Swydd Wag -- Pensaer Datrysiadau

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ICT
SEO - £41,700 - £49,370
£39,310
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Lleoliad arall
Er bod hon yn swydd Cymru Gyfan, bydd angen bod yn bresennol yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn adolygiadau technegol a sesiynau briffio gyda thrydydd partïon. Cytunir ar ba mor aml y bydd angen bod yn bresennol ar safleoedd cyn i'r swydd ddechrau, yn unol â chanllawiau diweddaraf COVID-19.
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'w thechnoleg TGCh dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac fe'i hystyrir yn un o sefydliadau arweiniol sector cyhoeddus y DU o ran ei gallu Digidol a TGCh. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau nifer o brosiectau TGCh megis newid i Exchange 365, symud oddi wrth defnyddio e-bost GSI, cyflwyno gliniaduron newydd i holl staff y Llywodraeth (gan eu galluogi i weithio'n hyblyg) a chwblhau'r dasg enfawr o symud cymwysiadau i Microsoft Azure. Mae hyn wedi'i gofnodi mewn astudiaeth achos Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU ar enghreifftiau o arfer da o symud pethau i'r Cwmwl (gweler https://www.gov.uk/government/case-studies/how-the-welsh-government-migrated-their-technology-to-the-cloud)

Mae swydd y Pensaer Datrysiadau yn rhan o'r Proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg yn Llywodraeth Cymru. Bydd y Pensaer Datrysiadau yn cyflawni prosiectau cymhleth drwy astudio a deall gofynion cleientiaid, nodi bylchau (os oes rhai) rhwng gofynion cleientiaid a nodweddion system, a meddwl am ddatrysiadau i bontio'r bwlch.

 

Prif dasgau

  • Cysylltu â chleientiaid a chynrychiolwyr busnes i ddeall anghenion busnes.
  • Cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill i ddylunio pensaernïaeth datrysiadau ar gyfer busnesau a chleientiaid.
  • Sicrhau bod prosiectau'n cydymffurfio â dyluniad pensaernïaeth datrysiadau.
  • Darparu arweiniad bensaernïol i dîm y prosiect.
  • Darparu gwasanaethau ymgynghori a chymorth technegol ar weithredu prosiectau i dîm y prosiect.
  • Egluro materion technegol a strategaethau datrysiadau TG i randdeiliaid a gweithwyr TG proffesiynol eraill.
  • Cadw cofnodion cywir o ba ddeunyddiau a ddefnyddir, beth y disgwylir ei gyflawni a'r cerrig milltir a gyrhaeddir.
  • Sicrhau bod cerrig milltir datrysiadau'n cael eu cyflawni ar yr adeg gywir.
  • Arwain gweithgareddau'r uned pensaernïaeth datrysiadau i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau ar amser.
  • Sicrhau bod y datrysiadau pensaernïol (meddalwedd a rhaglenni) a ddyluniwyd yn cydweddu ag anghenion busnes a chaledwedd.
  • Edrych ar gynigion gwerthwyr a chyflenwyr i sicrhau bod mewnbynnau ansawdd yn cael eu darparu am y gost leiaf bosibl.
  • Monitro gweithgarwch rhaglenwyr a datblygwyr allanol ar brosiectau datrysiadau TG.
  • Nodi a lleihau risg neu risgiau busnes presennol sy'n gysylltiedig â phensaernïaeth datrysiadau. 

Cyfleoedd datblygu

Gallwch ddisgwyl cael eich cefnogi i sefydlu eich hun yn y radd, ac i fod y gorau y gallwch fod. Byddwch yn cael eich annog i fanteisio ar cyfleoedd i ddatblygu'n barhaus, ac i gynnig y cyfle i eraill ddysgu oddi wrthych wrth i chi wneud cynnydd.

Dyddiad Cau

14/08/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gan gadw mewn cof y Sgiliau Allweddol uchod, dylech gyflwyno'ch Datganiad Personol yng nghyd-destun y 5 Ymddygiad canlynol:

Troi Problemau Busnes yn Ddyluniad Technegol - Gallwch ddylunio systemau a nodweddir gan lefelau canolig o risg, effaith a chymhlethdod busnes neu dechnegol.


Gwneud ac Arwain Penderfyniadau - Gallwch argymell penderfyniadau wrth i'r lefel risg a chymhlethdod gynyddu.

Arweinyddiaeth – Rydych yn ystyried effeithiau eich gweithgareddau chi eich hunan a rhai eich tîm ar randdeiliaid a defnyddwyr.

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd - Rydych yn llwyddo i gyflawni canlyniadau o ansawdd uchel sy'n bodloni anghenion cwsmeriaid ac yn sicrhau gwerth am arian.

