Swydd Wag -- Swydd Wag - Cyfleoedd Cyfnod Penodol a Secondiad Llywodraeth Cymru, Ymgyrch Recriwtio Uwch Swyddogion Gweithredol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
Penodir Penodiadau Tymor Penodol ar isafswm y band tâl (£40,100) nad oes modd ei drafod. Bydd y mwyafrif o Secondai yn cadw eu cyflog cyfredol gyda'u cyflogwyr; Gweler ‘Gwybodaeth Arall’ isod am dermau Secondiad.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Penodiad Tymor Penodol a Secondiadau
Yn gyffredinol, caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu penodi ar gontract tymor penodol neu gytundeb secondiad 2 flynedd. Fodd bynnag, rydym yn agored i ystyried penodiadau byrdymor hefyd.
Cymru gyfan

Lleoliad swydd hyblyg yw ystyr Cymru gyfan, yn amodol ar anghenion y busnes. Sylwch efallai na fydd bob amser yn bosibl bodloni cais i ddewis swyddfa benodol, ond bydd modd ystyried ceisiadau.

Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd yn Aberystwyth, Bedwas, Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin, Llandrindod, Cyffordd Llandudno, Merthyr Tudful, y Drenewydd ac Abertawe. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddweud pa leoliad y byddent yn eu ffafrio yn ystod y cam penodi, pan fo sawl lleoliad yn bosibl ar gyfer y swydd.

Rydym yn gefnogol i weithio hyblyg a theilwra patrymau gwaith i amgylchiadau unigol. pan fo angen busnes yn gallu caniatáu hynny. Yn dibynnu ar natur y swydd, efallai y bydd hi’n bosibl i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i weithio rhai o’u horiau gwaith gartref drwy gytundeb anffurfiol gyda’u rheolwr llinell.

Dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y swyddi y recriwtir ar eu cyfer yn yr ymgyrch hon, nid dramor.

17 i 28 Ionawr 2022

Manylion am y cyfle

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio yn ôl y gwerthoedd a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: sef uniondeb, gwrthrychedd, gonestrwydd ac amhleidioldeb. Yn ychwanegol at y cod mae gennym ein gwerthoedd a’n disgwyliadau ein hunain sy’n crynhoi ein ‘ffordd Gymreig’ o weithio, gan adlewyrchu’r uchelgeisiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae ein Huwch Swyddogion Gweithredol yn cyflawni rôl allweddol yn Llywodraeth Cymru, a disgwylir iddynt ysgwyddo cyfrifoldeb lefel uchel dros feysydd gwaith penodol, arwain a rheoli timau a’u llwythi gwaith a dirprwyo tasgau. Mae Uwch Swyddogion Gweithredol yn gwneud cyfraniad sylweddol at y meddylfryd a’r penderfyniadau a wneir o ran datblygu polisi, strategaeth a chynllunio busnes ac, wrth wneud hynny, byddant yn gweithio’n agos gydag uwch reolwyr. Efallai y bydd ganddynt hefyd gyfrifoldebau sylweddol o ran rheoli a chysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru ystod eang o rolau blaenoriaeth ar gael sy'n gofyn am sgiliau, profiad a gwybodaeth yn unol â Disgrifiad Gradd ac Ymddygiadau  Uwch Swyddogion Gweithredol a restrir isod. Gallai’r rolau a benodir iddynt trwy'r cynllun hwn fod yn holl feysydd gwaith Llywodraeth Cymru, ond yn arbennig ar draws datblygu a chyflawni polisïau, rheoli rhaglenni a phrosiectau, cyllid a chyflawni gweithredol a digidol, data a thechnoleg.

