Swydd Wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_4B8579F5-FF33-442D-90BF-F8E34F0FC511~~

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Yr Uned Gwyddor Data
SEO - £41,700 - £49,370
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I'w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae'r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) yn Llywodraeth Cymru yn cefnogi ystod o wasanaethau digidol yn y sefydliad drwyddo draw. Fel rhan o'n proffesiwn DDaT, byddwch yn rhan allweddol o dîm yr Uned Gwyddor Data ac yn gwneud cyfraniad sylweddol ac uniongyrchol ar gyfer pobl Cymru.

Prif dasgau

Prif dasgau

  • Cyflawni gwaith prosiect gan ddefnyddio ystod o dechnegau sy'n gysylltiedig â gwyddor data gan gynnwys modelu ystadegol, dysgu peirianyddol, delweddu, prosesu iaith naturiol, dadansoddi geo-ofodol, prosesu delweddau ac awtomeiddio ar gyfer ystod eang o feysydd yn y Llywodraeth.
  • Helpu i barhau i brofi a datblygu llwyfan gwyddor data yn Llywodraeth Cymru.
  • Arwain timau prosiect bach a chefnogi aelodau iau o staff i ddatblygu eu sgiliau gwyddor data a rheoli prosiect ymhellach.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid i gwmpasu a nodi prosiectau gwyddor data sy'n ymarferol ac yn effeithiol, gan ddeall ble y gall gwyddor data ychwanegu gwerth i'r sefydliad.
  • Hyrwyddo arferion gweithio da o fewn y tîm – rheoli fersiynau, y gallu i atgynhyrchu, adolygiadau o godau, rheoli prosiectau, gweithio’n ystwyth, rhannu gwybodaeth etc.
  • Hyrwyddo a chyflwyno gwaith gwyddor data yn y sefydliad a’r tu hwnt.
  • Deall ac ymarfer egwyddorion data da o ran moeseg a phreifatrwydd.
  • Cadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf ym maes gwyddor data a chwilio am gyfleoedd i brofi methodolegau newydd.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru. Bydd cyfle ichi weithio gyda nifer o brosiectau a rhaglenni ar draws holl feysydd Llywodraeth Cymru. Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel, gan gynnwys uwch staff, Gweinidogion a'n Prentisiaid Digidol. Byddwch yn helpu i greu a gwella cysylltiadau a chydweithio yn y gymuned Ddigidol, Data a Thechnoleg ar draws y Llywodraeth.

Dyddiad Cau

10/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau a Sgiliau

  • Newid a Gwella -  Gweithio gydag eraill i nodi meysydd i'w gwella a symleiddio prosesau i ddefnyddio llai o adnoddau. Defnyddio technoleg lle bo modd i gynyddu effeithlonrwydd. Annog syniadau am newid o ystod eang o ffynonellau.
  • Datblygu Eich Hun ac Eraill -  Treulio amser i hyfforddi, mentora a datblygu cydweithwyr eraill i gefnogi cynllunio olyniaeth. Myfyrio ar eich gwaith eich hun, ceisio'n barhaus a gweithredu ar adborth er mwyn gwella perfformiad eich hun a'r tîm.
  • Cyfathrebu a Dylanwadu -  Annog y defnydd o wahanol ddulliau cyfathrebu, gan gynnwys adnoddau digidol ac amlygu'r manteision, gan gynnwys sicrhau cost effeithiolrwydd. Dangos positifrwydd a brwdfrydedd tuag at waith, gan annog eraill i wneud yr un peth. Sicrhau bod negeseuon pwysig yn cael eu cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn barchus, gan ystyried amrywiaeth y buddiannau.

Sgiliau DDaT

  • Arloesedd gwyddor data - Gallwch ddangos gwybodaeth ymarferol am offer a thechnegau gwyddor data. Gallwch ddatblygu atebion gwyddor data sy'n sicrhau cymaint o fewnwelediad â phosibl. Gallwch nodi cyfleoedd ar gyfer sut y gall gwyddor data wella arferion data.
  • Moeseg a phreifatrwydd (gwyddor data) - Gallwch ddangos dealltwriaeth o sut mae materion moesegol yn cyd-fynd â chyd-destun ehangach a gallwch weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol. Gallwch nodi ac ymateb i bryderon moesegol yn eich maes cyfrifoldeb.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Profiad o weithio gyda chwsmeriaid/rhanddeiliaid i gwmpasu a chynnal gwaith prosiect gwyddor data yn effeithiol.
  • Gwybodaeth dechnegol dda am fethodolegau gwyddor data a'r gallu i gefnogi a datblygu eraill ag anghenion amrywiol.
  • Cyfleu allbynnau technegol i ystod o randdeiliaid ac addasu cynnwys yn briodol.

    Proses Asesu

    Mae 4 cam i'r broses ymgeisio ac asesu:

    Cam 1 – Cyflwyno CV

    Lanlwythwch eich CV. Hoffem yn benodol ichi ddangos sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn yr adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd o'r hysbyseb.

    Sicrhewch fod gan eich CV adran wedi'i marcio'n glir sy'n nodi sut rydych yn bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair yr un i bob maen prawf).

    Sylwch mai dim ond yn erbyn y meini prawf penodol i’r swydd a restrir yn yr hysbyseb y byddwn yn asesu’ch CV felly RHAID i'ch CV roi sylw i’r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl, gan gynnwys enghreifftiau fel y nodir isod. Bydd ceisiadau ymgeiswyr nad ydynt yn darparu enghreifftiau manwl yn cael eu diystyru.

    Cam 2 – Sifftio CVs

    Ar ôl y dyddiad cau, bydd CVs yr holl ymgeiswyr yn cael eu hasesu.

    Bydd prawf sgiliau ar-lein yn cael ei anfon at ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd.

    Cam 3 – Prawf Sgiliau (Ar-lein)

    Bydd y prawf sgiliau yn cael ei gynnal o 24/04/2023 a bydd gennych 7 diwrnod calendr i gwblhau'r prawf hwn.

    Os byddwch yn pasio'r prawf sgiliau ar-lein, byddwch wedyn yn cael gwahoddiad i gyfweliad.

    Bydd y cyfweliadau yn cael eu trefnu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau ar 01/05/2023.

    Cam 4 – Cyfweliad

    Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a’r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a amlinellir yn adrannau'r hysbyseb hon.

    Yn y Cyfweliad gofynnir cwestiynau ichi a fydd yn gyfle ichi ddarparu tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

    Gwybodaeth arall

    • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
    • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
    • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
    • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

    Mae'r Uned Gwyddor Data yn bwriadu recriwtio dau Wyddonydd Data profiadol i ymuno â'r tîm a defnyddio data er budd rhanddeiliaid ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Bydd cyfle i ddeiliad y swydd archwilio a defnyddio offer a thechnegau modern i ddatrys problemau go iawn sy'n cael effaith ystyrlon yng Nghymru gan weithio ar draws ystod eang o brosiectau a meysydd.

    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uwch-aelod o dîm gwyddor data bach ac yn cwmpasu, yn cynnal ac yn hyrwyddo prosiectau gwyddor data yn Llywodraeth Cymru. Bydd yn gweithredu fel mentor i aelodau iau o'r tîm a hefyd yn cefnogi ac yn cynghori dadansoddwyr ar draws y sefydliad yn y defnydd o wyddor data.

    Steven Hopkins - Steven.Hopkins002@gov.wales

    Sut i wneud cais

    Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

    I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

    I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

    Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

    Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

    Anghydfod a Chwynion

    Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

    Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.