Swydd Wag -- Pennaeth yr Amgylchedd Ymchwil y GIG a Gofal Cymdeithasol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Is-adran Ymchwil a Datblygu
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Tymor Sefydlog, Secondiad, Ar fenthyg
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm o 22 o fewn yr Is-adran Ymchwil a Datblygu (RDD) yng Nghyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant Llywodraeth Cymru. Swyddogaeth yr RDD yw datblygu a gweithredu’r polisïau a blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a datblygu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gweithgaredd ymchwil a datblygu yn diwallu anghenion blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae’r Is-adran hefyd yn darparu’r cyllid i gefnogi seilwaith ymchwil ledled Cymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â rhedeg ystod o raglenni sy’n cynyddu capasiti ac yn ariannu ymchwil rhagorol, sydd i gyd yn rhan o frand Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu polisi a goruchwylio gweithredu ar draws ystod o feysydd sy'n gysylltiedig â'r GIG a’r amgylchedd ymchwil gofal cymdeithasol. Bydd angen iddo/iddi ddatblygu partneriaethau strategol gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ac uwch-arweinwyr sy'n gweithio yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol, yn ogystal ag adrannau Ymchwil a Datblygu llywodraeth y DU ar bolisi ymchwil sy'n ymwneud â gwella'r diwylliant a'r seilwaith ymchwil ar draws y lleoliadau hynny. Bydd ganddo/ganddi hefyd gyfrifoldeb a pherchnogaeth ar gyfer darparu cyngor gweithredol, technegol a strategol, a rhoi cymorth i Bennaeth Polisi a Phrif Gynghorydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Yn ogystal ag arwain ar fentrau yng Nghymru, bydd gan ddeiliad y swydd swyddogaeth flaenllaw ar ran Cymru i hwyluso aliniad polisi ar ystod o strategaethau trawsffiniol, gyda'r bwriad o sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan lawn ac yn cael ei chynrychioli'n ddigonol mewn mentrau ledled y DU, megis UK Vision for Clinical Research Delivery. 

Bydd gan ddeiliad y swydd y canlynol:

  • Cyfrifoldeb polisi a throsolwg ar gyfer strategaethau a chynlluniau gweithredu sy'n gysylltiedig â chryfhau amgylchedd ymchwil y GIG, gan gynnwys trosolwg a rheoli perfformiad cyllid Ymchwil a Datblygu’r GIG;
  • Cyfrifoldeb a throsolwg ar gyfer amrywiaeth o fentrau i hwyluso ymchwil o fewn lleoliadau'r gwasanaeth gofal cymdeithasol ;
  • Perchnogaeth a chyfrifoldeb dros weithio gyda chydweithwyr Llywodraeth Cymru i sicrhau bod agenda ymchwil y GIG a gofal cymdeithasol yn rhan annatod o strategaethau ehangach a fframweithiau cynllunio a rheoli perfformiad. 
  • Bydd deiliad y swydd yn rheoli un llinell SEO a bydd yn adrodd i Bennaeth Polisi G6. 

Prif dasgau

  • Cyfrifoldeb dros ddarparu cyngor strategol a gweithredol i Bennaeth Polisi a Phrif Gynghorwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gweinidogion ar faterion cysylltiedig ag ymchwil yn ymwneud â'u meysydd gwaith;
  • Drafftio strategaethau, rhaglenni, a chynlluniau gweithredu sy'n canolbwyntio ar amgylchedd Cymru a/neu yn unol â datblygiadau yn y Du fel y bo'n briodol;
  • Cyfrifoldeb a pherchnogaeth dros ddatblygu effeithiol a chyflawni mentrau yng Nghymru yn llwyddiannus, gan ofyn am gyllid pan fo hynny'n briodol a sicrhau gwerth am arian;
  • Cysylltu â chyrff allanol allweddol i sicrhau gweithredu rhaglenni ymchwil a datblygu perthnasol yng Nghymru yn llwyddiannus, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, y GIG, y sector gofal cymdeithasol, adrannau llywodraeth y DU, asiantaethau cyllido'r DU,  sefydliadau addysg uwch, sefydliadau gwirfoddol a diwydiant;
  • Cynrychioli Cymru yng nghyfarfodydd y DU er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hyrwyddo a'u hystyried gan Lywodraeth y DU, UKRI ac asiantaethau ymchwil eraill drwy ddylanwadu, cytuno a hyrwyddo anghenion blaenoriaeth y Llywodraeth a hwyluso cyfranogiad Cymru mewn cyfleoedd a gynigir gan fentrau'r DU gyfan;
  • Cyfrifoldeb dros ymgysylltu o ran y DU a Chymru wrth geisio cyngor arbenigol gan y gymuned ymchwil, a sefydlu a chynnal y cysylltiadau;
  • Cyfrifoldeb dros lunio briffiau ac ysgrifennu adroddiadau perthnasol a phapurau Gweinidogol, a fydd yn cynnwys dehongli gwybodaeth ar faterion perthnasol mewn ffordd glir, gryno ac amserol er mwyn llywio trafodaethau a phenderfyniadau strategol;
  • Cyfrifoldeb dros gasglu data, marchnata, cyhoeddusrwydd a digwyddiadau mewn meysydd gwaith perthnasol;
  • Rheoli a hwyluso gwell perthnasoedd rhanddeiliaid gyda phartneriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys cysylltu ag arweinwyr polisi perthnasol eraill Llywodraeth Cymru a chynrychioli’r Is-adran Ymchwil a Datblygu mewn cyfarfodydd;
  • Cyfrifoldeb dros gynghori Pennaeth Polisi a Phrif Gynghorwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar faterion yn ymwneud ag ymchwil iechyd a gofal a gwella canlyniadau gofal iechyd a hwyluso mwy o lwyddiant wrth ddod â buddsoddiad i Gymru;
  • Sicrhau bod rheolaethau rheoli cyllideb priodol a phrosesau adrodd ar waith;
  • Cyfrannu at gynlluniau strategol a gweithredol o fewn yr Is-adran Ymchwil a Datblygu;
  • Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n annibynnol ac mewn amgylchedd tîm agos, gan sicrhau bod yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â mentrau ymchwil perthnasol wedi’u cysoni.

