Swydd Wag -- Swyddog Grantiau Cymraeg 2050

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Addysg (Cymraeg 2050)
EO - £26,900 - £30,610
£26,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau.

Pwrpas y swydd

  • Cydlynu cynlluniau grant i gynyddu defnydd o’r Gymraeg a ddyrennir gan isadran Cymraeg 2050 gan gydymffurfio gyda prosesau llywodraethiant grantiau y Llywodraeth
  • Arwain a chydlynu gwaith i greu cynllun grant newydd i ddiwallu anghenion Cymraeg 2050 ac i ymateb i adolygiad o’r Cynllun Grantiau cyfredol i Hyrwyddo’r Gymraeg.
  • Chwilio am ddulliau o leihau biwrocratiaeth ein grantiau ac o gyfrifiaduro’r broses fewnol ar gyfer asesu/talu grantiau
  • Cyfathrebu gyda rheolwyr grant mewnol ynghylch eu cyfrifoldebau o ran y cynllun grant er mwyn sicrhau taliadau prydlon a gwybodaeth am effaith gweithgareddau
  • Sicrhau bod astudiaethau achos o’r gwaith a wneir gyda’r cyllid grant yn derbyn adborth a’u cyhoeddi’n rheolaidd yng nghylchlythyr Cymraeg 2050.
  • Rheoli grant Cymdeithas Eisteddfodau Cymru a dwy fenter gymunedol yng Ngwynedd
  • Bod yn rhan o dîm sy’n cynllunio a monitro gwaith partneriaid grant
  • Cefnogi’r Grwp Hyrwyddo, sy’n cynnwys trefnu a chofnodi cyfarfodydd gyda phartneriaid allanol yn y maes Cymraeg.

Prif dasgau

  • Gweinyddu grantiau Isadran Cymraeg 2050 ar system Paygrants sy’n cynnwys gwirio manylion personol a sefydliadol, rhoi cynigion grant ar Paygrants, ardystio taliadau o leiaf dwywaith y flwyddyn a gwneud crynodiadau diwedd y flwyddyn ariannol.
  • Dadansoddi adroddiadau Paygrants gan wirio taliadau’n rheolaidd yn erbyn y gyllideb.
  • Rheoli bas data cyfredol o gyrff sy’n derbyn grant gan gadw cyswllt rheolaidd o ran y broses gweinyddu grantiau.
  • Arwain a chydlynu gwaith i greu cynllun grant newydd i ddiwallu anghenion Cymraeg 2050 ac i ymateb i adolygiad o’r Cynllun Grantiau cyfredol i Hyrwyddo’r Gymraeg.
  • Chwilio am ddulliau o leihau biwrocratiaeth ein grantiau ac o gyfrifiaduro’r broses fewnol ar gyfer asesu/talu grantiau
  • Sicrhau bod astudiaethau achos o’r gwaith a wneir gyda’r cyllid grant yn derbyn adborth a’u cyhoeddi’n rheolaidd yng nghylchlythyr Cymraeg 2050.
  • Cadw cofnod canolog o gyflawniad dangosyddion / allbynnau pob partner perthnasol.
  • Bod yn bwynt cyswllt i bartneriaid grant gan gyfeirio unrhyw ymholiadau at y rheolwyr grant perthnasol.
  • Cyfathrebu’n rhagweithiol â rheolwyr grant er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u dyletswyddau, a hynny er mwyn sicrhau taliadau prydlon a gwybodaeth am unrhyw danwariant neu dangyflawni gan bartneriaid grant.
  • Cyfathrebu’n rheolaidd gydag aelodau eraill yr isadran a rhan-ddeiliaid allanol er mwyn rhannu gwybodaeth.
  • Cydlynu cyfarfodydd gyda phartneriaid allanol
  • Darparu cofnodion o gyfarfodydd gyda rhan-ddeiliaid
  • Gweithredu fel RMSO  a chynnig hyfforddiant i eraill, cydlynu system ffeilio grantiau isadran Cymraeg 2050, a chydlynu ymatebion ar gyfer BIRT ac ymholiadau corfforaethol eraill o bryd i’w gilydd
  • Cadw cofnod o wariant grantiau a phrosiectau’r gangen a sicrhau taliadau prydlon
  • Paratoi llythyron cynnig i bartneriaid y cynllun grant, sy’n cynnwys gwirio cynlluniau gwaith (targedau) a chostau (cyllideb y dibenion).
  • Cyfrifoldeb am baratoi gohebiaeth cyffredinol i bartneriaid grant yn rheolaidd
  • Dadansoddi adroddiadau Paygrants a gwirio taliadau’n rheolaidd yn erbyn y gyllideb.
  • Pwynt cyswllt cyntaf drwy’r Mewnflwch Grantiau gan ymateb i ymholiadau cyffredinol a’i rhannu gyda swyddogion perthnasol i weithredu (fel bo’r angen).
  • Gwirio ceisiadau, ffurflenni monitro i sicrhau bod yr holl wybodaeth wedi’i chynnwys yn gywir am ein cynllun grant neu ddiweddariadau perthnasol eraill  at bartneriaid grant
  • Pwynt cyswllt cyntaf gydag ymholiadau a diweddariadau gan y tîm Grants Centre of Excellence.
  • Cydlynu grŵp hyrwyddo’r Gymraeg.

Cyfleoedd datblygu

Bydd gweithio yn y swydd hon yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus weithredu mewn tîm sy’n gweithredu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg, yn fewnol a chyda phartneriaid.   Bydd yn gyfle i ddysgu am waith amrywiaeth o ran-ddeiliaid sy’n gweithredu yn y maes polisi iaith.

Dyddiad Cau

20/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Rheoli Gwasanaeth Safonol -  Gweithio gyda’r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli’r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a’r busnes.

Cyflawni’n Brydlon - Bod yn atebol am fynd i’r afael â phroblemau yn y maes y maen nhw’n gyfrifol amdano. 

Arwain a Chyfathrebu -  Gwrando ar wahanol safbwyntiau, syniadau a ffyrdd o weithio, yn ogystal â deall, parchu a derbyn bod gwerth i bob un ohonynt.

Newid a Gwella - Bod yn flaengar wrth argymell syniadau ar gyfer gwella, gan rannu’r adborth ag eraill mewn modd adeiladol.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Meini Prawf Penodol i’r Swydd Profiad o ddelio gyda rhan ddeiliaid mewnol ac allanol.
  2. Profiad o reoli gwaith personol mewn amgylchedd brysur a chyflawni o fewn terfynau amser tynn.
  3. Y gallu i ymwneud yn hyderus a chywir gyda chyllidebau a phrosesau grant – sgiliau MS Excel uwch.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Fiona Marston - cymraeg2050@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.