Swydd Wag -- Amryw o Swyddi Cyllid - Gradd 7

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Amryw o Adrannau
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I'w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i lenwi nifer o uwch-swyddi proffesiynol ym maes Cyllid a Llywodraethiant ar draws y sefydliad. Mae'r swyddi hyn yn rhai allweddol yn y gymuned  sy’n arwain ar gyllid a llywodraethiant, a hynny ar draws sefydliad sy’n tyfu yn ei faint a’i gymhlethdod. Mae'r rolau hyn yn hanfodol i sicrhau defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau ar draws y sefydliad, gan gynnwys llunio adroddiadau ariannol yn brydlon gan sicrhau cydymffurfiaeth. Bydd y rolau'n helpu i sicrhau bod ein busnes yn cael ei gynnal o fewn yr amgylchedd rheoli mwyaf priodol yn unol â'r holl safonau a phrosesau sy’n dilyn yr arferion gorau, a bod ein Swyddogion Cyfrifyddu yn cyflawni eu cyfrifoldebau personol.

Rydym yn recriwtio ar gyfer sawl rôl Gradd 7 i gefnogi'r Grwpiau Gweithredol sy'n gyfrifol am gyflawni uchelgeisiau polisi Gweinidogion Cymru, ac yn y Ganolfan Gorfforaethol i arwain rhai o'n swyddogaethau ariannol technegol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Uwch-bartner Busnes Llywodraethiant (nifer o swyddi)
  • Uwch-bartner Busnes Cyllid (nifer o swyddi)
  • Uwch-gyfrifwyr Ariannol (nifer o swyddi gan gynnwys yn y Cyfrifon Craidd ac yn y Grwpiau)
  • Pennaeth Cyfrifon – Craidd

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a hunanysgogol, a fydd yn ffynnu mewn amgylchedd gwaith cyflym a deinamig.

Mae'r holl rolau hyn yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a dylanwadu cryf, ynghyd â sgiliau technegol rhagorol i ddarparu cyngor, her a chraffu i uwch-gydweithwyr yn eich maes busnes. Mae'r rolau hyn yn ganolog i'r berthynas waith effeithiol rhwng meysydd busnes a'r swyddogaethau cyllid a llywodraethiant er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau gweinidogol yn cael eu cyflawni'n ddiogel ac yn effeithiol. Bydd deiliaid y swyddi yn sicrhau bod cynlluniau a chyllidebau yn cael eu llunio, eu rheoli a'u monitro'n dda yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, gan gynnal amgylchedd llywodraethiant agored a thryloyw o’r radd flaenaf. Bydd hyn yn cynnwys darparu adroddiadau ariannol a llywodraethiant o ansawdd uchel, yn fewnol a  hyd at y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol. Bydd deiliaid y swyddi yn cefnogi uwch-reolwyr a swyddogion atebol i sicrhau perfformiad gwell, llai o risgiau a gwell gwerth am arian. 

Bydd eich gwybodaeth dechnegol a'ch gallu i weithio'n adeiladol gydag uwch-dimau yn golygu eich bod yn gyfrannwr gwerthfawr i’r broses o wneud penderfyniadau ac yn hyrwyddwr dros newid yn eich maes busnes, i gefnogi ein rhaglen newid a datblygu fawr, Llywodraeth Cymru 2025, yn ogystal ag mewn prosiectau ehangach yn y sector cyhoeddus. Bydd angen i ddeiliaid y swyddi hyn hefyd feithrin perthynas waith effeithiol â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys Canolfannau Rhagoriaeth, Cyfarwyddwyr, Dirprwy Gyfarwyddwyr a thimau Archwilio Mewnol ac Allanol Llywodraeth Cymru.

