Swydd Wag -- Cynghorydd Amgueddfeydd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Amgueddfeydd
HEO - £32,460 - £39,690
31210
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

  • Rhoi cyngor a chymorth i amgueddfeydd lleol ledled Cymru.
  • Datblygu a chyflwyno polisi a strategaeth ar gyfer amgueddfeydd.
  • Cefnogi Gweinidogion Cymru i wireddu amcanion polisi a strategol ar gyfer y sector amgueddfeydd yng Nghymru.
  • Datblygu cysylltiadau gweithio cryf gyda chydweithwyr a sefydliadau mewnol ac allanol

Prif dasgau

  • Datblygu strategaethau a sefydlu blaenoriaethau ar gyfer datblygiad amgueddfeydd yng Nghymru, darparu cymorth a chyngor i amgueddfeydd.
  • Datblygu a gweithredu gwasanaeth cynghori a chymorth ar gyfer amgueddfeydd, gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf, cynnal ymweliadau safle, trefnu a mynychu cyfarfodydd
  • Cynghori a chynorthwyo amgueddfeydd i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mynd i'r afael â thlodi drwy ddiwylliant, cynllun gweithredu cydraddoldeb hil, ayyb.
  • Mewn ymgynghoriad â chydweithwyr yn yr Adran Ddiwylliant, darparu cyngor curadurol, ar amgueddfeydd, ac ar reoli i gefnogi amgueddfeydd, gan gynnwys cyflawni safonau'r sector.
  • I gefnogi hyrwyddo amgueddfeydd a rhoi cyngor i helpu amgueddfeydd i wella mynediad, lles a dysgu i ddefnyddwyr.
  • Helpu a chynghori amgueddfeydd ar ddatblygu a chynllunio prosiectau, a ffynonellau ariannu.
  • Rheoli, monitro a gwerthuso cynlluniau grant, prosiectau a chyllidebau priodol ar gyfer datblygu a chefnogi’r sector, gan gynnwys ymrwymiadau Rhaglen Strategol ar gyfer y Llywodraeth.
  • Cyfrannu at gynllunio strategol a rheoli tîm Datblygu'r Amgueddfeydd.
  • Cysylltu â chydweithwyr o fewn yr Adran Ddiwylliant a chynghori ynghylch materion sy'n gysylltiedig ag amgueddfeydd.
  • Cysylltu gyda partneriaid mewnol ac allanol gan gynnwys Cadw, Croeso Cymru, timau polisi perthnasol yn Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, y Gymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol, cydweithwyr UK Museum Development, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
  • Rhoi cyngor ynghylch amgueddfeydd i Weinidogion Cymru drwy gyfraniadau ac ymatebion i sesiynau briffio a gohebiaeth, a mynychu cyfarfodydd fel y bo'n briodol.
  • Rheoli llinell fel y bo'n briodol, gan gynnwys contractwyr ac ymgynghorwyr llawrydd

Cyfleoedd datblygu

Cymru yw'r unig genedl gartref lle mae gan amgueddfeydd lleol lais o fewn y llywodraeth a lle y mae polisïau amgueddfeydd cenedlaethol a lleol yn cael eu ddatblygu ar y cyd.  Mae amgueddfeydd lleol a chenedlaethol Cymru yn rhannu perthynas waith gadarnhaol ac adeiladol.

Ers ei greu, mae tîm yr amgueddfa o fewn Adran Ddiwylliant (MALD/CyMAL gynt) wedi ennill enw da am fod yn hawdd trafod â hwy ac yn hygyrch i'r sector. Bydd y swydd hon yn helpu i gynnal y diwylliant hwn o gefnogi a helpu'r sector. Mae'r tîm cymharol fach hefyd yn golygu bod cryn gyfle i fynd ar drywydd a datblygu materion o fewn cyd-destun ymrwymiadau a blaenoriaethau Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Llywodraeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fel rhan o weithgareddau datblygiad proffesiynol personol. 

Y tîm amgueddfeydd o fewn yr Adran Ddiwylliant yw'r unig sefydliad datblygu amgueddfeydd yn y DU sy'n adran o fewn llywodraeth genedlaethol. Nid yw'n sefydliad 'hyd braich'. Mae hyn yn golygu y gallwn:

  • Weithio gydag is-adrannau polisi eraill y llywodraeth i ddylanwadu ar eu meysydd polisi. Er enghraifft - amgueddfeydd a'r amgylchedd hanesyddol
  • Sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu briffio mewn modd amserol a chywir ynghylch problemau lleol a chenedlaethol amgueddfeydd.
  • Gweithio gyda Gweinidogion i helpu i wireddu syniadau mewn ffyrdd sydd o fudd i amgueddfeydd a'u defnyddwyr.

Mae'r swydd hon felly'n cyflwyno cyfle unigryw i ddysgu sut mae polisi'r llywodraeth yn cael ei ddatblygu a'i gymhwyso ar gyfer amgueddfeydd lleol a chenedlaethol.

Nid oes angen siaradwr Cymraeg yn y swydd (er y byddai hyn yn fantais) ond mae'n gyfle i ddysgu sut i weithio mewn amgylchedd dwyieithog. Mae'r profiad hwn yn drosglwyddadwy ar draws Ewrop a thu hwnt - e.e. Canada

Dyddiad Cau

09/01/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Mawr -

  • Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.

 Arwain a Chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen

 Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

  • Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaethau er mwyn sicrhau rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol ynghyd â gwerth am arian

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  1. Cymhwyster ôl-raddedig mewn Astudiaethau Amgueddfaol
  2. Profiad proffesiynol diweddar yn y sector amgueddfeydd/treftadaeth/ sector diwylliannol cysylltiedig, tair blynedd o brofiad yn ddelfrydol
  3. Dealltwriaeth o'r ffyrdd y gellir datblygu a gwella gwasanaethau i ddefnyddwyr amgueddfeydd

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan pobl sy'n dymuno gweithio'n rhan-amser neu ar sail rhannu swydd neu pobl sy'n gweithio llawn amser.
Victoria Rogers - 03000251237 - Culture@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.