Cyfleoedd datblygu

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio gydag ymreolaeth a gyda goruchwyliaeth gyfyngedig.  Bydd ganddo/ganddi ddisgresiwn sylweddol gyda chyfrifoldeb dros gyflawni amcanion diffiniedig a dros nodi materion sydd â goblygiadau gwleidyddol neu bolisi, gan symud gwaith ymlaen yn briodol. O ganlyniad uniongyrchol i'r proffil uchel sy'n gysylltiedig â'r holl feysydd gwaith hyn, bydd deiliad y swydd hefyd yn cael dylanwad sylweddol ar enw da'r sefydliad sydd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Dyddiad Cau

09/01/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Clwstwr Strategol – Gosod Cyfeiriad
Gwneud penderfyniadau effeithiol: Dadansoddi a gwerthuso data o wahanol ffynonellau i nodi manteision ac anfanteision a nodi risgiau er mwyn gwneud penderfyniadau ystyriol iawn.

Clwstwr Pobl – Ymgysylltu â Phobl
Arwain a Chyfathrebu: Ymgysylltu'n hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob
lefel i greu ymrwymiad i nodau.

Clwstwr Perfformiad – Cyflawni Canlyniadau
Rheoli gwasanaeth o safon: Gwnewch gynlluniau clir, pragmatig a rhwydd i'w cyflawni gan ddefnyddio egwyddorion rhaglen a rheoli prosiectau.

Clwstwr Pobl – Ymgysylltu â Phobl
Cydweithio a phartneru: Ceisiwch ganlyniadau adeiladol mewn trafodaethau, heriwch ragdybiaethau ond parhewch i fod yn barod i gyfaddawdu pan fydd yn fuddiol ar gyfer cynnydd.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

1. Cymhwyster ôl-raddedig, neu brofiad cyfatebol mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu faes gwyddonol cysylltiedig lle mae ymchwil yn elfen allweddol.
2. Hanes profedig o ymgysylltu â’r sector academaidd a’r sector cyhoeddus yn llwyddiannus a gweithio mewn partneriaeth.
3. Hanes cryf o bolisi a/neu ddatblygu a chyflawni rhaglenni.

Proses Asesu

Caiff y cais ei asesu mewn tri cham:

Cwestiynau penodol i’r rôl
Yn rhan o’ch cais, gofynnir i chi ateb cwestiynau penodol i’r rôl, fydd yn ymateb ie neu na caeedig.  Os na fyddwch yn bodloni’r gofynion hyn, bydd y system yn eich hidlo yn awtomatig o gam nesaf y broses asesu.

Cam Hidlo
Cynhelir cam hidlo cychwynnol yn erbyn y cwestiynau penodol i’r rôl. Yna, caiff ymgeiswyr sy’n llwyddiannus ar y cam hwn eu gwerthuso o’u cymharu â’r cymwyseddau gofynnol.

Cyfweliad
Bydd ymgeiswyr sydd wedi pasio’r cam hidlo yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad (wyneb yn wyneb neu sesiwn fideo o bell gyda Phanel Cyfweld).  Bydd y cyfweliad yn cynnwys cyflwyniad, a rhoddir teitl y cyflwyniad gyda’r gwahoddiad i’r cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sicrhewch eich bod wedi trafod cael eich rhyddhau ar secondiad neu fenthyciad ac wedi cael cytundeb i hynny cyn gwneud cais am y swydd hon.
Carys Thomas carys.thomas@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.