Disgrifiad o'r Gradd

Disgrifiad o’r Radd

Yr hyn y bydd y sefydliad yn ei ddisgwyl gennych chi mewn rôl Uwch Swyddog Gweithredol

  • Byddwch yn gyfrifol am reoli meysydd gwaith penodol gan ddefnyddio eich profiad neu’ch gwybodaeth i fod yn graff wrth ddehongli gwybodaeth gymhleth neu anghyson gan bwyso a mesur nifer o ffactorau a thystiolaeth i lunio syniadau ac atebion adeiladol.
  • Bydd gennych ddull arloesol o ddatrys problemau. Byddwch yn gweithredu’n annibynnol i chwilio am gyfleoedd newydd, gan ddatblygu atebion newydd. Byddwch yn ymatebol ac yn ymaddasol, gan ddatblygu opsiynau newydd wrth i bethau newid.
  • Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth wleidyddol a dealltwriaeth o'r dirwedd wleidyddol. Byddwch yn defnyddio hyn wrth ystyried effaith eich penderfyniadau a'ch gwaith ar y maes busnes ehangach, ac wrth lunio cynigion ar gyfer uwch swyddogion.

Yr hyn y bydd eich tîm yn ei ddisgwyl

  • Efallai y bydd gofyn i chi reoli tîm gan bennu cyfeiriad clir ar gyflawni eu hamcanion. Byddwch yn cefnogi aelodau tîm yn eu gwaith megis meysydd gwaith cymhleth; dyrannu a blaenoriaethu gwaith; rheoli perfformiad; hyfforddi a datblygu; mentora a hyfforddi.
  • Byddwch yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant, gan greu amgylchedd lle mae unigolion yn teimlo’n ddiogel i herio, rhannu syniadau a mynegi pryderon i fabwysiadu arddull arweinyddiaeth cynhwysol.
  • Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a chynnal systemau neu brosesau i sicrhau rhagoriaeth neu werth am arian.

Yr hyn y bydd rhanddeiliaid allweddol yn ei ddisgwyl

  • Byddwch yn dangos arweiniad wrth greu, adeiladu a chynnal cysylltiadau adeiladol ar bob lefel.
  • Byddwch yn gallu teilwra ac addasu eich arddull cyfathrebu (ysgrifenedig a llafar) i gynghori, arwain, dylanwadu a darbwyllo rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel sy’n briodol.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle gwych i ddylanwadu trwy ddod â'ch gallu, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad byw gwerthfawr ac unigryw i Lywodraeth Cymru. 

Bydd gennych y gallu i ddatblygu eich galluoedd trwy fod yn rhan o amrywiaeth eang o waith hanfodol (megis gwaith adfer wedi COVID-19 a Chyflawni Brexit) a thrwy weithio gydag ystod eang o bartneriaid e.e. awdurdodau lleol, cwmnïau preifat a sefydliadau'r trydydd sector. 

Byddwch hefyd yn gallu datblygu eich dealltwriaeth o'r dirwedd wleidyddol a'r rôl y mae Gweinidogion yn ei chwarae wrth osod yr agenda ar gyfer eich maes busnes.

Dyddiad Cau

18/11/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd, sy’n niwrowahanol neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel bo pob aelod staff (neu ddarpar staff newydd) yn gallu cyflawni hyd eithaf eu gallu.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw berson anabl y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. ‘Meini prawf gofynnol’ yw bod rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ar bob cam o’r broses asesu cyn cyfweliad sy’n dangos eich bod yn bodloni’r gofynion yn y disgrifiad swydd yn gyffredinol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfa pobl anabl.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, yn niwrowahanol neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac am drafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o’r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddwn yn rhoi addasiadau ar waith pe baech yn llwyddo, e-bostiwch RecriwtioAllanol@llyw.cymru cyn gynted â phosibl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiad

Arweinyddiaeth - Ystyried gwahanol anghenion, syniadau a safbwyntiau unigol, gan hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i bawb.
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Dadansoddi a defnyddio ystod o wybodaeth berthnasol a chredadwy o ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.
Cyflawni’n gyflym - Gweithredu ar unwaith i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion yn gwrthdaro er mwyn cynnal perfformiad.
Datblygu Eich Hun ac Eraill -  Nodi bylchau yn ngalluoedd eich hun a’ch tîm.
Cyfathrebu a dylanwadu - Cyfathrebu mewn modd syml, gonest sy’n ennyn diddordeb er mwyn sicrhau’r ddealltwriaeth a’r effaith fwyaf posibl.
Cydweithio - Sefydlu cysylltiadau proffesiynol gyda rhanddeiliaid amrywiol.

