Swydd Wag -- Pennaeth Gofal Iechyd Annibynnol a Swyddogaethau Statudol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380, ond gall cyflog cychwynnol o hyd at £54,280 gael ei gynnig ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod y gwaith o reoleiddio’r sector annibynnol yn cael ei gyflawni mewn ffordd integredig o gofrestru i arolygu.

Arwain y gwaith o ddarparu rhaglen arolygiadau gofal iechyd annibynnol AGIC yn amserol ac i ansawdd uchel i sicrhau bod diogelwch cleifion ac ansawdd yn cael eu cynnal a'u gwella mewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

Goruchwylio'r gwaith o gyflawni swyddogaethau statudol AGIC.

Prif dasgau

Tasgau penodol i’r swydd: 
•    Darparu arweinyddiaeth i unrhyw aelod o staff AGIC sy'n cyflawni gweithgareddau rheoleiddio yn ogystal ag arweinyddiaeth gorfforaethol fel aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Uwch AGIC.
•    Darparu arweinyddiaeth i Reolwr Rheoleiddio AGIC, gan sicrhau bod gweithgareddau a phrosesau cofrestru’n cael eu darparu’n effeithiol ac effeithlon i gefnogi rôl AGIC fel rheoleiddiwr gofal iechyd annibynnol Cymru.
•    Bod yn atebol am wneud penderfyniadau rheoleiddiol o ran gofal iechyd annibynnol a phreifat, gan weithio’n agos ag uwch-gydweithwyr, y gwasanaethau a phroffesiwn cyfreithiol, a rhanddeiliaid allweddol.
•    Cyfrifoldeb am amserlennu a chyflawni rhaglen AGIC o arolygiadau gofal iechyd annibynnol, gan gynnwys y rhaglen ddeintyddol, a gweithgareddau sy'n ymwneud â chyfrifoldebau statudol megis y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol). 
•    Addasu rhaglen AGIC o arolygiadau gofal iechyd annibynnol i ystyried penderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Risg ac Uwchgyfeirio AGIC a gwybodaeth hysbys arall.  
•    Rheoli cysylltiadau AGIC â darparwyr gofal iechyd annibynnol ledled Cymru yn unol â’r diffiniad o rôl Rheolwr Cysylltiadau AGIC, sy’n cynnwys:
•    Cynnal trosolwg o’r wybodaeth a’r dystiolaeth am sefydliad(au) gofal iechyd annibynnol er mwyn pennu'r lefel ofynnol o weithgarwch AGIC o fewn y sefydliad hwnnw.
•    Cyflwyno'r wybodaeth a'r dystiolaeth am sefydliadau gofal iechyd annibynnol yn gywir gerbron y Pwyllgor Risg ac Uwchgyfeirio i lywio'r rhaglen waith sy'n seiliedig ar risg. Cadw golwg ar adroddiadau, yn enwedig y rheini sydd â phroffil uchel neu risg uchel, cyn eu cyhoeddi neu cyn eu rhannu â’r corff a arolygir.
•    Bod yn bwynt cyswllt cyntaf, fel y bo angen, ar gyfer materion a godir am y sefydliad(au) drwy’r broses pryderon.
•    Darparu briffiau pellach yn ôl y gofyn i'r Prif Weithredwr ac i eraill, gan gynnwys cyfarfodydd gyda'r Gweinidog a rhanddeiliaid eraill.
•    Darparu cynllun gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, yn seiliedig ar ein gofynion statudol a risgiau, fel rhan o broses gynllunio AGIC y cytunwyd arni.
•    Cynnal ymgysylltiad perthnasol â'r sefydliadau.  
•    Sicrhau bod y gwaith o arolygu gofal iechyd annibynnol yn cael ei gynnal i safon broffesiynol ac mewn ffordd sy'n effeithlon ac effeithiol.
•    Goruchwylio’r gwaith o gyflawni swyddogaethau statudol AGIC mewn perthynas â’r Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol).
•    Goruchwylio gwaith, fel y bo'n briodol, i ymateb i faterion a phryderon newydd yn y maes gofal iechyd, a allai gynnwys: 
•    Arwain adolygiadau/arolygiadau arbennig.
•    Gweithio gyda'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, gan geisio cyngor ar amrywiaeth o faterion lle bo'n briodol.
•    Paratoi ac, os oes angen, cyflwyno tystiolaeth gerbron y Tribiwnlys Safonau Gofal neu'r llysoedd.
•    Yn ôl yr angen, cydweithio â thîm polisi a deddfwriaeth AGIC i adolygu fframwaith AGIC o bolisïau, canllawiau a gweithdrefnau ar gyfer arolygu gofal iechyd annibynnol, ynghyd â'r llyfrau gwaith a'r dogfennau sy'n angenrheidiol ar gyfer arolygiadau effeithiol.
•    Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cydweithwyr yn AGIC, Llywodraeth Cymru, darparwyr gofal iechyd, ac arolygiaethau a phroffesiynau gofal iechyd eraill, i rannu gwybodaeth a chydweithio i wella gwasanaethau gofal iechyd, ac i ddylanwadu lle bo’n berthnasol ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r rheoliadau yn y dyfodol.
•    Sicrhau bod trefniadau ar waith i sicrhau ansawdd holl brosesau ac allbynnau'r gwaith o arolygu gofal iechyd annibynnol.
•    Cynrychioli AGIC ar lefel y DU ac yn rhyngwladol drwy fynychu fforymau rheoleiddio, cynadleddau a gweithdai.  
•    Cyfrannu i waith yn ymwneud â'r cyfryngau, y wasg, a gweithgareddau eraill sy'n cyfleu gwybodaeth am raglen arolygu a chanfyddiadau AGIC.     
Tasgau cyffredin: 
•    Gweithredu o dan ddirprwyaethau gan y Prif Weithredwr.
•    Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC. 
•    Cyfrannu at ddatblygiad blaenraglen waith AGIC.
•    Sicrhau bod blaenoriaethau sy'n cefnogi strategaeth drosfwaol AGIC yn cael eu cyflawni.  
•    Darparu arweinyddiaeth effeithiol a chefnogol yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.
•    Cydweithio â chydweithwyr ledled AGIC i sicrhau bod blaenoriaethau AGIC yn cael eu cyflawni.
•    Cymryd rhan yng ngweithgareddau corfforaethol AGIC.
•    Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau ei dîm.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhan o broffesiwn yr arolygwyr gofal iechyd. Bydd disgwyl i chi ddyfeisio, cynnal a dilyn cynllun datblygiad proffesiynol priodol ac ymgymryd â hyfforddiant a orchmynnir gan AGIC.

