Swydd Wag -- 8793 - Pennaeth Cyllid Diogelwch a Gwella

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyllid Arloesol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae'r tîm Ariannu Arloesol yn gyfrifol am ddylunio a gweithredu cynlluniau tai newydd, sy'n cyfrannu at gynyddu'r cyflenwad tai a gwella safonau tai ledled Cymru.

Mae'r Pennaeth Cyllid Diogelwch a Gwella yn cynghori ac yn cefnogi'r gyfarwyddiaeth a'r sector i ystyried atebion ariannu arloesol sy'n hybu gwaith datblygu hirdymor cartrefi o ansawdd uchel, fforddiadwy a diogel. Gall hyn fod drwy ddatblygu opsiynau ariannu arloesol i gefnogi gwelliannau o ran polisi, datgarboneiddio a diogelwch mewn adeiladau newydd ac eiddo presennol, beth bynnag fo'u deiliadaeth. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian o'u buddsoddiad eu hunain ac yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â mecanweithiau ariannu eraill sydd ar gael o fentrau ariannu eraill y llywodraeth yn ogystal â buddsoddiad preifat.

Bydd y swydd hon yn gweithio ar draws yr Is-adran, yn ogystal â’r Adran Tai yn ehangach, i nodi meysydd posibl lle gall mecanweithiau cyllid newydd ac arloesol gynnig cyfleoedd i wneud gwelliannau i'r stoc dai bresennol a gwella'r cyflenwad o gartrefi newydd.

Prif dasgau

  • Gweithio'n agos gyda'n Gweinidog, cydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaid strategol allweddol i sicrhau bod gwaith meddwl a datblygu polisïau yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu ac ymrwymiadau Cymru Sero Net ac yn seiliedig ar ofynion ariannol, cyfreithiol a rheoleiddiol.
  • Sbarduno’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth newydd Datgarboneiddio Preswyl, gan dynnu ynghyd ein bwriad strategol yn y maes polisi a sicrhau bod ymrwymiadau Cymru Sero Net ar ddatgarboneiddio preswyl yn cael eu cyflawni 
  • Helpu'r is-adran ehangach i ysgogi'r newid trawsnewidiol sydd ei angen o ran polisi, diwylliant ac ymarfer i weithredu newid a chyrraedd targedau mewn perthynas â datgarboneiddio Cartrefi Cymru.  Mae angen i waith datblygu polisi ystyried newidiadau ar draws y system sy'n angenrheidiol i ysgogi’r newid hwn ar gyflymder.  Mae'n ehangach na datblygu strategaeth a pholisi yn unig, mae’n sicrhau bod y system yn newid i gefnogi hyn – gan gynnwys sicrhau bod capasiti a gallu (er enghraifft) i osod technoleg datgarboneiddio, sicrhau argaeledd technoleg datgarboneiddio drwy gaffael diogel moesegol a dod o hyd i lwybrau, a rheoli gwaith cyfathrebu i sicrhau bod negeseuon ynghylch newid cymdeithasol a newid ymddygiadol yn cael effaith. 
  • Mynd i’r afael â gwaith mapio, rheoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwrando a meithrin consensws gyda phartneriaid allanol strategol, mewn maes polisi proffil uchel ac weithiau yn ddadleuol sydd â buddiannau a safbwyntiau lluosog sy'n cystadlu.
  • Mynd i’r afael â gwaith rheoli matrics, ymgysylltu a dylanwadu, gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Cyfarwyddiaethau Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio yn ogystal â sgiliau ac addysg.
  • Cyfrifoldeb dros weithredu polisi yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer nid yn unig gwaith parhaus gydag Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs), ond hefyd y Sector Rhentu Preifat a chartrefi sydd wedi’u meddiannu gan berchnogion, gan sicrhau bod polisi’r Llywodraeth yn cael ei weithredu yn effeithiol a bod canlyniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni.
  • Gweithio gyda'r swyddog Gradd 6 i sefydlu a chynnal perthnasoedd gweithio cryf gyda Gweinidogion - gan ddarparu cymorth Gweinidogol effeithiol ar bob mater sy'n ymwneud â gwaith y tîm datblygu polisi. Mae hyn yn cynnwys arwain ar reoli holl fusnes y Llywodraeth yn y maes hwn, gan gynnwys briffio'r Gweinidogion, llythyrau ac areithiau, ymatebion i adroddiadau pwyllgorau, ymholiadau'r wasg, cwestiynau ysgrifenedig y Senedd (WSQs), cwestiynau llafar y Senedd (OSQs) a phob gohebiaeth arall.
  • Sefydlu perthnasoedd gweithio cryf gydag uwch-bartneriaid mewnol ac allanol allweddol ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru, Prif Weithredwyr sefydliadau allweddol yn y trydydd sector a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn ogystal â Llywodraeth y DU, a Grŵp Gweithredu Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Dyddiad Cau