Proses Asesu

Y Broses Asesu 

Dyddiadau Allweddol

Cais yn cau – 18 Tachwedd 2021

Profion Ar-lein y Gwasanaeth Sifil – 22 i hanner dydd 29 Tachwedd 2021

Cyfweliadau – 17 i 28 Ionawr 2022

Nodwch y byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen newid y dyddiadau asesu allweddol uchod yn sgil amgylchiadau na ellir eu rhagweld. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych ar eich ebyst yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymwybodol ein bod wedi cysylltu â chi ynghylch y broses asesu.

Ffurflen Gais 

Wrth lenwi'r Ffurflen Gais ar gyfer y cyfle hwn gofynnir ichi ddarparu tystiolaeth, ar ffurf enghreifftiau go iawn, o'ch sgiliau, eich profiad a'ch gallu yn y chwe Ymddygiad Uwch Swyddogion Gweithredol a restrir uchod. Dyma'r rhan bwysicaf o'ch Ffurflen Gais a bydd panel recriwtio yn y Cam Sifftio yn ei hasesu. Yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir, efallai y gofynnir i Civil Service Resourcing sifftio ceisiadau ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd pob cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei sifftio gan aelodau panel Cymraeg eu hiaith yn Llywodraeth Cymru.

Profion Ar-lein 

Byddwch yn cael gwahoddiad i gwblhau Prawf Llafar y Gwasanaeth Sifil Ar-lein. Bydd ymgeiswyr sydd wedi dewis Cymraeg fel eu dewis iaith ar gyfer asesu yn cwblhau’r prawf hwn yn Gymraeg.

Os ydych yn pasio’r prawf hwn yn llwyddiannus byddwch yn cael gwahoddiad i gwblhau Prawf Dyfarniad y Gwasanaeth Sifil Ar-lein. Bydd rhaid i bob ymgeisydd gwblhau’r prawf hwn yn Saesneg. I ymgeiswyr sydd wedi dewis Cymraeg fel eu dewis iaith ar gyfer asesu, dyma’r unig ran o’r broses asesu y bydd angen ei chwblhau yn Saesneg.

Mae’r ddau brawf yn cael eu gweinyddu gan Civil Service Resourcing ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y linc/iau prawf yn cael eu hanfon i'ch prif gyfeiriad e-bost cofrestredig.

Dim ond y rhai sy'n llwyddo yn y ddau brawf fydd yn symud ymlaen i'r Cam Sifftio.

Os byddwch yn methu’r naill brawf neu’r llall, neu'n methu â chwblhau'r profion ar-lein erbyn y dyddiad cau a roddir, yn anffodus ni fydd eich cais yn symud ymlaen i'r cam nesaf. Fe'ch hysbysir o'r canlyniad hwn.

Cam Sifftio  

Yn ystod y cam sifftio, bydd eich cais yn cael ei asesu ar y dystiolaeth rydych wedi’i darparu ar gyfer chwe Ymddygiad Uwch Swyddogion Gweithredol yn eich Ffurflen Gais. Os ydych chi’n llwyddiannus yn y cam hwn byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu Cyfweliad Ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. 

Cyfweliad Ar-lein 

Bydd y Cyfweliad ar-lein yn digwydd trwy Microsoft Teams. Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r Fframwaith Proffil Llwyddiant yn unol â’r ymrwymiad yng Nghynllun Gweithlu y Gwasanaeth Sifil i ddenu a chadw pobl dalentog a phrofiadol o sectorau amrywiol. Bydd y cyfweliad yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau yn seiliedig ar Ymddygiad Proffil Llwyddiant a Chryfder. Bydd y cwestiynau Ymddygiad yn archwilio'n fanwl yr hyn y gallwch chi ei wneud.

