Swydd Wag -- Swyddog Gwaith Achos x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£22,150
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
2 Yn barhaol, 1 Tymor Sefydlog am 24 mis gyda'r posibilrwydd o barhad.
2 Yn barhaol, 1 Tymor Sefydlog am 24 mis gyda'r posibilrwydd o barhad.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Darparu cymorth gweinyddol ar draws ystod o waith achos, gan weithio ar y cyd ag Arolygwyr, ac yn unol â chyfarwyddiadau desg a safonau gwasanaeth cytunedig.

Prif dasgau

  • Rheoli llwyth achosion sy’n cynnwys achosion sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad ac ymchwiliad.
  • Dilysu achosion newydd (gan gynnwys, os bydd angen, cadarnhau’r ffi sy’n ofynnol a’r cyfnod talu, dilysu’r hawl i apelio/cymhwyso buddiant yn y tir, cadarnhau seiliau a’r weithdrefn), gan ddehongli a chymhwyso polisi cyfredol a deddfwriaeth berthnasol. Sicrhau bod achosion anghyflawn yn cael eu hailasesu ar ôl derbyn dogfennau ychwanegol.
  • Ymdrin ag ymholiadau a materion mwy cymhleth, gan sicrhau eu bod yn derbyn sylw mewn modd amserol.
  • Ymdrin yn brydlon ac yn gwrtais â chwynion a gohebiaeth/ymholiadau ansafonol ar lafar ac yn ysgrifenedig gan Arolygwyr, Awdurdodau Cynllunio Lleol, Awdurdodau Gwneud Gorchymyn, Asiantiaid, Apelyddion a phartïon â buddiant trwy ymateb neu baratoi ymateb drafft ac unrhyw dasgau eraill, fel y bo angen.
  • Sicrhau bod achosion yn cael eu prosesu i gyflawni targedau amseroldeb ac ansawdd Gweinidogol a mewnol PCAC.
  • Cynnal cofnodion cywir o gynnydd achosion gan ddefnyddio’r gronfa ddata berthnasol.
  • Darparu cymorth gweinyddol a swyddogaeth gyflenwi ar gyfer eich tîm chi a thimau eraill (fel y bo’n briodol).
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill am statws presennol yr achos ac ymateb i unrhyw ymholiadau.
  • Gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio cyfarwyddiadau a chanllawiau desg ar faterion fel dilysu, ymestyn terfynau amser a derbyn dogfennau mewn modd amserol.
  • Gweithredu ar geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau Llywodraeth Cymru a PCAC.
  • Sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) pan fyddwch chi a’r tîm yn paratoi’r holl ddogfennau i’w cyhoeddi ar system Gwaith Achos PCAC a’u cyfnewid â phartïon, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chanllawiau mewnol. Sicrhau bod data personol a sefydliadol yn cael ei storio a’i reoli yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol.
  • Hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau Cymraeg, gan sicrhau y cydymffurfir â Safonau’r Gymraeg.
  • Pan fydd angen, sicrhau bod yr amser a dreulir ar waith achos yn cael ei gofnodi’n gywir at ddibenion ailgodi tâl.
  • Creu a chynnal perthynas effeithiol a chefnogol o fewn timau, ar draws PCAC a chyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Cydweithio ag eraill i helpu i gyflawni amcanion strategol y sefydliad.
  • Rhannu gwelliannau i brosesau a syniadau a datrysiadau ar gyfer effeithlonrwydd er mwyn gwella perfformiad y tîm a’r sefydliad.
  • Gwrando ar adborth a gweithredu arno, a chymryd cyfrifoldeb am ddatblygu eich hun.
  • Arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau craidd Llywodraeth Cymru a PCAC.
  • Hyrwyddo a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Cyfleoedd datblygu

Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith trwy gyfrannu eich sgiliau gwerthfawr at PCAC i helpu i wella canlyniadau cynllunio yng Nghymru a’n helpu i gynnal datblygu cynaliadwy. Bydd deiliad y swydd yn cyflawni rôl amrywiol a diddorol gan weithio gyda thîm ymroddedig ar draws pob agwedd ar waith achos cynllunio ac amgylcheddol PCAC ledled Cymru.

Dyddiad Cau

08/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol – Gwneud a chofnodi penderfyniadau effeithiol, gan ddilyn y meini prawf, fframweithiau neu ganllawiau perthnasol ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth – Gofyn am gymorth pan fo angen er mwyn cwblhau eu gwaith eu hunain yn effeithiol. Cyfrannu’n rhagweithiol i waith y tîm cyfan.
Rheoli Gwasanaeth Safonol – Bod yn atebol am faterion, gan ganolbwyntio ar darparu’r ateb cywir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid cyflenwi
Cyflawni’n Brydlon – Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol. Gweithio’n sydyn ac egnïol er mwyn cwblhau’r gwaith.

Meini prawf penodol i'r swydd

Sgiliau cyfathrebu da gydag ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
Trefnus gydag agwedd ragweithiol i weithio mewn amgylchedd prysur, ac yn meddu ar y gallu i flaenoriaethu a chyflawni gwaith yn unol â therfynau amser cytunedig gyda lefel uchel o gywirdeb.
Hyddysg mewn cyfrifiadura, gan gynnwys gwybodaeth ymarferol am feddalwedd Microsoft Office.

Proses Asesu

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais drwy ein porth recriwtio sy'n mynd i'r afael â'r ymddygiadau perthnasol, y meini prawf swyddi penodol a dymunol, gan nodi eu cymwysterau, eu gwybodaeth a'u profiad sy'n berthnasol i'r rôl.

Bydd y camau canlynol yn cael eu defnyddio i sifftio a dewis ymgeiswyr addas:


Cam 1 - Bydd y Panel Recriwtio yn sifftio ffurflenni cais yn seiliedig ar ymddygiadau a meini prawf penodol i swyddi. Os bydd nifer fawr o geisiadau, bydd y sifft yn seiliedig ar yr ymddygiadau yn unig. Bydd pob ymgeisydd sy'n cwrdd â'r safon gytûn yn mynd ymlaen i gyfweliad.

Cam 2 - Yn dilyn Cam 1 bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad trwy MS Teams. Bydd y cyfweliad yn cynnwys cwestiynau cymhwysedd ymddygiadol a meini prawf penodol i swyddi i asesu addasrwydd ar gyfer y swydd.

Asesu a dewis - Bydd ymgeiswyr sy'n pasio'r sifft a'r cyfweliad wedyn yn cael eu rhestru mewn trefn teilyngdod yn seiliedig ar eu sgoriau cyfweliad.

Bydd y ddau ymgeisydd sy'n sgorio uchaf yn cael cynnig swydd barhaol, gyda'r uchaf nesaf yn cael cynnig y rôl tymor penodol.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Chris Sweet - externalrecruitment@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.