Swydd Wag -- Dylunydd Graffeg
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Darparu datrysiadau dylunio creadigol a pharatoi gwaith celf gorffenedig ar gyfer amrywiaeth eang o ddeunyddiau gan gynnwys animeiddiadau, cyhoeddiadau printiedig, ymgyrchoedd, brandio, systemau arddangos a sianeli digidol.
Mae’r rôl yn gofyn am lefel uchel o allu dylunio graffeg, i allu meddwl yn greadigol, cynnig datrysiadau dylunio ymarferol a chwblhau gwaith celf sy’n gywir ac o ansawdd uchel.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyderus wrth weithio i amserlenni heriol ac wrth reoli mwy nag un prosiect ar y tro. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu gweithio’n annibynnol a/neu fel rhan o dîm sy’n gweithio ar sail prosiectau ac sy’n cynnwys dylunwyr, cysodwyr, animeiddwyr, ffotograffwyr, darlunwyr, uwch-reolwyr, swyddogion polisi, datblygwyr gwe, arbenigwyr marchnata a chontractwyr allanol.
Bydd angen i ddeiliad y swydd hefyd feddu ar wybodaeth gyfredol o raglenni a phrosesau meddalwedd presennol y diwydiant dylunio.
Prif dasgau
- Integreiddio elfennau teipograffyddol, ffotograffig, darluniadol a graffeg i lunio gwaith celf o ansawdd uchel ar gyfer print, animeiddio a sianeli digidol.
- Cysyniadoli syniadau a chynnig datrysiadau ymarferol.
- Gweithio’n uniongyrchol gyda rheolwyr a swyddogion i werthuso gofynion prosiect a chynnig argymhellion ar yr hyn sy’n gyraeddadwy ac yn gyflawnadwy.
- Deall a chymhwyso’n gywir hunaniaeth brand a marciau brand cysylltiedig Llywodraeth Cymru.
- Darparu cyngor i swyddogion polisi ar frandio Llywodraeth Cymru.
- Darparu cyngor i swyddogion polisi ar ganllawiau hygyrchedd Llywodraeth Cymru o ran iaith, lliw, ffontiau a delweddau, technolegau Darllen Sgrin, Hawdd ei Ddeall.
- Gweithio fel rhan o dîm sy’n gweithio ar sail prosiectau.
- Ymgymryd â rheoli ansawdd - adolygu proflenni.
- Diweddaru cronfeydd data cynhyrchu.
- Blaenoriaethu eich gwaith eich hun.
- Deall nodau ac amcanion, blaenoriaethau a sensitifrwydd Llywodraeth Cymru.
- Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau TG mewn meddalwedd, yn benodol Adobe Creative Suite.
- Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y gymuned ddylunio ehangach.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Gosod y Trywydd - Gweld y Darlun Cyflawn
- Canolbwyntio ar nod a bwriad cyffredinol yr hyn y maen nhw’n ceisio ei gyflawni, ac nid ar y dasg yn unig.
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Siarad â'r bobl berthnasol er mwyn cael yr wybodaeth fwyaf cywir a chael cyngor pan na fyddant yn siŵr sut i symud ymlaen.
Ymgysylltu â Phobl - Arwain a Chyfathrebu
- Mynegi syniadau'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, mewn modd sy’n dangos sensitifrwydd a pharch at eraill.
Gwireddu Canlyniadau - Sicrhau Gwerth am Arian
- Deall fod costau ynghlwm wrth bopeth a dewis y ffordd fwyaf effeithiol o wneud rhywbeth gan ddefnyddio adnoddau’n effeithlon.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Defnyddiwr arbenigol o Adobe Creative Suite, yn benodol After Effects, Illustrator ac InDesign.
- Arbenigwr mewn cynhyrchu gwaith celf print sy’n gywir ac o ansawdd uchel a gwaith celf digidol ar gyfer gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol.
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn Dylunio Graffeg neu’n gallu dangos tystiolaeth o gyflogaeth mewn rôl broffesiynol sy’n canolbwyntio ar ddylunio graffeg. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno portffolio o waith y gellir ei briodoli iddyn nhw. Bydd y portffolio yn cael ei asesu os bydd yr ymgeisydd yn cyrraedd ail gam y broses fel y nodir yn y Broses Ymgeisio isod.
Dymunol
- Adobe Certified Professional – AfterEffects
Proses Asesu
Y Broses Ymgeisio
Sicrhewch eich bod wedi darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru cyn ymgeisio ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, gallech ystyried defnyddio dull STAR pan fyddwch yn darparu tystiolaeth.
Mae dau gam i’r broses ymgeisio.
- Y cam cyntaf fydd cyflwyno’ch ffurflen gais a’ch portffolio. Dylid cyflwyno’r portffolio ar ffurf PDF neu drwy ddarparu dolen. Bydd angen i ymgeiswyr fodloni’r 3 maen prawf penodol i’r swydd cyn i’w cais fynd ymlaen i’r cam nesaf. Bydd y portffolio yn cael ei asesu o dan faen prawf penodol 3.
- Yr ail gam fydd sifftio ymgeiswyr, yn seiliedig ar y 4 cymhwysedd a ddarperir.
Bydd yr ymgeiswyr hynny sy’n llwyddo i basio dau gam y broses sifftio yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Yn y cyfweliad, bydd gofyn i ymgeiswyr wneud cyflwyniad 10 munud o hyd ar un o brosiectau eu portffolio. Bydd rhagor o fanylion am y cyflwyniad yn cael eu darparu yn y gwahoddiad i’r cyfweliad.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.