Swydd Wag -- Rheoliadau Adeiladu – Arweinydd y Broses Rheoli Adeiladu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cynllunio
SEO - £41,700 - £49,370
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu gwelliannau i brosesu rheoli adeiladu, gan gefnogi'r diwygiadau cynhwysfawr i ddiogelwch adeiladau yng Nghymru mewn ymateb i drychineb Tân Grenfell.

Prif dasgau

Prif dasgau

  • Arwain a chydlynu'r gwaith o sefydlu systemau i gefnogi rolau effeithiol ar gyfer deiliaid dyletswydd, a goruchwylio/ rheoleiddio yn ystod y cam Dylunio ac Adeiladau, gan ddefnyddio arbenigedd y sector.
  • Datblygu fframweithiau ar gyfer gweithdrefnau Rheoli Adeiladu ar gyfer Adeiladau Preswyl Risg Uchel, gan gynnwys hysbysiadau stop.
  • Cwmpasu, adolygu a datblygu amrediad o brosesau Rheoli Adeiladu cyffredinol ar gyfer pob Cyrff Rheoli Adeiladu, sy'n cyd-fynd â'r amcanion diogelwch adeiladau gwell, a defnyddio'r arbenigedd sydd ei angen gan gydweithwyr ar draws y sector, gan gynnwys staff y Gangen Diogelwch Tân ac awdurdodau lleol.
  • Cynrychioli'r tîm a chefnogi uwch-reolwyr mewn cyfarfodydd/sesiynau briffio Gweinidogion a digwyddiadau ymgysylltu.
  • Cydlynu ac arwain gwaith gyda Gwasanaethau Cyfreithiol.
  • Arwain cyfathrebu allanol a rheoli cyllidebau neilltuedig.
  • Gweithio gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i gydgysylltu datblygiadau sy'n ymwneud â'r meysydd hyn.
  • Arwain a chydlynu gwaith mewn perthynas â'r 'Edau Aur' a Setiau Data Allweddol yn ystod y camau dylunio ac adeiladu, yn ogystal â'r gofynion i rannu gwybodaeth rhwng Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau Llywodraeth y DU a Chyrff Rheoli Adeiladu.
  • Arwain a chydlynu'r gwaith o sefydlu camau craffu Porth.
  • Arwain a chydlynu gwaith mewn perthynas â Rheoliadau Ffioedd a Thaliadau a datblygu canllawiau cysylltiedig – goruchwylio/ymgysylltu â'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau / y Gweinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar y materion hyn.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn rhan o raglen Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru, sy'n faes datblygu polisi proffil uchel sy'n symud yn gyflym. Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel gan gynnwys uwch staff, Gweinidogion ac amrediad o randdeiliaid allanol.

Dyddiad Cau

21/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Chwilio a rhannu profiadau i ddatblygu gwybodaeth o faes busnes y tîm. Deall sut mae strategaethau a gweithgareddau'r tîm yn creu gwerth ac yn bodloni anghenion amrywiol yr holl randdeiliaid.

Newid a Gwella

  • Annog syniadau am newid o ystod eang o ffynonellau.

Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cyfathrebu mewn ffordd syml, onest ac ymgysylltiedig, gan ddewis arddulliau priodol i wneud y mwyaf o ddealltwriaeth ac effaith.

Gweithio ar y Cyd

  • Annog gwaith tîm wedi'u uno yn eich tîm chi ac ar draws grwpiau eraill.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Bydd y meini prawf canlynol sy’n benodol i'r swydd yn cael eu hasesu yn y cam sifftio a’r cyfweliad.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  • Profiad ym maes polisi neu sgiliau y gellir eu trosglwyddo i'r rôl hon
  • Profiad o weithio mewn maes cymhleth, blaenoriaeth uchel sy'n symud yn gyflym
  • Profiad o reoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Proses Asesu

Mae tri cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am ichi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu eich CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

Cam 3 – Cyfweliad

Dyddiad cyfweliadau: i'w gadarnhau.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau ichi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. Efallai y bydd gofyn ichi roi cyflwyniad byr (5 munud) i agor y cyfweliad – os bydd, anfonir y teitl/pwnc atoch ymlaen llaw.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Julia Ashford - enquiries.brconstruction@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.