Newid a Gwella - Rydych yn egluro'n glir y rhesymau dros newid i gydweithwyr a sut i'w rhoi ar waith, gan gefnogi unigolion ag anghenion gwahanol i addasu a newid.

Proses Asesu

Drwy gydol y broses asesu gyfan, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn yr Ymddygiadau o fframwaith Digidol, Data a Thechnoleg a Phroffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.

Arweinyddiaeth, Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd, Newid a Gwella, Cyfathrebu a Dylanwadu, Datblygu eich Hunan ac Eraill, Troi Problemau Busnes yn Ddyluniad Technegol a Phontio'r bwlch rhwng y Technegol a'r Annhechnegol

 

Y Cam Sifftio

Dylech ddefnyddio'r templed a ddarperir i gyflwyno eich Datganiad Personol a’ch CV.

Caiff eich Datganiad Personol ei asesu mewn dau gam:

Cam 1

Cynhelir y cam sifftio cychwynnol yn erbyn y ddau Sgil Digidol, Data a Thechnoleg sy'n yr adran 'Cymwyseddau / Meini praw penodol i'r swydd' sef:

  • Troi Problemau Busnes yn Ddyluniad Technegol
  • Gwneud as Arwain Penderfyniadau

Cam 2

Caiff Datganiadau Personol yr ymgeiswyr hynny sydd wedi pasio'r cam sifftio cychwynnol eu hasesu ymhellach yn erbyn y tri Ymddygiad Proffil Llwyddiant sydd yn yr adran 'Cymwyseddau / Meini praw penodol i'r swydd' sef:

  • Arweinyddiaeth
  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
  • Newid a Gwella

Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na 1500 o eiriau - bydd unrhyw gynnwys ar ôl y cyfyngiad o 1500 o eiriau yn cael ei ddiystyru.

Defnyddir eich CV i helpu i roi gwybod i'r panel am hanes eich gyrfa, fodd bynnag ni fydd yn cyfrannu at sgôr gyffredinol y sifft. Ni ddylai CVs fod yn fwy na dwy ochr A4

 

Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, ni fydd modd i chi ofyn am eich sgoriau yn y cam sifftio hyd nes y bydd proses asesu lawn wedi'i chwblhau, gan bydd rhai o'ch sgoriau yn gyfrannu at eich sgor asesu terfynnol.

 

Y Cam Asesu

Caiff pob ymgeisydd sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio wahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad asesu. Bydd tair rhan iddo:

  • Rhan 1 – Paratoi ar gyfer yr Ymarfer Technegol (sesiwn fideo o bell yn defnyddio Microsoft Teams, heb panel)
  • Rhan 2 – Cyflwyniad ac Adborth ar yr Ymarfer Technegol (sesiwn fideo o bell yn defnyddio Microsoft Teams gyda Phanel Technegol)
  • Rhan 3 – Y Cyfweliad (sesiwn fideo o bell yn defnyddio Microsoft Teams gyda Phanel Cyfweld)

Caiff manylion pellach am y cam asesu eu rhannu gydag ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl y sifft.


Y Canlyniad Terfynol

Yn dilyn y digwyddiadau asesu, caiff canlyniadau gael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Y Rhestr Wrth Gefn

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi derbyn yr isafswm sgôr ar draws yr holl ymddygiadau gofynnol yn cael y cyfle i fod ar restr 'wrth gefn' Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau. Os bydd swyddi ychwanegol yn cael eu creu neu os bydd swyddi presennol yn dod yn wag yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y rôl i'r ymgeisydd hwnnw ar y rhestr wrth gefn sydd â'r sgôr uchaf. Os bydd yn gwrthod y swydd, gall Llywodraeth Cymru gynnig y swydd i'r ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac yn y blaen.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Manteision

  • Cyflog cychwynnol o £39,310
  • 31 diwrnod o wyliau (yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint)
  • Swydd barhaol
  • Cyllideb datblygiad personol
  • Gweithio gartref
  • Yr offer TGCh diweddaraf
  • Yswiriant marw yn y swydd
  • Oriau gweithio hyblyg
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith - beic newydd sbon gwerth hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Cynllun Talebau Gofal Plant, yn arbed hyd at £933 y flwyddyn
  • Cynllun pensiwn cyfrannol
Meleri.Jones@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylech lanlwytho eich cais yn yr adran ' atodwch gymhwysedd/tystiolaeth meini prawf penodol i'r swydd ' ar y ffurflen gais ar-lein. Defniyddiwch y templed a ddarperir. 

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SharedServiceHelpdesk@gov.wales i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Ymddygiaday’r Gwasanaeth Sifil a'r Fframwaith DDaT.

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.