12/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Bydd yr Ymddygiadau a’r Sgiliau a ganlyn yn cael eu hasesu ar y cam cyfweld.

Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil

Gwneud penderfyniadau effeithiol

  • Defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau a chyngor cywir, arbenigol. Ystyriwch yr opsiynau yn ofalus, goblygiadau a risgiau eraill o benderfyniadau.

Cyfathrebu a dylanwadu

  • Cyfathrebu pwrpas a chyfeiriad gydag eglurder, uniondeb a brwdfrydedd. Parchu anghenion, ymatebion a barn pobl eraill.

Newid a gwella

  • Gwneud newidiadau sy'n ychwanegu gwerth ac yn egluro'n glir sut y bydd newidiadau o fudd i'r busnes. Nodi arwyddion cynnar bod pethau'n mynd yn anghywir ac yn ymateb yn brydlon.

Cyflawni’n brydlon

  • Cymryd cyfrifoldeb dros gyflawni canlyniadau amserol ac o ansawdd gyda ffocws ac egni.

Prawf Penodol i’r Swydd

Bydd y meini prawf penodol i'r swydd canlynol yn cael eu hasesu ar y cam sifftio a chyfweld.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Penodol i'r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  • Yn ddelfrydol yn arbenigwr o ran deall cyllid a modelau ariannol amgen. Bydd gennym ddiddordeb yn y ffordd yr ydych wedi mynd ati i ddatblygu eich arbenigedd yn y maes hwn, gan gyfeirio at achosion neu faterion penodol rydych wedi gweithio arnynt.
  • Hyblyg ac addasadwy wrth ysgogi maes gwaith proffil uchel sy'n symud yn gyflym.
  • Gweithiwr proffesiynol cymwysedig ym maes Cyfrifyddiaeth  e.e. Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA). 

Proses Asesu

Y broses ymgeisio ac asesu

Mae 3 cham i’r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Uwchlwythwch eich CV a'ch datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym yn chwilio'n arbennig i chi ddangos sut rydych chi'n cwrdd â phob Maen Prawf Penodol i’r Swydd. Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd o'r hysbyseb.

Sylwch y byddwn yn asesu eich CV a'ch datganiad personol yn erbyn y meini prawf penodol i’r swydd a restrir isod . Sicrhewch fod eich datganiad personol yn nodi sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. (tua 300 o eiriau ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, bydd pob CV a datganiad personol yr ymgeiswyr yn cael eu hasesu.

Bydd ymgeiswyr sy'n dangos yn llwyddiannus eu bod yn bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd gofynnol yn cael  cyflwyniad sgiliau ar-lein (teitl ) 5 munud o hyd.

Dyddiad cyfweliadau i’w gadarnhau.

Cam 3 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y Proffiliau Sgiliau neu’r Ymddygiadau/Sgiliau a’r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a amlinellir yn adrannau'r hysbyseb hon.

Ar y cam cyfweld gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu ichi ddarparu tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Carrie Satherley

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.