Bydd y cwestiynau Cryfderau yn archwilio'r hyn rydych chi'n ei fwynhau a'ch cymhellion sy'n berthnasol i ofynion gradd y swydd. 

Bydd yr Ymddygiadau a gaiff eu hasesu yn y cyfweliad yr un fath â'r rhai y gofynnwyd ichi eu cyflwyno yn eich Ffurflen Gais, sef Arweinyddiaeth, Gwneud Penderfyniadau Effeithiol, Cyflawni’n Gyflym, Datblygu'ch Hun ac Eraill, Cyfathrebu a Dylanwadu a Chydweithio.

Y cryfderau a brofir yn ystod y cyfweliad fydd Dilys, Datryswr Problemau, Cynhwysol, a Rhwydweithiwr. 

Nid oes unrhyw ddisgwyliad na gofyniad i chi baratoi ar gyfer y cwestiynau Cryfderau hyn cyn y cyfweliad, er y gallai fod yn ddefnyddiol i chi dreulio peth amser yn myfyrio ar eich cryfderau perspnol a beth yw eich hoff ffyrdd o weithio neu ryngweithio ag eraill ac ati.

Canlyniad Terfynol 

Yn dilyn y cyfweliad, cyhoeddir y canlyniadau drwy neges ebost a fydd yn cael ei yrru i'ch cyfeiriad ebost cofrestredig. 

Paru 

Os ydych chi'n llwyddiannus, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gyflwynoch chi ar eich Ffurflen Gais i lywio’r broses o’ch paru chi â swydd. Byddwn yn ystyried eich sgiliau a'ch gallu ochr yn ochr â gofynion y rolau sydd ar gael a blaenoriaethau busnes. Ni allwn warantu y cynigir swydd benodol i chi.  Dim ond mewn amgylchiadau esgusodol lle na wnaeth y rôl a gynigiwn eich paru â chi weithio allan, dim ond un rôl flaenoriaeth arall y byddwn yn gallu ei chynnig i chi ei hystyried os yw ar gael.

Addasiadau Rhesymol 

Pan fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr i gadarnhau eu bod wedi bod yn llwyddiannus mewn cyfweliad, byddwn yn gofyn iddynt a oes unrhyw addasiadau rhesymol y byddent yn hoffi i ni eu hystyried wrth eu paru â swydd. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei baru â swydd addas.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Gwybodaeth arall

Gwybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swyddi gwag

  • Mae hwn yn ymarfer recriwtio di-enw. Felly bydd eich enw’n cael ei ddileu o’ch ffurflen gais ar gyfer sifftio. Dim ond eich enw fydd y panel yn ei gael yn y cyfweliad, ni fydd yn cael unrhyw wybodaeth am eich cais.
  • Mae swyddi y recriwtir iddynt fel rhan o’r ymgyrch recriwtio hon yn agored yn gyffredinol i bobl o’r DU, y rhai sydd â hawl i aros a gweithio yn y DU a’r rhai sy’n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. Gwiriwch eich cymhwysedd yma:
    o    Fisâu y DU a Mewnfudo – GOV.UK (www.gov.uk)
    o    Rheolau cenedligrwydd – GOV.UK (www.gov.uk)
  • Cyn penodi, bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau derbyniol, gwreiddiol fel rhan o’r gwiriadau cyn-gyflogaeth. Os daw hi’n amlwg ar gam diweddarach yn y broses nad ydych chi’n gymwys i ymgeisio, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu nôl.
  • Ni ellir ymestyn y dyddiadau cau/amserlenni a nodwyd gydol y broses asesu hon.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen eich ebyst ar eich prif gyfeiriad e-bost cofrestredig yn rheolaidd rhag ofn ein bod wedi cysylltu â chi ynghylch y broses asesu.
  • Bydd penodiadau trwy'r ymgyrch hon ar sail Penodiad Tymor Penodol, fodd bynnag, os ydych eisoes yn gyflogedig, gellir ystyried secondiad gan eich cyflogwr presennol.
  • Nid yw Gweision Sifil cyfredol yn gymwys i ymgeisio ar secondiad. [Os ydych chi’n Was Sifil eisoes gellir ystyried benthyciad.]
  • Mae'n ofynnol i Secondai barhau i gael ei gyflogi gan ei gyflogwr presennol trwy gydol y cyfnod secondiad, cadw telerau ac amodau’r cyflogwr (fel y nodir yn y Contract Cyflogaeth gyda'r cyflogwr) ac aros ar Gyflogres ei gyflogwr. Yna bydd y cyflogwr yn anfonebu Llywodraeth Cymru am ddarparu Gwasanaethau'r Secondai ar sail ôl-ddyledion chwarterol ar gyfer cyflog gwirioneddol (gan gynnwys Pensiwn, Yswiriant Gwladol ac ati).
  • Rydym ni'n rhagweld y bydd mwyafrif yr ymgeiswyr sy'n gofyn am secondiad trwy'r cyfle hwn yn symud ar draws, fel y byddent yn gallu aros ar yr un cyflog ag y maen nhw'n ei dderbyn gan eu cyflogwr. Dim ond mewn achosion eithriadol, e.e. lle byddai secondiad yn cyfateb i ddyrchafiad dros dro o ran cyflog, y caniateir hyblygrwydd. Yn y sefyllfa hon gall Llywodraeth Cymru fod yn barod i'r Secondai gael ei dalu ar leiafswm y Band Cyflog ar gyfer y Radd y’i penodir iddi, fodd bynnag, byddai angen i gyflogwr y Secondai gytuno â thelerau'r penodiad a'r cynnydd dros dro yng nghyflog y gweithiwr dros gyfnod y secondiad.
  • Lleoliad swydd hyblyg yw ystyr Cymru gyfan, yn amodol ar anghenion y busnes.. Sylwch efallai na fydd bob amser yn bosibl bodloni cais i ddewis swyddfa benodol, ond bydd modd ystyried ceisiadau.

    Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd yn Aberystwyth, Bedwas, Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin, Llandrindod, Cyffordd Llandudno, Merthyr Tudful, y Drenewydd ac Abertawe. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ddweud pa leoliad y byddent yn eu ffafrio yn ystod y cam penodi, pan fo sawl lleoliad yn bosibl ar gyfer y swydd.

    Rydym yn gefnogol i weithio hyblyg a theilwra patrymau gwaith i amgylchiadau unigol. pan fo angen busnes yn gallu caniatáu hynny. Yn dibynnu ar natur y swydd, efallai y bydd hi’n bosibl i ymgeiswyr llwyddiannus gytuno i weithio rhai o’u horiau gwaith gartref drwy gytundeb anffurfiol gyda’u rheolwr llinell.

    Dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y swyddi y recriwtir ar eu cyfer yn yr ymgyrch hon, nid dramor.

externalrecruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylid gwneud pob cais am y swydd hon ar-lein trwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych nam a fyddai'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch RecriwtioAllanol@llyw.cymru i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy'n gysylltiedig â nam er mwyn cyflwyno'ch cais .

I wneud cais, bydd angen i chi gael cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch y botwm 'Gwneud Cais' isod, a gofynnir i chi 'Fewngofnodi' os oes gennych gyfrif eisoes, neu 'Gofrestru' os nad oes gennych gyfrif eto. Gallwch gofrestru mewn ychydig funudau. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i allu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif a mewngofnodi, cewch eich cyfeirio at y cam cyntaf y broses asesu.

Os hoffech chi wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen ‘Newid Iaith / Change Language’ ar frig y dudalen hon, i fynd â chi i fersiwn Gymraeg yr hysbyseb hon, a gallwch ei defnyddio i wneud cais yn Gymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio, gweler Canllawiau Recriwtio Ymgeiswyr Allanol.

I gael rhagor o wybodaeth am Ymddygiad a Chryfderau'r Gwasanaeth Sifil a sut y cânt eu defnyddio ar gyfer recriwtio yn y Gwasanaeth Sifil, gweler Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.