Swydd Wag -- 8776 Uwch Reolwr Polisi Tai Sector Preifat - Cynllun Lesio Cymru

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Polisi Tai Sector Preifat
SEO - £41,700 - £49,370
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae'r Is-adran Polisi Tai yn faes polisi cyflym, proffil uchel sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â digartrefedd; diwygio'r sector rhentu preifat; a datblygu a diwygio deddfwriaeth i ddarparu gwell amddiffyniad i denantiaid. Gweledigaeth y Gweinidog yw gwella'r sector rhentu preifat yn sylweddol er mwyn sicrhau ei fod yn cynnig cartrefi o ansawdd da a hygyrch i'r dyfodol.  Bydd disgwyl i ddeiliad swydd lwyddiannus chwarae rhan  allweddol wrth ddatblygu polisïau arloesol a chynaliadwy i dyfu nifer y cartrefi diogel, hygyrch, cynaliadwy ac o ansawdd da yn y sector rhentu preifat, er mwyn bodloni anghenion dinasyddion Cymru.

Prif dasgau

Prif Gyfrifoldebau 

  • Arwain datblygiad pellach a chyflawni'r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth ar Cynllun Lesio Cymru, i ddarparu tai diogel, carbon isel a fforddiadwy ar draws Cymru i'r rhai a allai brofi digartrefedd fel arall. (Mae Cynllun Lesio Cymru yn cynnwys awdurdodau lleol yn prydlesu eiddo gan landlordiaid am 5-20 mlynedd i'w rhentu i'r rhai sydd dan fygythiad o ddigartrefedd.)
  • Arwain ar ymgysylltu ag awdurdodau lleol drwy gyfarfodydd cyswllt rheolaidd a thrwy Grŵp Cynghori rhanddeiliaid, a sefydlwyd i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i adolygu a gwella Cynllun Lesio Cymru yn rheolaidd.
  • Cyfrifoldeb dros reoli'r Bwrdd Prosiect a sicrhau bod trefniadau llywodraethu a risg cadarn ar waith.
  • Arwain a goruchwylio cynllun cyfathrebu i hyrwyddo'r cynllun, gan sicrhau bod adroddiadau'n cael eu rhoi i Weinidogion yn amserol.
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi i werthuso'r cynllun, gan ddarparu argymhellion ar gyfer y dyfodol.
  • Dirprwyo ar gyfer Pennaeth y Gangen pan fo angen.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl chi'n rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.  Bydd cyfle i chi weithio gyda nifer o brosiectau a rhaglenni ar draws holl feysydd Llywodraeth Cymru. Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel, gan gynnwys uwch staff, Gweinidogion a'n carfan o Brentisiaid Digidol. Byddwch yn helpu i adeiladu a gwella cysylltiadau a chydweithio yn y gymuned Ddigidol, Data a Thechnoleg draws-lywodraethol.

Dyddiad Cau

05/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiadau a Sgiliau

Bydd yr Ymddygiadau a'r Sgiliau canlynol  yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil

Gosod y Trywydd

  • Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain.

Cyflawni’n Brydlon

  • Monitro eu gwaith eu hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad.

Arwain a Chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

Sicrhau Gwerth am Arian

  • Gweithio’n hyderus gyda data ariannol a data rheoli perfformiad i baratoi rhagolygon, a rheoli a monitro’r cyllidebau yn unol â’r cynlluniau y cytunwyd arnynt.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Bydd y meini prawf penodol i'r swydd ganlynol yn cael eu hasesu yn y broses sifftio ac yn y cyfweliad.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych chi'n cwrdd â phob un o Feini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  • Meddwl strategol cryf a sgiliau trefnu.
  • Profiad polisi a chyflawni cryf gan gynnwys y gallu i dynnu ar dystiolaeth i gasglu opsiynau i wneud penderfyniadau effeithiol.
  • Sgiliau ymgysylltu â rhanddeiliaid rhagorol a phrofiad o gyd-gynhyrchu.

Proses Asesu

Mae 3 cam i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym yn edrych yn benodol i chi ddangos sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd.  Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd o'r hysbyseb.

  1. Sylwch y byddwn yn asesu eich CV a'ch datganiad personol yn erbyn meini prawf penodol y swydd a restrir isod .  Sicrhewch fod eich datganiad personol yn nodi sut rydych chi'n bodloni Meini Prawf Penodol i’r Swyddi. (tua 300 o eiriau ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, bydd holl CVs yr ymgeiswyr a’r datganiadau personol yn cael eu hasesu.

Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni gofynion sylfaenol y Meini Prawf Penodol i’r Swydd yn derbyn eu prawf ar-lein/cyflwyniad (teitl) o 5 munud o hyd).

Cam 3 – Prawf sgiliau (Ar-lein)

Bydd y prawf sgiliau wedi'i drefnu awr cyn eich cyfweliad

Dyddiad y cyfweliad yw TBC.

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y Proffiliau Sgiliau neu Ymddygiadau/Sgiliau a Meini Prawf Penodol y Swydd a amlinellir yn adrannau'r hysbyseb hon.

Yn ystod y cam cyfweliad, gofynnir cwestiynau a fydd yn caniatáu i chi ddarparu tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf ac Ymddygiadau a Sgiliau sy'n benodol i'r swydd ac sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
James Hooker

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.