Byddem yn disgwyl i bob ymgeisydd allu dangos lefel uchel o arbenigedd a phrofiad o ran materion ariannol a/neu lywodraethiant yn y sector cyhoeddus. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi ac yn gwneud cyflwyniadau i Weinidogion Cymru neu i Uwch-dimau Rheoli dan arweiniad Cyfarwyddwr Cyffredinol, a bydd angen iddynt wneud hynny’n hyderus gyda hygrededd. 

Bydd pob deiliad swydd yn rheoli timau bach o hyd at 10 o gydweithwyr a fydd yn cynnwys ystod o raddau, o Uwch-reolwyr SEO Cyllid neu Lywodraethiant i Brentisiaid.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn unigolion proffesiynol ym maes cyllid a/neu lywodraethiant sydd wedi cymhwyso’n llawn gydag o leiaf dair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso, a byddant yn bodloni’r naill neu’r llall o’r gofynion canlynol:

  • Aelodaeth o gyrff cyfrifo cydnabyddedig megis CIMA (Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli), neu
  • Yn meddu ar gymwysterau cyfrifyddiaeth CCAB (ICAEW, ACCA, CIPFA, ICAS, CAI)

NEU

  • Wedi cymhwyso gyda chorff llywodraethu cydnabyddedig megis y Sefydliad Archwilwyr Mewnol neu

Yn meddu ar Ddiploma CIPFA mewn Llywodraethiant Corfforaethol. 

Prif dasgau

Rydym yn recriwtio ar gyfer amryw o swyddi, a dyma enghreifftiau o'r hyn y gall y rolau hyn eu cynnwys mewn wythnos:

Archwilio a Sicrwydd 

  • Adolygu ac adrodd ar ganfyddiadau prosesau archwilio a sicrwydd ar draws y busnes a thrafod y camau nesaf gyda’n harchwilwyr mewnol.
  • Arwain y cylch archwilio blynyddol a meithrin perthynas effeithiol ac adeiladol gydag Archwilio Cymru.
  • Cefnogi Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Grŵp ac un mewnol Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau Corfforaethol a Busnes 

  • Arwain y timau wrth iddynt baratoi cyfraniadau’r Grŵp i'r datganiadau ariannol.
  • Gwneud penderfyniadau uniongyrchol drwy ddadansoddi, gwerthuso a chyfleu perfformiad a sefyllfaoedd ariannol endidau. 
  • Cyfarwyddo ymateb y Grŵp i ddigwyddiadau cyllidol, gan gynnwys Adolygiadau Gwario a Gosod Cyllidebau Drafft, Terfynol ac Atodol. 
  • Arwain cyfraniadau'r Grŵp i adroddiadau’r Rhaglen Lywodraethu. 

     Rheolaeth Ariannol

    • Cynghori ar gyllidebau a phrosiectau refeniw a chyfalaf presennol a sicrhau y defnyddir yr ymdriniaeth gyfrifo a chyllidebu gywir. 
    • Rheoli sefyllfa ariannol y Grŵp i sicrhau bod amcanion rheoli ariannol y Grŵp a’r rhai corfforaethol yn cael eu bodloni.
    • Monitro'r cynllun busnes a chynghori ar y strategaethau cywir i reoli perfformiad mewn perthynas â risg ariannol.

    Adrodd Ariannol

    • Darparu cymorth ledled Llywodraeth Cymru i sicrhau y cyfrifir yn briodol am drafodiadau. Mae’r rhain yn cynyddu yn eu cymhlethdod a’u graddfa wrth i Grŵp Llywodraeth Cymru dyfu, ac wrth i ffyrdd cynyddol arloesol o gyflenwi polisïau gael eu nodi, megis ar gyfer trafodiadau eiddo.
    • Arwain y gwaith o nodi a gweithredu systemau adrodd ariannol a datblygu prosesau ledled Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Adrodd Ariannol.
    • Arwain y timau sy'n gyfrifol am gynhyrchu adroddiadau ariannol Llywodraeth Cymru ac am gyflenwi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon o ansawdd uchel ar gyfer Cyfrifon Craidd Llywodraeth Cymru a Chronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys dwyn dyddiadau cwblhau ymlaen dros y tair blynedd nesaf.

