Swydd Wag -- Cynghorydd Milfeddygol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Yn ddibynnol ar brofiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
Canolfannau Asesu ar Ddydd Iau'r 21ain, Dydd Gwener yr 22ain a Dydd Llyn y 24ain o Chwefror

Pwrpas y swydd

 Mae Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol yn Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am godi'r safonau iechyd a lles ar gyfer pob anifail sy’n cael ei gadw yng Nghymru - anifeiliaid fferm, anifeiliaid sy’n gydymaith (anwes), anifeiliaid ym maes chwaraeon ac anifeiliaid sy’n gweithio. Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yw pennaeth Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol.

 Yn unol â Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru, prif amcanion Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol yw:

  •  Amddiffyn rhag gadael clefydau egsotig mewn anifeiliaid i mewn i’r wlad a lledaenu, a chynnal cyflwr o fod yn barod i ddelio ag unrhyw achosion;
  • Dilyn rhaglen i gael gwared â TB mewn Gwartheg;
  • Rheoli clefydau endemig; a
  • Hyrwyddo safonau uwch er mwyn gwella iechyd a lles anifeiliaid.

Bydd swydd y Cynghorydd Milfeddygol yn darparu cyngor milfeddygol i Lywodraeth Cymru, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, y Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol a thimau polisi ar faterion yn ymwneud â pholisi iechyd a lles anifeiliaid.   Bydd disgwyl i’r Cynghorydd Milfeddygol gyfrannu at waith tîm LlC o bedwar cynghorydd sy’n darparu cyngor a chefnogaeth filfeddygol ar symud amcanion polisi ymlaen.  

 Bydd y swyddog yn atebol i’r Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol.

 

Prif dasgau

Bydd y rôl yn darparu cyngor milfeddygol yn y meysydd canlynol mwy na thebyg:

  •  Twbercwlosis mewn gwartheg i helpu Rhaglen Cymru i Ddileu TB
  • Atal a rheoli clefydau
  • Ymateb mewn argyfwng i achosion o glefydau ecsotig a pharatoi cynlluniau wrth gefn
  • Lles anifeiliaid
  • Brexit

Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gyfrannu i feysydd sy’n cyfateb i’w gryfderau, ei ddiddordebau a’i brofiad, a’r gofynion datblygu.

 

Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys:

 Arwain o ran darparu cyngor milfeddygol allweddol i’r timau polisi yn Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol

 Darparu cymorth i’r Prif Swyddog Milfeddygol a’i Ddirprwy o ran darparu cyngor proffesiynol ar bolisi milfeddygol i Weinidogion a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru

 Darparu swyddogaeth cwsmer deallus o ran cyngor a geisir yn allanol

 Darparu cymorth ac arweiniad i Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid

 Cynrychioli Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol ar fyrddau perthnasol sy’n rhan o Lywodraeth Cymru a byrddau allanol partneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid.

 Datblygu perthnasoedd gwaith cryf o fewn Llywodraeth Cymru a chyda rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

 Darparu cymorth ar draws tîm Cynghorwyr Milfeddygol Llywodraeth Cymru

 Ymgymryd â phrosiectau arbennig penodol yn ymestyn ar draws y Swyddfa gyfan, fel a bennir gan y Prif Swyddog Milfeddygol a’r Dirprwy.

 

Cyfleoedd datblygu

Caiff deilydd y swydd y cyfle i ddatblygu dealltwriaeth gref o sut mae’r Prif Swyddog Milfeddygol a’i thîm o gynghorwyr milfeddygol a swyddogion polisi yn y Swyddfa yn gyfrifol am godi’r safonau iechyd a lles i bob anifail sy’n cael ei gadw yng Nghymru. Bydd yn gyfle i ddysgu a bod yn rhan o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu polisi, i weithio gyda Gweinidogion a bod ar flaen y gad yn hyrwyddo iechyd a lles anifeiliaid ar draws Cymru.

Dyddiad Cau

31/01/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

1. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Dadansoddi a gwerthuso data o wahanol ffynonellau er mwyn pennu manteision ac anfanteision a phennu risgiau, gan wneud penderfyniadau priodol.

2. Arwain a Chyfathrebu - Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.

3. Newid a Gwella - Sylwi ar arwyddion bod pethau’n mynd o chwith ac ymateb yn gadarn i heriau mawr rhag cyflenwi.

4. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd 

1. Ymrwymiad i roi egwyddorion meddygaeth filfeddygol wladol ar waith.

2. Gwybodaeth drylwyr o’r fframwaith cyfreithiol/rheoleiddiol cenedlaethol a rhyngwladol, fel sy’n berthnasol i’r rôl.

3. Dealltwriaeth ymarferol o'r ystod o faterion sy’n gysylltiedig â datblygu tystiolaeth a gwybodaeth ym maes gwyddoniaeth filfeddygol.

 

Proses Asesu

Ar hyn o bryd mae un swydd Cynghorydd Milfeddygol yn wag. Fodd bynnag, efallai y cedwir rhestr wrth gefn os daw unrhyw swyddi pellach i Gynghorwyr Milfeddygol ar gael yn y 12 mis nesaf.

Caiff ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl y cam sifftio eu gwahodd i ganolfan asesu. Bydd y ganolfan asesu yn golygu proses dri cham, yn cynnwys ymarferiad ysgrifenedig, dadansoddiad ac ymarferiad cyflwyno, a chyfweliad. Mae'r asesiadau hyn wedi’u cynllunio i brofi eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ar gyfer y rôl Gradd 7. Bydd y broses asesu yn para 3 awr yn fras.


 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Kelly Nicholls - Kelly.Nicholls003@gov.wales - 03000 252077 Richard Griffiths - Richard.griffiths3@gov.wales - 03000 255017

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.