Swydd Wag -- Rheolwr Data a Gwybodaeth Diogelwch Adeiladau

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diogelwch Adeiladau
HEO - £32,460 - £39,690
Bydd cyflog cychwynnol rhwng £32,460 a £36,590 yn cael ei gynnig i'r ymgeisydd llwyddiannus ar sail eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a pherfformiad yn y cyfweliad. Nid yw'r ystod hon yn agored i drafodaeth.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Rhaid i drychineb Grenfell ein hatgoffa ni yn barhaus pa mor bwysig yw bod â chartref diogel. Mae'n parhau i'n hatgoffa ni yn glir am y canlyniadau dinistriol a all ddigwydd pan na roddir blaenoriaeth i ansawdd adeiladau a diogelwch preswylwyr. Mae diogelwch adeiladau'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'n holl bwysig bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. 

Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o gasglu, rheoli a diweddaru gwybodaeth am ddiogelwch adeiladau preswyl yng Nghymru, ac yn y pen draw yn cydlynu'r gwaith o sefydlu sail dystiolaeth ar gyfer datblygu polisïau’n ehangach. I wneud hyn bydd angen sefydlu a chynnal trefniadau effeithiol ar gyfer gweithio ar y cyd â nifer o randdeiliaid mewnol ac allanol.

Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar lygad barcud ar gyfer manylion, hyder wrth weithio gyda data, dealltwriaeth dda o reoli arian o fewn Llywodraeth Cymru, hyder wrth ymdrin â busnes y Llywodraeth a ffordd ragweithiol o weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Prif dasgau

  • Casglu data a chydlynu a chynnal polisi allweddol ar gyfer setiau data'r rhaglen diogelwch adeiladau, yn ogystal o bod yn brif gyswllt ar gyfer y gwaith hwn.
  • Cynnal adolygiad o'r gofynion data ar gyfer y Tîm Diogelwch Adeiladau, i sicrhau bod y diwygiadau i ddiogelwch adeiladau yng Nghymru yn effeithiol ac yn effeithlon.
  • Nodi pa ddata sy'n cael ei gadw ar hyn o bryd, ar y cyd ag arweinwyr polisi a meysydd arbenigol, pa ddata sydd ar gael ac, yn bwysig, pa ddata a fydd ei angen i gefnogi'r diwygiadau deddfwriaethol yng Nghymru.
  • Sefydlu systemau cadarn i gasglu a dadansoddi data, a bwydo'r data hwn i'r broses llunio polisïau, gan gynnwys cefnogi'r gwaith o ddatblygu asesiadau effaith.
  • Darparu eglurder a gwelededd drwy ddangosfwrdd ar gyfer y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, i sicrhau bod setiau data ar draws y rhaglen yn glir.
  • Mynd ati'n rhagweithiol i ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Tân a swyddogion yn y gweinyddiaethau datganoledig.
  • Gweithredu systemau llywodraethu a diogelu data effeithiol.
  • Gwahodd tendrau am gontractau gan ddilyn y prosesau cywir.
  • Gweithredu systemau llywodraethu a diogelu data effeithiol.
  • Gweithio ar draws y Tîm Diogelwch Adeiladau ehangach i rannu data a'r arferion gorau, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau i dimau, a nodi tueddiadau a risgiau a briffio uwch-reolwyr a Gweinidogion yn ôl y gofyn.
  • Darparu busnes y Llywodraeth, gan gynnwys ceisiadau rhyddid gwybodaeth a'r briffiau cysylltiedig, a chefnogi uwch-reolwyr.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn rhan o raglen Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru, sy'n faes datblygu polisi proffil uchel sy'n symud yn gyflym. Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel gan gynnwys uwch staff, Gweinidogion ac amrediad o randdeiliaid allanol.

Dyddiad Cau

22/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol, gredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.

Arweinyddiaeth

  • Sicrhau bod gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ddealltwriaeth glir o amcanion, gweithgareddau a fframiau amser.

Cyfathrebu a dylanwadu

  • Cyfathrebu mewn ffordd syml, onest ac ymgysylltiedig, gan ddewis arddulliau priodol i wneud y mwyaf o ddealltwriaeth ac effaith.

Gweithio ar y Cyd

  • Sefydlu perthynas broffesiynol gydag ystod o randdeiliaid. Cydweithio â'r rhain i rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Profiad o reoli prosiectau sy'n canolbwyntio ar reoli data ac ymdrin a sympiau mawr o ddata o nifer o ffynonellau.
  • Profiad o ddadansoddi a dehongli data. Mae profiad o ddata gofodol yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
  • Sgiliau trefnu, rheol llwythi gwaith a chyfathrebu cryf.

Proses Asesu

Mae tri cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am ichi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu eich CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

Cam 3 – Cyfweliad

Dyddiad cyfweliadau: i'w gadarnhau.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau ichi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. Efallai y bydd gofyn ichi roi cyflwyniad byr (5 munud) i agor y cyfweliad – os bydd, anfonir y teitl/pwnc atoch ymlaen llaw.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Jenna Dillon - enquiries.brconstruction@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.