Mae'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon yn gofyn am ymgysylltiad sylweddol o fewn AGIC a'r tu allan iddi. Mae deiliad y swydd felly yn debygol o ddatblygu ei broffil/enw ei hun a chael profiad o ymdrin â rhanddeiliaid. 

Dyddiad Cau

11/10/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

  • Nodi beth yw goblygiadau blaenoriaethau a strategaethau 
    gwleidyddol a sefydliadol i’w maes eu hunain er mwyn sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a’r strategaethau hynny. 
  • Arwain drwy esiampl, gan gyfathrebu mewn modd gonest a chlir a chan ddangos moeseg, uniondeb a didueddrwydd a hyrwyddo amgylchedd gweithio sy’n cefnogi gwerthoedd a chod y Gwasanaeth Sifil. 
  • Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath. 
  • Adolygu, herio ac addasu perfformiad er mwyn sicrhau bod canlyniadau safonol yn cael eu gwireddu’n brydlon, yn ogystal â gwobrwyo llwyddiant. 

Meini Prawf Penodol i'r Swydd: 

  • Gwybodaeth a phrofiad o gymhwyso gwahanol fethodolegau arolygu/adolygu yn y maes gofal iechyd.
  • Gwybodaeth a phrofiad o reoli a sicrhau ansawdd prosesau arolygu/adolygu ar sail tystiolaeth.
  • Gwybodaeth a phrofiad o'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i gyfrifoldebau arolygu AGIC, yn enwedig ym meysydd y Ddeddf Safonau Gofal a'r rheoliadau cysylltiedig, y Ddeddf Iechyd Meddwl, a’r Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat, ond heb fod yn gyfyngedig i’r meysydd hyn. 

Proses Asesu

Caiff ceisiadau eu sifftio yn ôl yr arfer, ac yna cynhelir cyfweliadau.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd angen teithio, gan gynnwys gyrru ledled Cymru.

Peth gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Bydd y swydd hon yn amodol ar wiriad datgelu manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  

Rhys Jones - 03000 628256

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.