      Llywodraethiant, Risg a Rheolaeth

      • Perchnogi’r broses rheoli risg a’r broses rheoli risg twyll ar gyfer y Grŵp.
      • Perchnogi’r elfennau llywodraethiant yn amgylchedd rheoli’r Grŵp, gan sicrhau ymlyniad wrth bolisïau ac arferion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datganiadau sicrwydd diwedd blwyddyn.
      • Asesu’r strwythurau mewnol a’r trefniadau llywodraethiant yn barhaus er mwyn diogelu buddiannau Swyddogion Cyfrifyddu a rhanddeiliaid yn y tymor hir. 
      • Argymell y strategaethau neu'r dull gweithredu cywir er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn cadw at strwythurau llywodraethiant ac yn defnyddio rheolaethau mewnol gan ddilyn yr arferion gorau.

      Arweinyddiaeth a Rheoli 

      • Rheoli a chymell pobl i roi o’u gorau o ran perfformiad ac effeithiolrwydd, gan gynnwys datblygu staff a hyfforddi cydweithwyr, yn dibynnu ar yr anghenion dysgu a nodwyd. 
      • Chwarae rhan weithredol fel rhan o'r uwch-dîm arweinyddiaeth ariannol a llywodraethiant yn y Gyfarwyddiaeth, yn y Grŵp ac yn Llywodraeth Cymru.
      • Bod yn rhagweithiol ac yn strategol wrth ragweld anghenion sefydliadol, gan gydnabod yr amgylchedd busnes ehangach hefyd.

      Strategaeth ac Arloesi 

      • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu cynllun ariannol tymor canolig cadarn i alluogi'r sefydliad i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau cyllidol.
      • Bod yn rhan allweddol o gynlluniau'r Grŵp i fwrw ymlaen â Llywodraeth Cymru 2025 a helpu i lunio ein cynlluniau a'n dull gweithredu ar gyfer rheolaeth ariannol, adrodd a llywodraethiant yn y dyfodol. 

      Cyfleoedd datblygu

      Bydd y swyddi’n rhoi cyfleoedd sylweddol i ddatblygu’n bersonol a phroffesiynol wrth  gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflenwi polisïau blaengar a’r swyddogaethau corfforaethol arbenigol sy'n hanfodol i bob sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda.

      Mae ehangder y cyfrifoldebau yn rhoi cyfle hefyd i gefnogi swyddogaethau busnes allweddol a dylanwadu arnynt, yn ogystal â chyfrannu at wella’r gallu, y llywodraethiant a’r broses benderfynu ariannol yn Llywodraeth Cymru.

      Dyddiad Cau

      12/06/23 16:00

      Cymhwystra

      Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

      Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

      Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

      Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

      Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

      Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

      Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

       

      Hyderus o ran Anabledd

      Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

      Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


      Sgiliau yn y Gymraeg

      Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

       

      Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

      Dymunol
      Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
      Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
      Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
      Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

      Partneriaeth Gymdeithasol

      O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

      Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
      •         PCS
      •         Prospect
      •         FDA

      Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
      •         cyflog
      •         telerau ac amodau
      •         polisïau a gweithdrefnau
      •         newid sefydliadol

      Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

      Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

      Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

      Cymwyseddau

      Gweld y Darlun Cyflawn 

      • Nodi beth yw goblygiadau blaenoriaethau a strategaethau gwleidyddol a sefydliadol i’w maes eu hunain er mwyn sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a’r strategaethau hynny.

      Arwain a Chyfathrebu 

      • Bod yn amlwg i staff a rhanddeiliaid eu gweld a chynnal gweithgareddau rheolaidd er mwyn ennyn diddordeb pobl sy’n gweithio yn eu maes ac ennill eu hymddiriedaeth.

