Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Uwch Wasanaeth Sifil 3
tua £125,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Gallwch weithio o unrhyw un o bedair swyddfa Llywodraeth Cymru sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth. Mae natur y swydd yn golygu y bydd disgwyl ichi deithio’n rheolaidd i wahanol rannau o Gymru, gan weithio gyda chydweithwyr a chyfarfod â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol. Byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid y tu allan i Gymru.

Dyddiad Cau

30/05/23 23:55

Pwrpas y Swydd

Yn ei rôl, bydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn gyfrifol am arwain mwy na 1,000 o aelodau o staff, gyda chwe Chyfarwyddiaeth barhaol a dwy Gyfarwyddiaeth dros dro.

Mae’r Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gymraeg yn dwyn ynghyd bob agwedd ar addysg, sgiliau a dysgu gydol oes ochr yn ochr â’n gwaith i helpu i greu cymunedau a gweithleoedd tecach sy’n fwy diogel ac yn fwy cyfartal. Mae gwaith y Grŵp yn seiliedig ar y strategaeth Cymraeg 2050 a’n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, gan gefnogi diwylliant Cymru a datblygu ei phroffil. Y Grŵp sy’n gyfrifol am arwain ein perthynas â llywodraeth leol. Mae hynny’n cynnwys darparu’r setliad ariannol blynyddol a llunio trethiant lleol i wella cadernid ariannol yr awdurdodau fel y gallant ddarparu’r ystod briodol o wasanaethau effeithiol. Mae’r Grŵp hefyd yn gyfrifol am arwain y gwaith o gynllunio a rheoli ymateb Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus i argyfyngau a goruchwylio risg, cadernid a diogelwch cymunedol.

Mae’r Grŵp yn gyfrifol am nifer sylweddol o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu er mwyn gwneud Cymru’n fwy llewyrchus, yn fwy cyfartal ac yn wyrddach. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
• Sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb drwy weithredu ein Cwricwlwm blaenllaw i Gymru, gosod dull newydd o ymdrin â darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a chryfhau cymorth dysgu proffesiynol ar gyfer pob addysgwr.
• Cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg ym mhob lleoliad addysg a gofal plant.
• Llywio gwaith i warchod a thyfu’r Gymraeg a’n diwylliant.
• Datblygu sgiliau a chyflogadwyedd i wella canlyniadau’r farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod, pobl ifanc, gweithwyr hŷn dros 50 oed, gofalwyr, a’r rhai a chanddynt sgiliau lefel isel.
• Sefydlu mai drwy bartneriaeth gymdeithasol yr ydym yn ymdrin â busnes, a chefnogi hyn drwy gael sail statudol i bartneriaeth gymdeithasol drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). 
• Arwain camau gweithredu i helpu pobl i fyw mewn cymunedau mwy diogel a chydlynus, mynd i’r afael â thlodi plant ac ysgogi camau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant.
• Arwain ar hawliau dynol, anghydraddoldeb a chynhwysiant.
• Diwygio etholiadau lleol a gwneud y dreth gyngor yn decach.

Mae’r Grŵp yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer nifer o raglenni sy’n cael eu cynnal ar draws Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yr ymateb dyngarol i’r gwrthdaro yn Wcráin, yr ymateb i’r argyfwng costau byw a’r gwaith o gynllunio ar gyfer risgiau a pharodrwydd.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Bydd angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd y gweithgareddau isod yn rhan o’r asesiad cyffredinol sydd ei angen ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn:

  • Prawf seicometrig ar-lein – bydd hwn yn cynnwys rhesymu rhifiadol a geiriol a thrafodaeth â seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein o fewn 10 diwrnod i’r cyfarfod llunio rhestr fer. Os ydych chi wedi cwblhau’r profion seicometrig ar-lein yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ar gyfer swydd ar yr un radd, ni fydd angen ichi eu gwneud eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio penodol hwn.
  • Ymarfer ymgysylltu â staff/rhanddeiliaid – cynhelir hwn ar wythnos yn dechrau 19 Mehefin 2023. Rhagor o fanylion i ddilyn.
  • Sgwrs anffurfiol – Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cymryd rhan mewn sgwrs anffurfiol gyda Gweinidog. Mae’r rhain wedi’u trefnu ar gyfer wythnos yn dechrau 19 neu 26 Mehefin 2023. Rhagor o fanylion i ddilyn.
  • Cyfweliadau gan banel, a chyflwyniad – mae’r rhain wedi’u trefnu ar gyfer  4 Gorffennaf 2023. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams. Bydd y cyfweliadau’n para tua 45 munud. 

Bydd yr holl asesiadau uchod yn cael eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.



Gwybodaeth arall am y swydd

  • Y Telerau Penodi - Mae hon yn swydd barhaol. Mae ar gael i weithwyr parhaol Gwasanaeth Sifil y DU (a recriwtiwyd drwy gystadleuaeth deg ac agored) ar sail symud ar draws neu ddyrchafiad. Mae’r swydd ar gael hefyd i’r rhai sy’n dymuno ymuno â’r Gwasanaeth Sifil ac i’r rhai sy’n dymuno gwneud cais ar sail cael eu benthyg neu ar sail secondiad am hyd at bum mlynedd i ddechrau
  • Y Gymraeg  - Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y swyddog uchaf â chyfrifoldeb am y polisi “Cymraeg 2050” ar draws Llywodraeth Cymru. Bydd angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y rôl hon, felly – a hynny o’r dechrau yn ddelfrydol. Fodd bynnag, mae ymgeiswyr ag ychydig o allu neu ddim gallu yn yr iaith yn gymwys i ymgeisio ac yn cael eu hannog i wneud hynny. Bydd ymgeisydd llwyddiannus ag ychydig o sgiliau neu ddim sgiliau yn cael ei asesu, a bydd disgwyl i’r unigolyn wneud ymrwymiad i ddatblygu ei sgiliau yn y Gymraeg hyd at lefel briodol. Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i wneud hyn, a bydd hyfforddiant cynhwysfawr ar gael. Fel yn achos gofynion eraill, gellir trafod addasiadau rhesymol.
  • Recriwtio Dienw - Dylech ddileu eich enw o’ch CV a’ch datganiad personol pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

Gweler y briff i’r ymgeisydd am fwy o fanylion. 

04/07/2023
RecriwtioUWS@llyw.cymru

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.