwys datblygu adnoddau data rhyngweithiol, gan ddefnyddio meddalwedd fel y bo'n briodol. 
  • Gweithredu fel ‘cwsmer craff’ wrth gael data, gan ddatblygu cysylltiadau lleol a chenedlaethol, ynghyd â dealltwriaeth fanwl o anghenion gwybodaeth ym mhob rhan o AGC. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus
  • Dylunio a datblygu prosesau ac adnoddau casglu gwybodaeth, gan gynnwys arolygon a hunanwerthusiadau ansoddol, a dadansoddi'r data a gasglwyd. 
  • Cyfrannu at ddiffinio'r anghenion gwybodaeth a dadansoddi ar gyfer AGC, a hynny drwy ymgysylltu â chydweithwyr a rheolwyr ym mhob rhan o'r sefydliad. 
  • Datblygu a chynnal arbenigedd mewn perthynas â system TGCh AGC i fod yn bwynt cyswllt ar gyfer y system o ran ymchwilio i'r data a gedwir ynddi a'u dadansoddi, a rhoi arweiniad i staff mewn perthynas â defnyddio data a'u cywirdeb. 
  • Asesu ansawdd data, goresgyn problemau'n ymwneud â data a rhoi cyngor ar ddatblygiadau i'r system mewn ffordd arloesol er mwyn sicrhau bod data defnyddiol o ansawdd uchel yn cael eu cofnodi o'r cychwyn. 
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol mewn trafodaeth â'r Rheolwr Tîm Perfformiad a Gwybodaeth. 
  • Arwain y gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi Datganiadau Ystadegol AGC, gan gynnwys cyhoeddi data i StatsCymru.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. 

Cymorth i ddatblygu arbenigedd proffesiynol mewn ystadegau, ymchwil a gwyddor data.    

Dyddiad Cau

14/10/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

Newid a Gwella - Mynd ati i annog syniadau o amrywiaeth eang o ffynonellau a gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan ddefnyddio'r rhain i lywio eich gwaith meddwl 

Gweld y Darlun Cyflawn - Bod yn ymwybodol o faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eich gwaith eich hun a gwaith y tîm, neu a allai fod o fudd i'r gwaith hwnnw

Cyflawni'n Brydlon - Monitro eich gwaith eich hun a gwaith y tîm yn rheolaidd yn erbyn cerrig milltir neu dargedau a gweithredu'n brydlon er mwyn parhau ar y trywydd cywir a chynnal perfformiad 

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Adnabod patrymau a thueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol 

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Y gallu i ddadansoddi amrywiaeth o wybodaeth i bennu opsiynau ac argymhellion, gan ddod i gasgliadau priodol.
  2. Y gallu i ddatblygu gwybodaeth fanwl am ffynonellau data yn y maes gwaith hwn, ynghyd â dealltwriaeth o gofnodi data, rheoli a gweithdrefnau sicrhau ansawdd. 
  3. Dealltwriaeth fanwl o Excel a phrofiad o ddefnyddio ieithoedd rhaglennu, megis R, Python neu SQL, ynghyd ag adnoddau dadansoddi busnes, megis Power BI a Tableau.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â chanllawiau Llywodraeth Cymru i ymgeiswyr a sut i ateb cwestiynau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. 

Mae'r Canllawiau Recriwtio ar gyfer Ymgeiswyr Allanol wedi'u datblygu i gynorthwyo ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swydd allanol yn Llywodraeth Cymru. 
Defnyddiwch y canllawiau a ddarparwyd ar bob cam o'r broses recriwtio a dethol.  Maent yn cynnwys cyngor defnyddiol ar: 
•    yr hyn sydd angen i chi ei wneud cyn gwneud cais 
•    cwblhau cais, yn cynnwys rhoi enghreifftiau o gymhwysedd ac enghreifftiau swydd benodol
•    fformat STAR, a all eich helpu i strwythuro eich tystiolaeth
•    y broses gyfweld

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Neil Fewtrell Neil.Fewtrell@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.