Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Cyngor Clinigol a Llywodraethu Ansawdd *Wedi'i ail-hysbysebu - 7196 yn flaenorol*

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£63,880, ond gall cyflog cychwynnol o hyd at £69,690 gael ei gynnig ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Diben y rôl hon yw darparu arbenigedd clinigol a gwasanaeth proffesiynol uwch i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) er mwyn sicrhau bod gwaith AGIC yn destun sicrwydd clinigol, yn gredadwy ac yn adlewyrchu arfer gorau.

Mae'r rôl yn gyfrifol am oruchwylio a rhoi Strategaeth Ansawdd AGIC ar waith a llywodraethedd.

Bydd deiliad y swydd yn aelod gweithgar o dîm Gweithredol AGIC a bydd yn ofynnol iddo fod yn arweinydd Gweithredol ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd penodol er mwyn cryfhau, cynorthwyo a bod yn bwynt uwchgyfeirio ar gyfer trefniadau rheoli cydberthnasau presennol AGIC. 

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gweithgareddau arolygu ac adolygu pan fo angen, a/neu roi adborth i sefydliadau yn dilyn arolygiadau ac adolygiadau a'u herio.

Prif dasgau

Darparu gwasanaeth clinigol arbenigol ac arweinyddiaeth a chyngor proffesiynol o fewn AGIC.

Fel aelod o dîm Gweithredol AGIC, darparu cyngor a chymorth clinigol o ansawdd uchel i'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr, a chyfrannu at benderfyniadau Uwch-dîm Arwain AGIC.

Cyfarwyddo a goruchwylio gweithgareddau a swyddogaethau penodol yn strategol o fewn y portffolio dirprwyedig, gan gynnwys arwain a rheoli'r Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl/Gwasanaeth Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD) o ddydd i ddydd, a'r swyddogaeth cyngor clinigol a llywodraethu ansawdd yn AGIC.

Defnyddio rhwydweithiau proffesiynol i helpu AGIC i gael gafael ar gyngor clinigol a phroffesiynol priodol mewn meysydd lle nad oes gan ddeiliad y swydd nac aelodau eraill o dîm clinigol AGIC y profiad na'r arbenigedd gofynnol.

Sicrhau bod cyngor clinigol yn cael ei ddarparu i staff AGIC wrth gynnal a chadw a datblygu methodolegau adolygu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu materion cyfredol, polisïau cenedlaethol a chanllawiau clinigol a safonau arfer gorau cydnabyddedig.

Rhoi arweiniad a chyfeiriad i sicrhau bod systemau a phrosesau effeithiol ar waith i gyflawni Strategaeth Ansawdd AGIC.

Arwain a datblygu cronfa Adolygwyr Cymheiriaid Clinigol AGIC, gan sicrhau cyfraniad clinigol o safon uchel i agweddau ar waith cofrestru, arolygu, adolygu a sicrwydd AGIC.

Cymhwyso gwybodaeth broffesiynol a phrofiad o'r gwasanaeth i lywio hyfforddiant, datblygiad a chymorth i staff AGIC er mwyn datblygu eu sgiliau, eu harbenigedd a'u gwybodaeth am y gwasanaeth.

Datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith mewnol ac allanol effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol, gan gynnwys rheoleiddwyr gwasanaethau a rheoleiddwyr proffesiynol eraill ac o fewn y llywodraeth.

Defnyddio rhwydweithiau clinigol a phroffesiynol er mwyn helpu i ledaenu canfyddiadau arolygiadau ac adolygiadau AGIC er mwyn cyfrannu at waith gwella cenedlaethol ac i gefnogi gwaith dysgu systemau.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn cynnig cyfle i weithiwr proffesiynol clinigol profiadol ennill profiad ehangach wrth gyflawni gwaith arolygu a rheoleiddio.

Mae'r swydd hefyd yn cynnig cyfle i ennill profiad ym maes datblygu methodolegau newydd ar gyfer arolygiadau'r GIG a'r sector annibynnol a chyfrannu at wella safonau'r gwasanaeth ledled Cymru.

Dyddiad Cau

05/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Dehongli beth yw'r prif faterion mewn problemau cymhleth a chadarnhau dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn chwilio am yr opsiwn gorau.

Arwain a Chyfathrebu - Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau

Cydweithio a Phartneru - Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy'n gyffredin rhyngddynt.

Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gweld sut y mae'r maes busnes yn cymharu â'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau i gwsmeriaid yn ogystal ag arferion gorau'r diwydiant, a nodi'r gwelliannau sydd eu hangen i gynlluniau.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd: 

1)    Cofrestriad cyfredol â chorff proffesiynol sy'n berthnasol i'r swydd a gradd lefel meistr o leiaf mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag iechyd. 

2)    Profiad o weithio mewn uwch-rolau clinigol a rheoli mewn amrywiaeth o feysydd gwasanaeth gofal iechyd megis gofal eilaidd acíwt, gofal trydyddol arbenigol, gofal cymunedol a gofal sylfaenol, gofal iechyd meddwl. Yn ddelfrydol, bydd y profiad hwn wedi meithrin y canlynol:
 
•    Dealltwriaeth dda o arolygu, ymchwilio, archwilio a gwella, adolygiadau a rheoleiddio proffesiynol mewn lleoliadau gofal iechyd. 
 
•    Profiad o ymchwilio a rheoleiddio annibynnol, gyda dealltwriaeth dda o fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol.

3)    Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig a'r gallu i gyfathrebu'n glir ac effeithiol â staff proffesiynol a'r cyhoedd. Dylai hyn gynnwys y gallu i ddadansoddi a dehongli llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu canfyddiadau. 

Proses Asesu

Caiff ceisiadau eu sifftio yn ôl yr arfer, ac yna cynhelir cyfweliadau.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Alun Jones 0300 062 8642

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.