Swydd Wag -- Uwch-gynghorydd Amgueddfeydd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Amgueddfeydd
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd hon yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei dyletswyddau statudol a'i rôl fel y corff datblygu ar gyfer y sector amgueddfeydd. Mae'r Uwch-gynghorydd Amgueddfeydd yn arwain y gwaith o werthuso a monitro statws ac ansawdd y ddarpariaeth, a hyrwyddo gwelliannau i wasanaethau amgueddfeydd lleol drwy ddatblygu polisïau a rhaglen o gymorth strategol.

Bydd deiliad y swydd yn gwneud y canlynol:

  • Arwain y gwaith o ddatblygu'r sector amgueddfeydd yng Nghymru, gan gefnogi a rhoi cyngor i amgueddfeydd a sefydliadau yn y sector er mwyn cynnal safonau priodol ac effeithiol.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a rheoli prosiectau strategol (cyfalaf y refeniw) i wella gwasanaethau amgueddfeydd Cymru, er mwyn cyflawni ymrwymiadau allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
  • Darparu mewnbwn sy'n benodol i'r sector i'r broses o noddi Amgueddfa Cymru.
  • Arwain y gwaith o gynnal cysylltiadau strategol â rhanddeiliaid allweddol ledled y DU a'r tu hwnt.
  • Datblygu ac arwain gwaith sy'n gysylltiedig â darparu cyngor a chymorth ar gyfer amgueddfeydd, gan gynnwys rhaglenni ariannu sy'n sicrhau gwelliannau ar gyfer defnyddwyr y chasgliadau.
  • Goruchwylio'r gwaith o reoli cynlluniau eiddo diwylliannol a deddfwriaeth ar gyfer y DU gyfan, y mae gennym rwymedigaethau statudol yn eu cylch.
  • Gweithredu fel Dirprwy Arweinydd y Tîm, gan ddirprwyo pan fydd angen.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys dau ymrwymiad allweddol, proffil uchel ar gyfer y sector amgueddfeydd, ac ymrwymiadau eraill ar gyfer Amgueddfa Cymru. Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o sicrhau bod cyllid, prosiectau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau hyn mewn ffordd effeithiol:

  • Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd.
  • Buddsoddi yn ein theatrau a'n hamgueddfeydd, gan gynnwys ymrwymo i Theatr Clwyd, sefydlu'r Amgueddfa Bêl-droed a'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

Prif dasgau

Bydd yr Uwch-gynghorydd a Dirprwy Bennaeth y Tîm hefyd yn gwneud y canlynol:

  • Arwain y gwaith o ddatblygu'r sector amgueddfeydd yng Nghymru, a chefnogi amgueddfeydd a sefydliadau yn y sector i gyrraedd a chynnal safon y diwydiant.
  • Arwain polisïau a strategaethau ar gyfer amgueddfeydd, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau a gweithgareddau Llywodraeth Cymru, gan geisio cydweithio ar draws y Llywodraeth a gweithio mewn modd gwahanol lle bynnag y bo modd.
  • Arwain y gwaith o datblygu a rheoli prosiectau strategol i wella gwasanaethau amgueddfeydd lleol yng Nghymru, a datblygu gwaith mewn perthynas â darparu cyngor a chymorth ar gyfer amgueddfeydd.
  • Cefnogi'r arweinwyr proffesiynol wrth ddarparu cyngor proffesiynol i amgueddfeydd, a swyddogion casgliadau a gweithlu yn ôl y gofyn.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau â sefydliadau yn y sector amgueddfeydd ledled Cymru a'r DU, gan gyfrannu at bolisïau ehangach y sector a datblygu rhaglenni a allai fod o fudd i amgueddfeydd Cymru, neu sicrhau bod amgueddfeydd Cymru yn cael eu cynnwys yn rhaglenni o'r fath.
  • Darparu arbenigedd proffesiynol ac arbenigedd sector i gefnogi'r gwaith o noddi Amgueddfa Cymru.
  • Datblygu prosiectau y cytunwyd arnynt o dan y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio, Cynllun Busnes Blynyddol yr Is-adran Diwylliant neu flaenoriaethau eraill, naill ai yn uniongyrchol neu drwy gomisiynu a rheoli prosiectau.
  • Arwain a gweinyddu cyllid rhaglenni, gan oruchwylio'r gwaith o fonitro, adrodd a gwneud taliadau. Disgwylir i brosiectau â blaenoriaeth presennol gynnwys: Amgueddfa Bêl-droed Cymru a gweithgareddau i fuddsoddi mewn amgueddfeydd a theatrau, ac i wella mynediad a chyfranogiad ac i ennyn rhagor o ddiddordeb – yn enwedig ymhlith pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a mewnbynnu i'r Strategaeth Ddiwylliant a gweithredu'r strategaeth honno.
  • Gweithredu fel rheolwr cyllideb ar gyfer cyllidebau a gytunwyd arnynt, cydlynu cynlluniau grant, creu a monitro prosesau a chysylltiadau â rhanddeiliaid, gan oruchwylio cyllidebau cynlluniau ac adrodd yn ôl i'ch rheolwr llinell a Bwrdd Cyllid yr Is-adran. Gweithio'n agos gyda thîm cyllid Gwasanaethau Busnes yr Is-adran, gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf, er mwyn diweddaru a chyfrannu at gyllidebau ehangach yr Is-adran.
  • Cydlynu briffiau, cyfathrebiadau, gohebiaeth a cheisiadau rhyddid gwybodaeth, gan oruchwylio ymweliadau ac adrodd corfforaethol, yn benodol yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes (BIRT), y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio, cydlynu'r gwaith o sefydlu a diweddaru'r holl ddogfennau prosiect, gan uwchgyfeirio risgiau a phroblemau – mae'n debyg y bydd hyn yn cynnwys sefydlu mecanweithiau adrodd newydd neu ddiweddaru mecanweithiau presennol.
  • Gweithredu fel arweinydd ar draws portffolio Amgueddfeydd, Casgliadau a'r Gweithlu, gan ddirprwyo ar gyfer y Gradd 7, sef Pennaeth Amgueddfeydd a Chasgliadau, neu gydweithwyr uwch yn ôl y gofyn.
  • Llinell-reoli dau arbenigwyr amgueddfeydd proffesiynol ar Radd HEO (Swyddog Gweithredol Uwch) a gweithredu fel y rheolwr adrodd ar gyfer y swyddog diwylliant ar Radd EO (Swyddog Gweithredol).
  • Datblygiad personol a proffesiynol a chyfraniadau corfforaethol

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn datblygu cysylltiadau â sefydliadau ar lefel uwch, ac yn ennill diddordeb o bolisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â grantiau a chyllid, ac wrth darparu briffiau a chyngor i'r Gweinidog. 

Bydd gweithio yn yr Is-adran Ddiwylliant yn cynnig y cyfle i ddeiliad y swydd ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi i ennill cymwysterau proffesiynol ac i ddatblygu sgiliau penodol.

Dyddiad Cau

19/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gosod y Trywydd – Gweld y Darlun Cyflawn - Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr terfynol

Ymwneud â Phobl – Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu â phob rhanddeiliad mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb a dal eich tir pan fo angen 

Sicrhau Canlyniadau – Rheoli Gwasanaeth Safonol -Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaethau er mwyn sicrhau rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol ynghyd â gwerth am arian

Sicrhau Canlyniadau – Cyflawni'n Brydlon - Monitro eich gwaith eich hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu'n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad 

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Profiad a gwybodaeth am y sectorau amgueddfeydd, treftadaeth a sectorau cysylltiedig (gan gynnwys cymhwyster ym maes amgueddfeydd a/neu pum mlynedd o brofiad yn y sector)
  2. Profiad o weithio gyda phartneriaid allanol ac o ddatblygu perthnasau cadarnhaol a chynhyrchiol.
  3. Y gallu i ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd wrth iddynt godi ac i roi cyngor a gwybodaeth yn brydlon i'r Gweinidog a chydweithwyr ar lefel uwch.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad, lle gofynnir iddynt wneud cyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad, lle gofynnir iddynt wneud cyflwyniad.
Victoria Rogers - Culture@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.