Swydd Wag -- Pennaeth Polisi Hil, Ffydd, a Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Polisi Hil, Ffydd, a Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae creu Cymru decach wrth galon y Rhaglen Lywodraethu ac mae gan y swydd hon rôl hollbwysig i'w chwarae, gan arwain ar bolisi Hil, Ffydd a Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.  

Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm polisi bychan, gan gydweithio'n agos â Phennaeth tîm gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Phennaeth yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil, ac ar draws y Tîm Cydraddoldeb i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru a meithrin cysylltiadau da, cynhwysiant, parch rhwng pobl a dealltwriaeth o fewn cymunedau a rhyngddynt.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cydweithio’n agos â Gweinidogion, Gweision Sifil ar draws y Llywodraeth, a rhanddeiliaid allanol i helpu i roi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith. Mae’r rôl i weithredu rhwng Llywodraeth Cymru a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, gan ehangu’r ymgysylltu a chryfhau dylanwad pobl y cymunedau hyn. Mae'r gwaith hwn yn gofyn am empathi, crebwyll a'r gallu i wrando.

Gall hwn fod yn faes polisi anodd oherwydd ei fod yn ymwneud â sawl buddiant a bod yna, yn aml, gyndynrwydd i newid. Bydd y rôl yn gofyn am wytnwch, y gallu i weithio mewn partneriaeth a meithrin pwrpas cyffredin o fewn y llywodraeth, ond hefyd i herio lle nad oes cynnydd.

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod â sgiliau rheoli prosiectau a bod yn gyfforddus yn gweithio mewn maes polisi prysur gyda lefel sylweddol o fusnes y llywodraeth.

Fel rhan o dîm uwch reolwyr yr Is-adran, bydd deiliad y swydd yn gweithio'n hyblyg gyda chydweithwyr i ddarparu arweinyddiaeth yn ogystal â chefnogaeth a staff llanw yn ôl yr angen.

Prif dasgau

  • Arwain gwaith polisi a thîm hil, ffydd a Sipsiwn, Roma a Theithwyr Llywodraeth Cymru i sicrhau y cyflawnir ymrwymiad a blaenoriaethau gweinidogol y Rhaglen Lywodraethu yn y meysydd hyn.
  • Sicrhau bod busnes y llywodraeth yn y meysydd polisi hyn yn cael ei reoli'n effeithiol, yn brydlon ac i safon uchel.
  • Helpu i roi ar waith Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a chyfrannu at wireddu'r weledigaeth a nodir yn y Cynllun Gweithredu.
  • Meithrin ymddiriedaeth ac ehangu ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) a chymunedau ffydd, gan alluogi profiad bywyd pobl i lywio polisi a chreu gofod ar gyfer deialog a herio.
  • Cefnogi Fforwm Hil Cymru, sy'n cael ei arwain gan weinidog a'r Fforwm Cymunedau Ffydd, gan sicrhau cefnogaeth Ysgrifenyddiaeth i'r ddau ac ymgysylltu agos â fforymau cydraddoldeb eraill Llywodraeth Cymru, ceisio synergedd a chydweithio.
  • Bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth berthnasol yn y meysydd polisi hyn, nodi cyfleoedd i gefnogi gweithredu'r ddeddfwriaeth gyfredol yn fwy effeithiol a phenderfynu ble y gallai fod angen cryfhau deddfwriaeth.
  • Rheoli cyllidebau dirprwyedig yn effeithiol, gan weithio'n agos gydag arweinwyr cyllid is-adrannau ac adrannau i sicrhau bod cyllid yn effeithiol, yn cael ei werthuso ac yn cael ei gefnogi drwy system lywodraethiant gadarn a thryloyw.
  • Goruchwylio rhaglen cyllid cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru a gwaith cysylltiedig i sicrhau bod safleoedd yng Nghymru o safon uchel, a bod safleoedd newydd yn cael eu datblygu.
  • Meithrin a chynnal y berthynas gydag Adrannau Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig.
  • Monitro digwyddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy'n ymwneud â meysydd polisi neu’n effeithio arnynt, gan sicrhau bod Gweinidogion ac uwch reolwyr yn cael eu briffio'n briodol.
  • Gweithio'n hyblyg fel rhan o'r Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ehangach yn ôl y gofyn.

Cyfleoedd datblygu

Cyfle i arwain ar faes polisi proffil uchel a heriol.  Cyfle sylweddol i weithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru a rhoi platfform i’w lleisiau gan sbarduno newid polisi a’i weithredu.

Dyddiad Cau

02/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Newid a Gwella - Annog diwylliant o arloesi gyda’r nod o ychwanegu gwerth – gan roi cyfle i bobl feddwl yn greadigol
  • Arwain a Chyfathrebu - Bod yn amlwg i staff a rhanddeiliaid eu gweld a chynnal gweithgareddau rheolaidd er mwyn ennyn diddordeb pobl sy’n gweithio yn eu maes ac ennill eu hymddiriedaeth
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Dadansoddi a gwerthuso data o wahanol ffynonellau er mwyn pennu manteision ac anfanteision a phennu risgiau, gan wneud penderfyniadau priodol

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Y gallu i feddwl yn strategol a nodi cysylltiadau rhwng meysydd gwaith, sylwi ar themâu a chyfleoedd, ac ymateb yn briodol.
  2. Tystiolaeth o allu i gydweithio â Gweinidogion, uwch arweinwyr, swyddogion polisi allweddol a rhanddeiliaid allanol i alluogi newid.
  3. Tystiolaeth o sgiliau i ymgysylltu ag arweinwyr cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol ac arweinwyr ffydd, gweithredwyr dros achosion a chymunedau ledled Cymru, gweithio mewn partneriaeth â nhw a dylanwadu arnynt.

Proses Asesu

Bydd y ceisiadau’n cael eu sifftio, yna bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle bydd gofyn iddynt wneud cyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Stuart Evans - externalrecruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.