Swydd Wag -- Swyddog Deintyddol - EB1 (G6) (2 blwyddyn a phosibilrwydd o estyniad)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofal Sylfaenol
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
2 blwyddyn a phosibilrwydd i estyn i 4
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Diben y swydd yw cefnogi'r Prif Swyddog Deintyddol, gan sicrhau bod y Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Deintyddol yn cael cyngor priodol, amserol, proffesiynol o safon uchel yn ymwneud â deintyddiaeth a hybu iechyd y geg.

 Mae'r rôl yn rhoi cefnogaeth hanfodol a rheolaidd i'r Prif Swyddog Deintyddol, y Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Pennaeth y Gangen Ddeintyddol a'r tîm deintyddol ehangach. Mae rôl arweiniol y Prif Swyddog Deintyddol yn y maes polisi yn gofyn am gefnogaeth agos gan y Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol i hwyluso darpariaeth ac ymdrin â llawer o waith yr agenda ddeintyddol o ddydd i ddydd. Mae'r Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol yn cefnogi'r Prif Swyddog Deintyddol gyda materion proffesiynol ac i ddarparu gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg yng Nghymru. Mae gwaith y Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar ddarparu polisïau a blaenoriaethau'r sefydliad.

Prif dasgau

Mae deiliad y swydd yn uniongyrchol atebol i'r Prif Swyddog Deintyddol ac yn cyflawni rôl y Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol. 

Bydd yn cefnogi'r Prif Swyddog Deintyddol, y gangen ddeintyddol a chydweithwyr o fewn Llywodraeth Cymru i gyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt ac yn: 

  • sicrhau bod cyngor proffesiynol amserol, priodol ac o safon uchel am wasanaethau deintyddol yn cael ei roi i Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, i adrannau eraill y Llywodraeth ac i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) a chyrff eraill a ariennir yn gyhoeddus;  
  • cefnogi'r Gweinidog, uwch swyddogion, y proffesiwn deintyddol, a rhanddeiliaid allanol i siapio a chyflawni amcanion polisi gyda'r adnoddau sydd ar gael er mwyn gwella effeithiolrwydd cost a chlinigol ac argaeledd gwasanaethau deintyddol a gwasanaethau hybu iechyd y geg yn y GIG yng Nghymru. 
  • gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid allanol i sicrhau bod cyngor ar wella iechyd y geg a gwella argaeledd ac ansawdd gwasanaethau deintyddol yng Nghymru yn gyfredol ac yn seiliedig ar dystiolaeth; 
  • darparu arweinyddiaeth gref ac effeithiol, gan gynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru a Chymru mewn gwelliannau deintyddol ac iechyd y geg i'r proffesiwn deintyddol a rhanddeiliaid eraill yn y DU;  
  • cyflawni'r Rhaglen Lywodraethu a strategaethau eraill gan gynnwys ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg i’r rhaglen Cymru Iachach.

Tasgau Penodol i'r Swydd: 

Gwaith parhaus yr Is-adran Gofal Sylfaenol a'r Gangen Ddeintyddol wrth gyfrannu at ddarparu gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg sy'n ddiogel ac yn effeithiol i'r cyhoedd yng Nghymru: 

Rhoi cyngor (rhagweithiol ac adweithiol): 

  • i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Deintyddol, Grwpiau ac Is-adrannau eraill Llywodraeth Cymru;
  • drwy fod yn bresennol yng nghyfarfodydd statudol Pwyllgor Deintyddol Cymru a chyfarfodydd rheolaidd o'r ymgynghorwyr Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, swyddogion adrannau iechyd eraill y DU, y GIG yn Lloegr, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain a'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, a chydweithredu â nhw;
  • drwy gymryd rhan mewn gwaith o fewn yr adran a rhwng adrannau, mewn timau ar y cyd gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, lle bo angen mewn rôl arweinyddiaeth;
  • i'r proffesiwn yng Nghymru yn ysgrifenedig ac yn electronig.  

Datblygu polisïau: 

  • datblygu polisïau, deddfwriaeth a safonau sy'n hybu iechyd y geg drwy weithio’n agos gyda chyfarwyddiaethau polisi yn Llywodraeth Cymru, yn enwedig drwy reoli polisïau deintyddol, a chytuno ar safonau ar gyfer darparu a chyflenwi gofal deintyddol. 

Monitro: 

  • iechyd y geg yng Nghymru ar sail epidemioleg ac yn erbyn targedau a gytunwyd;
  • darpariaeth gwasanaethau deintyddol Byrddau Iechyd Lleol drwy astudio data perfformiad, gan gynnwys mesurau canlyniadau;
  • craffu ar gyfrifoldebau'r Byrddau Iechyd Lleol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ymwneud â datblygu prosesau gwella a sicrwydd ansawdd. 

