Swydd Wag -- Rheolwr Cysylltiadau Safon Ansawdd Tai Cymru

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Datgarboneiddio a Safonau
HEO - £32,460 - £39,690
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £32,460 a £36,590 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, ei wybodaeth a'i brofiad, a'i berfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod y cyflog a gynigir.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Penodiad Cyfnod Penodol / Secondiad 5 mlynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r Tîm Safonau a Datgarboneiddio Cartrefi yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio'r 1.4 miliwn o gartrefi sydd yng Nghymru, ynghyd â'r safonau cysylltiedig Mae cartrefi yn gyfrifol am 27% o'r holl ynni sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru, a 15% o'r holl ynni sy'n dod o'r Grid Cenedlaethol sy'n arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae ôl-osod y cartrefi hyn yn fesur ataliol allweddol, gan ei fod yn ceisio gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi a helpu Gweinidogion Cymru i gyrraedd targedau sy'n rhwym mewn cyfraith. Dylai ein strategaeth â'n buddsoddiadau roi blaenoriaeth i dai cymdeithasol, gan ddangos yr arferion gorau, datblygu cadwyni cyflenwi a sgiliau a fydd yn ysgogi'r farchnad ac arwain strategaethau ar gyfer rhaglenni ar gyfer ôl-osod tai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr. Bydd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol, eu tenantiaid, busnesau bach a chanolig, cyrff cyllido a rhanddeiliaid allweddol eraill weithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniadau sydd o fudd i bawb. 

Bydd y gwaith o gyflawni'r strategaeth yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio flaengar Llywodraeth Cymru;
  • Datblygu a sicrhau cymorth trawslywodraethol a thraws-sector ar gyfer strategaeth i gyflawni'r ymrwymiadau lefel uchel a osodwyd gan Weinidogion Cymru yng Nghynllun Sero Net Cymru ar gyfer 2021–25;
  • Safon Ansawdd Tai Cymru;
  • Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru.

Diben y swydd hon yw gwella ansawdd 230,000 o gartrefi cymdeithasol sydd o dan berchnogaeth a rheolaeth awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i godi safonau tai cymdeithasol Cymru drwy osod Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) sy’n mynnu’r safonau uchaf. Mae'n ofynnol o dan y gyfraith i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru gydymffurfio â'r safon hon

Mae SATC yn safon sy'n canolbwyntio ar denantiaid, wedi'i dylunio i uwchraddio asedau a mynd i'r afael a chanlyniadau negyddol i breswylwyr o ran iechyd, addysg a llesiant.  Mae SATC hefyd yn gosod safonau mewn perthynas â datgarboneiddio i gefnogi'r gwaith o leihau allyriadau carbon o stoc tai Cymru er mwyn cyfrannu at nodau newid hinsawdd y Llywodraeth. 

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod Safon Ansawdd Tai Cymru cael ei chyflawni drwy goruchwylio a monitro rheolaidd, nodi problemau a allai atal cyflawni'r Safon cystal ag y bo modd, a gweithio ar y cyd â chydweithwyr mewnol ac allanol er mwyn hwyluso atebion priodol.

Prif dasgau

  • Monitro SATC a'i hasesu am risg ar draws landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, gan hysbysu uwch-swyddogion am gyfyngiadau wrth gyflawni, a gweithio ar y cyd â chydweithwyr mewnol ac allanol er mwyn hwyluso atebion priodol.
  • Cydlynu gwaith monitro unigol a chyfarfodydd monitro grŵp, a chydgysylltu â phrosesau grant i sicrhau bod polisïau a rhaglenni SATC yn cyflawni'r canlyniadau a ddisgwylir.
  • Cynllunio a hwyluso digwyddiadau rhwydweithiol, gan gynnwys cyflwyno diweddariadau rheolaidd ar SATC.
  • Datblygu polisïau ar gyfer SATC2 (Grŵp Gorchwyl a Gorffen, Galluogwyr Tai Gwledig, grŵp ymarferwyr, diweddariadau i'r sector).
  • Gweithi gyda phartneriaid i gefnogi'r gwaith o gyflawni SATCau a'r gwaith o ddiweddaru'r Safon.
  • Gweithio gydag amrediad o sefydliadau rhanddeiliad er mwyn rhoi ar waith yn effeithiau polisïau a rhaglenni SATC, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid, Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru – Prifysgol Caerdydd.
  • Trafod ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru er mwyn alinio canlyniadau SATC a pholisïau a rhaglenni allweddol eraill y Llywodraeth, a chynyddu'r canlyniadau hyn cymaint ag y bo modd. Mae hyn yn cynnwys KAS, Rheoleiddio, Diogelwch Adeiladau, Tlodi Tanwydd, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ac Arian Llywodraeth Leol.
  • Rheoli'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr a'r cyllid llenwi bwlch gwaddol o £108 miliwn o gyllid cyfalaf bob blwyddyn, ynghyd â rhaglenni cyllid eraill SATC, i sicrhau bod cyllid yn cael ei wario mewn modd priodol ac yn unol â disgwyliadau’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Grantiau a gofynion cymorth gwladwriaethol.
  • Drafftio a darparu ymatebion i Ymatebion Swyddogion, Cyngor Gweinidogol, Achosion Dyddiadur, Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac ymholiadau Pwynt Cyswllt Cyntaf.
  • Cyfathrebiadau ysgrifenedig a llafar ag aelodau'r cyhoedd ynghylch tai cymdeithasol presennol.
  • Ymdrin ag ymholiadau etifeddol am drosglwyddo stoc.