      Gwneud Penderfyniadau Effeithiol 

      • Dod i gasgliadau rhesymol ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth, a chyflwyno’r casgliadau hynny – gan allu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan nad yw’r manylion yn glir.

      Cyflawni’n Brydlon

      • Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath.

      Meini Prawf Penodol i’r Swydd

      Unigolyn proffesiynol ym maes cyllid a/neu lywodraethiant sydd â chymwysterau llawn gan:

      • un o'r cyrff cyfrifyddiaeth cydnabyddedig megis CIMA (Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli),
      • Cymwysterau cyfrifyddiaeth CCAB (Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth),
      • Cymhwyster gan gorff llywodraethu cydnabyddedig megis Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol, neu
      • Diploma CIPFA mewn Llywodraethiant Corfforaethol.

      Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â’r rolau sydd ar gael, ar sail eu perfformiad a'u profiad. Bydd angen cymhwyster penodol ar gyfer rhai o'r rolau, ac ar gyfer y rolau hynny bydd rhaid i’r ymgeiswyr gael y cymhwyster perthnasol. Er enghraifft, pe bai ymgeisydd yn cael ei baru â rôl gyfrifyddu dechnegol, byddem yn disgwyl bod gan yr ymgeisydd gymhwyster cyfrifyddiaeth.

      Bydd angen o leiaf dair blynedd o brofiad ar ôl cymhwyso ar gyfer pob rôl. 

      • Rhyngweithio'n hyderus ac yn effeithiol fel cwsmer deallus a hynod gredadwy gyda chymheiriaid o bob rhan o Lywodraeth Cymru a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid cyflenwi, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu arbenigol.
      • Darparu cyngor gwerthfawr ar faterion ariannol a llywodraethiant, ynghyd â her a chefnogaeth, mewnwelediad strategol ac atebion busnes, a hynny’n aml i Gyfarwyddwyr ac eraill sy’n dal cyllidebau.

      Proses Asesu

      Bydd y broses ymgeisio fel a ganlyn:

      Cam 1: Bydd disgwyl i ymgeiswyr lenwi'r ffurflen gais ar-lein a llwytho’r dogfennau ategol canlynol:

      • CV o ddim mwy na 2 dudalen yn nodi hanes eich gyrfa gyda’r cyfrifoldebau a’r cyflawniadau allweddol. Dylid nodi’n glir pryd y cyrhaeddwyd y dyddiad 3 blynedd ar ôl cymhwyso. Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i "bwrpas y swydd" a’r "tasgau allweddol" i sicrhau bod eich CV yn adlewyrchu'r sgiliau a'r profiad rydym yn chwilio amdanynt.
      • Copi o'ch cymhwyster cyfrifyddiaeth a/neu lywodraethiant a’r achrediad/aelodaeth.
      • Datganiad personol o ddim mwy na 2,100 gair. Bydd unrhyw destun y tu hwnt i hyn yn cael ei ddiystyru. Dylai hwn egluro sut mae eich cymwysterau, eich sgiliau, eich rhinweddau a'ch profiad proffesiynol yn cyfateb i:
        • y pedwar cymhwysedd; a
        • y tri maen prawf penodol i'r swydd.

      Rydym yn argymell eich bod yn anelu at tua 300 gair ar gyfer pob un o'r 7 categori.

      Cam 2: Bydd ymgeiswyr yr ystyrir eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer cam 2 yn cael eu gwahodd i gyfweliad ac asesiad. Bydd hyn ar ffurf asesiad technegol a chyfweliad a fydd yn asesu'r ymddygiadau cymhwysedd a’r meini prawf penodol i’r swydd. Bydd yr ymgeiswyr yn cael manylion y prawf technegol yn nes at yr amser.

      Gwybodaeth arall

      • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
      • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
      • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
      • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
      Steve Hudson - ExternalRecruitment@gov.wales

      Sut i wneud cais

      Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

      I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

      I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

      Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

      Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

      Anghydfod a Chwynion

      Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

      Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.