Negodi: 

  • gydag adrannau iechyd eraill y DU i sicrhau buddiannau'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
  • gyda'r proffesiwn, drwy'r fforymau negodi sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau deintyddol cyffredinol a Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol, ar faterion yn ymwneud â thelerau'r gwasanaeth a materion gweithredol. 

Cysylltu 

  • yn genedlaethol ac o fewn y DU gyda chyrff statudol ac academaidd a chymdeithasau dysgedig, gyda sefydliadau cynrychiolaeth broffesiynol, gan gynnwys y rhai sy'n gyfrifol am weithwyr proffesiynol gofal deintyddol;
  • gyda'r Prif Swyddogion Deintyddol a'u dirprwyon yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon;
  • gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, drwy fynd i gyfarfodydd y Cyngor;
  • gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru;
  • gyda rheolwyr gwasanaeth y Byrddau Iechyd Lleol;
  • gydag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG;
  • gyda sefydliadau sy'n cynrychioli cleifion a, lle bo'n briodol, y cyfryngau. 

Sicrhau hyfforddiant, staffio ac ymchwil 

  • sicrhau a datblygu cyfleoedd addysg a hyfforddiant israddedig, ôl-radd ac addysg barhaus sy'n ddigonol ac yn effeithiol i'r tîm deintyddol yng Nghymru;
  • mynd i gyfarfodydd cyswllt dwyochrog yn Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Caerdydd;
  • annog ymchwil ac archwiliad clinigol a datblygu darpariaeth clinigol effeithiol mewn lleoliad gofal sylfaenol;
  • hyrwyddo  trefniadau gweithlu priodol i Gymru drwy hyrwyddo cyfranogiad yn astudiaethau'r gweithlu yng Nghymru, gan gynnwys trefniadau i ehangu cymysgedd effeithiol o sgiliau.

Rheoli: 

  • cyfrannu at reoli llwyth gwaith y Gangen Ddeintyddol;
  • cynnal y safonau proffesiynol uchaf yn Llywodraeth Cymru drwy ddiwallu gofynion datblygiad proffesiynol parhaus cyfadrannau perthnasol y Colegau Brenhinol Meddygol a'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Cyfleoedd datblygu

Mae tipyn o gyfleoedd datblygu i'w cael yn y swydd yn y meysydd rheoli a datblygu, gweithredu a chyflawni polisi.

Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol cryf, gan weithio gydag amrywiaeth eang o gysylltiadau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), y proffesiwn deintyddol, Llywodraeth Cymru, adrannau eraill y Llywodraeth a'r gweinyddiaethau datganoledig. Byddant yn cael profiad uniongyrchol o ddatblygu polisi gan gynnwys helpu i lunio deddfwriaeth eilaidd a drafftio dogfennau a chanllawiau polisi.

Mae'r Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am wneud penderfyniadau mewn perthynas â meysydd gwaith penodol. Gyda'r bwriad o ddatblygu gyrfa yn y dyfodol, mae'r swydd yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus fagu profiad a chael ei fentora er mwyn eu helpu fel clinigydd i baratoi ar gyfer rôl yn arwain ar bolisi. Mae union natur y swydd yn golygu y bydd deiliad y swydd yn dirprwyo ar ran y Prif Swyddog Deintyddol o bryd i'w gilydd gan roi cyfle i rywun a allai fod ag uchelgais i ymgeisio am swydd Prif Swyddog Deintyddol yn y dyfodol.

Dyddiad Cau

10/09/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

  1. Gweld y Darlun Cyflawn - Casglu ynghyd farn a safbwyntiau rhanddeiliaid er mwyn cael darlun mwy cyflawn o gefndir gweithgareddau a pholisïau.
  2. Arwain a Chyfathrebu - ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.
  3. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt.
  4. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  • Yn meddu ar gofrestriad llawn â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a 5 mlynedd o leiaf o brofiad yn gweithio fel ymarferydd deintyddol cofrestredig (neu gyfatebol).
  • Profiad o weithio ar faterion deintyddol strategol a/neu iechyd geg ac o gymryd rhan ar lefel genedlaethol, yn ogystal â lleol, mewn sefydliadau a chymdeithasau deintyddol.
  • Profiad a dealltwriaeth eang o ddeintyddiaeth ac iechyd y geg, o drefniadaeth a llywodraethiant y proffesiwn a'r berthynas rhwng deintyddiaeth a rhannau eraill o'r system gofal iechyd yn arbennig y GIG.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Collette Bridgman - 03000255543 - colette.bridgman@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y  Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.