Swydd Wag -- Rheolwr Tîm – Arolygu Gofal Plant a Chwarae

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
AGC - Tîm Arolygu Gofal Plant a Chwarae
SEO - £41,700 - £49,370
Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 3 (£42,690) ar gyfer ymgeiswyr eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Methyr Tudful
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol er mwyn darparu gwasanaethau rheoleiddiedig diogel ac o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.

Prif dasgau'r Rheolwr Tîm – Arolygu Gofal Plant a Chwarae, yw rheoli tîm o rhwng 6 ac 8 Arolygydd Rheoleiddio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal plant a chwarae rheoleiddiedig a ddarperir yn darparu gofal diogel o ansawdd da, ac yn annog ac yn ysgogi gwelliant. Bydd y Rheolwr Tîm yn cynorthwyo ac yn cefnogi'r Uwch Reolwr gyda'r gwaith o reoli'r gwasanaeth yn effeithiol, yn amserol ac yn effeithlon.

Bydd Rheolwyr Tîm yn atebol i Uwch Reolwr. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni'n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar wasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru.

Prif dasgau

  • Rheoli tîm o Arolygwyr Rheoleiddio yn effeithiol o ddydd i ddydd.
  • Sicrhau y darperir sesiynau goruchwylio myfyriol rheolaidd i arolygwyr dynodedig ac y caiff eu perfformiad ei reoli'n effeithiol.
  • Hyrwyddo a chyfrannu at ymwreiddio'r defnydd o systemau digidol a TGCh yn AGC.
  • Cefnogi datblygiad staff y tîm drwy roi hyfforddiant sefydlu, sesiynau briffio a gweithredu fel mentor neu hyfforddwr gydag arolygwyr rheoleiddio a nodir ac aelodau o'r staff. Monitro ac arsylwi ar ymarferion arolygu er mwyn nodi a rhannu arfer da a meysydd i'w datblygu'n broffesiynol.
  • Bod yn gyfrifol am ddyrannu gwaith i arolygwyr dynodedig yn amserol ac yn effeithlon, yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.
  • Helpu'r Uwch Reolwr a'r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae i gyfrannu at y gwaith o sicrhau ymatebion amserol a chyflawn i bob sylw, canmoliaeth a chwyn, a cheisiadau'r Ddeddf Diogelu Data yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.
  • Gwneud penderfyniadau rheoli achosion a gorfodi yn unol â'r dyletswyddau dirprwyedig a nodir yng nghanllaw sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.
  • Gweithio'n agos gydag uwch reolwyr mewn timau Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth.
  • Bod yn gyfrifol am reoli gweithgareddau rheoleiddio a pherfformiad drwy gyfrannu'n effeithiol at ddewis, recriwtio a sefydlu staff.
  • Goruchwylio trefniadau ar gyfer atebolrwydd a chydymffurfiaeth â safon ac ansawdd pob gweithgaredd arolygu a rheoleiddio Gofal Plant a Chwarae fel rheolwr llinell o ddydd i ddydd.
  • Bod yn rheolwr llinell cryf a gweladwy i arolygwyr rheoleiddio gan ddangos ymrwymiad personol i werthoedd a nodau'r sefydliad ar bob lefel o weithgarwch.
  • Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o wellaint parhaus, lle caiff materion amrywiaeth a chydraddoldeb eu hystyried yn llawn a'u hintegreiddio mewn ymarfer rheoleiddio, a gweithredu fel hyrwyddwr newid fel sy'n ofynnol gan y sefydliad.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru yn y maes cyfrifoldeb.
  • Helpu i gynnal archwiliadau ac adolygiadau sicrhau ansawdd yn ôl y gofyn.
  • Helpu arolygwyr gyda gweithgarwch arolygu cymhleth a heriol yn ôl y gofyn.
  • Bod yn gyfrifol am gysylltu â'r rheoleiddwyr eraill, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu ac arolygiaethau eraill, er mwyn cefnogi proses reoleiddio effeithiol.  
  • Bod yn gyfrifol am gysylltu ag awdurdodau lleol mewn perthynas â materion diogelu a materion perthnasol eraill.
  • Ystyried cynrychiolaethau yn unol â'r rota y cytunwyd arno.
  • Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
  • Helpu'r Uwch Reolwr Gofal Plant a Chwarae i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi perthnasol ac arfer gorau mewn meysydd a nodir a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.
  • Gweithio'n agos â rheolwyr tîm yn y timau cofrestru a gorfodi i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun, gan gynnwys sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol perthnasol a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod ag Uwch Reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

31/01/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gosod y Trywydd - Gweld y Darlun Cyflawn: Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr
  • Gosod y Trywydd - Gwneud Penderfyniadau Effithiol: Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
  • Ymwneud â Phobl - Arwain a Chyfathrebu: Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
  • Gwireddu Canlyniadau - Cyflawni'n Brydlon: Cynllunio ymlaen llaw ond gan ailystyried llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd y galwadau ar unigolion yn gwrthdaro

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Cymhwyster gofal cymdeithasol cydnabyddedig megis Diploma mewn gwaith cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), gradd mewn astudiaethau blynyddoedd cynnar/plentyndod, gradd addysgu, cymhwyster TAR gyda gradd berthnasol neu Ddiploma Lefel 5 mewn Arwain Gofal Plant ynghyd â phrofiad ôl-gymhwyso perthnasol o weithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer plant.
  2. Profiad o arwain, rheoli a datblygu tîm yn effeithiol.
  3. Tystiolaeth o arwain a llywio'r gwaith o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion amrywiol defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid/defnyddwyr.

Proses Asesu

Bydd ymgeiswyr yn mynd drwy broses sifftio yn y lle cyntaf yn seiliedig ar fanylion y swydd. Yna bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio ddod i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn dechrau gyda chyflwyniad 10 munud a rhoddir 30 munud i'r ymgeisydd baratoi cyn y cyfweliad. Darperir pwnc y cyflwyniad ar y diwrnod.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn.
Louise Morgan - 03000 255175 - louise.morgan1@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.