Cyfleoedd datblygu

Mae hwn yn faes proffil uchel iawn sy'n denu cryn sylw yn y cyfryngau. Felly mae'r rôl yn cynnwys gweithio ar draws y Llywodraeth gydag amrediad o uwch randdeiliaid sydd â diddordeb mewn meysydd polisi allweddol, gan gynnwys, er enghraifft, rheoliadau adeiladu, datgarboneiddio, tlodi tanwydd, cyflenwadau tai, addysg / prentisiaethau yn ogystal â chysylltiadau â meysydd sydd â chryn ddiddordeb ym maes tai e.e. gwasanaethau cymdeithasol.

Dyddiad Cau

05/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Bydd yr Ymddygiadau canlynol yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol, gredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.
  • Newid a Gwella - Annog syniadau am newid o ystod eang o ffynonellau.
  • Gweithio ar y Cyd - Sefydlu perthynas broffesiynol gydag ystod o randdeiliaid.
  • Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gweithio gyda rhanddeiliaid i osod blaenoriaethau, amcanion ac amserlenni. Cyflawni canlyniadau o safon uchel sy'n bodloni anghenion cwsmeriaid yn llwyddiannus ac yn rhoi gwerth am arian.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

Bydd y meini prawf canlynol sy’n benodol i'r swydd yn cael eu hasesu yn y cam sifftio a’r cyfweliad.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  1. O leiaf dwy flynedd o brofiad o weinyddu a rheoli rhaglenni grant mawr a chymhleth.
  2. Gallu y gellir ei ddangos i adeiladau perthnasau credadwy â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys timau asedau landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid, er mwyn ailwampio tai cymdeithasol i'r safonau gofynnol.
  3. Drwy oruchwylio a monitro effeithiol, nodi yn gynnar problemau wrth gyflawni polisïau a rhaglenni, a hwyluso atebion ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol/allanol fel sy'n briodol.

Proses Asesu

Mae tri cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am ichi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu eich CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

Cam 3 – Cyfweliad

Dyddiad cyfweliadau: i'w gadarnhau.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau ichi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. Efallai y bydd gofyn ichi roi cyflwyniad byr (5 munud) i agor y cyfweliad – os bydd, anfonir y teitl/pwnc atoch ymlaen llaw.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Manteision Gweithio yn Llywodraeth Cymru

Ble caf i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym o blaid cynnig ffordd hybrid o weithio – ‘Gweithio Clyfar’ fel y’i gelwir. Mae’n golygu cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio gartref gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac ymrwymiadau eich tîm.  Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau gennych i weithio mewn lleoliad penodol oherwydd eich amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu a oes amhariad neu gyflwr ar eich iechyd. Dywedwch ble yr hoffech weithio yn eich CV, yn y blwch 'Dewis lleoliadau'.

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

Beth yw’r manteision?

Mae nifer o fanteision gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £32,460 - £39,690
  • Bydd unigolion ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â deg diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i daro’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.
  • Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff sydd am reoli’r cydbwysedd rhwng eu bywyd a’u gwaith trwy weithio gartref (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swydd, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – i chi gael prydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy’ch cyflog
  • Cyllid Cymorth – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Cycle2Work a mwy
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth
  • Awr Les – Awr les bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn 
  • Tâl – Incrementau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'i deilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod nhw eu hunain, a does neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn ei erbyn
  • Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn, ar gyfer: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fydd eu hangen fwyaf
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i ofalu am eu hiechyd meddwl
  • Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 i roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio
  • Tri Undeb – Mae gennym dri undeb ar hyn o bryd
Darren Hatton - 03000 628402

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.