Swydd Wag -- Rheolwr Cyfleusterau Rhanbarthol (De)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
HEO - £32,460 - £39,690
£29,850
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-ddwyrain, Y De-orllewin
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cadw yw gwasanaeth amgylcheddol hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy’n gweithio dros amgylchedd hanesyddol hygyrch ac sydd wedi ei warchod yn dda i Gymru.

 Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Helpu i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol er budd pobl heddiw ac yfory.
  • Hyrwyddo datblygiad y sgiliau sydd eu hangen i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol yn iawn.
  • Helpu pobl i drysori a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol.
  • Gwneud i’n hamgylchedd hanesyddol weithio er ein lles economaidd.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gyrraedd ein nodau cyffredin gyda’n gilydd.

Mae’r rôl hon yn rhan o’r gangen Eiddo mewn Gofal ac mae’n gyfrifol am reoli gweithredol gwasanaethau cynnal a chadw eiddo a safleoedd i sicrhau bod safleoedd yn ddiogel, yn hygyrch ac yn cael eu cyflwyno’n ddeniadol i’r cyhoedd, ac yn addas at y diben i’r holl staff. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am leoli contractwyr yn ddiogel ac yn effeithlon a goruchwylio prosiectau Rheoli Cyfleusterau yn rhanbarth De Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn adrodd i’r Pennaeth Cyfleusterau a Rheoli Asedau a bydd yn gyfrifol am Eiddo mewn Gofal Cadw yn y De, gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Cadwraeth Rhanbarthol perthnasol fel rhan o’r gangen Eiddo mewn Gofal ehangach.

Prif dasgau

  • Cynorthwyo’r Pennaeth Cyfleusterau a Rheoli Asedau i reoli pob safle yn effeithiol ac yn effeithlon gyda phwyslais arbennig ar ymyriadau modern yng Nghymru.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r darparwyr Rheoli Cyfleusterau a gweithredu fel y prif bwynt cyswllt o ddydd i ddydd. Bydd cyfarfodydd yn monitro cynnydd, cysoni cyfrifon misol a rheoli cyllideb, cytuno ar orchmynion newid a rheoli materion diogelwch iechyd, lles a’r amgylchedd.
  • Goruchwylio darpariaeth amserol prosiect a rhaglenni wedi’u cynllunio Rheoli Cyfleusterau ar y cyd â’r timau cadwraeth a cheidwaid perthnasol.
  • Archwilio safleoedd yn rheolaidd i sicrhau bod cyfundrefnau cynnal a chadw cylchol yn effeithiol (e.e. cynnal a chadw tiroedd, glanhau safleoedd ac adeiladau, gwasanaethu mecanyddol a thrydanol, profi peiriannau ac offer yn ôl gofynion y gyfraith ac ati) a chymryd camau yn ôl yr angen, gan gynnwys rhoi gwybod am unrhyw achosion o ddifrod neu ddiffygion.
  • Cynghori ar gynnal a chadw wedi ei gynllunio a helpu i lunio a gweithredu cynlluniau cynnal a chadw cylchol effeithiol wedi’u targedu.
  • Paratoi manylebau a dogfennaeth ar gyfer gwaith adfer penodol neu gontract (e.e. ar gyfer cynnal a chadw ac addasu eiddo, rheoli cyfleusterau, gwaith gwella datblygiad bach, gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd, glanhau a rheoli gwastraff, rheoli pla a fermin, cadwraeth ynni, diogelwch safle ac ati) a goruchwylio ac ardystio eu cyflawniad. Sicrhau ymlyniad wrth reolau ac arferion caffael LlCC/Gwerthwch i Gymru yn ôl yr angen.
  • Gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cadw i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu rhedeg yn ddiogel, gan gynnwys cydymffurfio â’r holl reoliadau iechyd a diogelwch ynghyd â sicrhau bod henebion yn cael eu gwarchod.
  • Cynnal asesiadau o ganlyniad i ddamweiniau hysbys yn safleoedd yr henebion neu leoliadau Cadw eraill ac adrodd ar ganfyddiadau ac unrhyw argymhellion gweithredu ar gyfer gweithredu i’r rheolwyr. Dylid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â Rheolwr Iechyd a Diogelwch Cadw a’r rheolwyr cadwraeth rhanbarthol.
  • Cynorthwyo i oruchwylio gwaith contract allanol yn ôl yr angen.
  • Derbyn a gwerthuso Datganiadau Dull, Cynlluniau Diogelwch ac Asesiadau Risg yn ôl yr angen, a sicrhau ymlyniad at arferion iechyd a diogelwch cywir ar y safle bob amser. Adrodd ynghylch unrhyw fethiannau i’r rheolwyr yn brydlon.
  • Cynorthwyo gydag archwiliadau rheolaidd o henebion mewn ardal ranbarthol, ar y cyd â rheolwyr cadwraeth, ac adrodd am achosion o ddifrod neu bydredd.
  • Yn ôl y cyfarwyddyd, gweithio ar draws ardaloedd daearyddol sy’n cwmpasu cyfnodau o absenoldeb a/neu amrywiadau gwaith rhanbarthol.

Cyfleoedd datblygu

Mae Cadw yn annog staff i ddilyn cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ynghyd â chefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu penodol sy’n gysylltiedig ag anghenion busnes.

Byddwch yn gweithio o fewn tîm integredig o weithwyr cadwraeth ac eiddo proffesiynol sy’n gofalu am, yn cyflwyno ac yn hyrwyddo rhai o’r enghreifftiau gorau o dreftadaeth adeiledig yng Nghymru.

Dyddiad Cau

05/02/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gosod y Trywydd – Gweld y Darlun Cyflawn – Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr.
  2. Ymwneud â Phobl – Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth – Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
  3. Gwireddu Canlyniadau – Sicrhau Gwerth am Arian – Dilyn gweithdrefnau ariannol priodol i fonitro contractau er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r hyn y cytunwyd arno.
  4. Gwireddu Canlyniadau – Rheoli Gwasanaeth Safonol – Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaethau er mwyn sicrhau rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol ynghyd â gwerth am arian.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Wedi cymhwyso i NVQ lefel 4 (HND neu HNC) mewn disgyblaeth berthnasol.
  2. Cymhwyster Sefydliad Rheoli’r Gweithle a Chyfleusterau (IWFM) neu aelodaeth o’r IWFM neu barodrwydd i weithio tuag at sicrhau aelodaeth.
  3. Profiad amlwg o weithio’n uniongyrchol o fewn rôl Rheoli Cyfleusterau ar draws portffolio eiddo gwasgaredig. Byddai profiad o weithio gydag eiddo treftadaeth yn fanteisiol.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Alwyn Jones - 03000 258664 - Alwyn.Jones001@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.