Swydd Wag -- Cafcass Cymru - Cymorth Digidol a TGCh

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafcass Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£21,300
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd, Y De-ddwyrain
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cafcass Cymru yn is-adran o’r grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae'n gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy'n rhan o achosion llys teulu.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Rheolwr Cymorth Digidol a TGCh i oruchwylio cynnwys digidol Cafcass Cymru, yn darparu cyngor i staff Cafcass Cymru ar ddefnyddio platfformau digidol a darparu cymorth ar gyfer y system iShare

Gan adrodd i'r Rheolwr Cymorth Digidol a TGCh, bydd deiliad y swydd yn goruchwylio ac yn diweddaru'r holl gynnwys ar dudalennau mewnrwyd Cafcass Cymru, gan greu tudalennau newydd pan fo angen a rhoi cyngor i'r Rheolwr Cymorth Digidol a TGCh ar welliannau ac ateb unrhyw ymholiadau gan gydweithwyr Cafcass Cymru.

Mae'r swydd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i weithio gyda staff Cafcass Cymru ac arbenigwyr digidol o fewn Llywodraeth Cymru. 

Prif dasgau

  • Darparu cymorth a chyngor cynhwysfawr i gydweithwyr ar ddefnyddio sianeli Microsoft Teams.
  • Goruchwylio a diweddaru’r holl gynnwys ar dudalennau mewnrwyd Cafcass Cymru, gan greu tudalennau newydd pan fo angen a rhoi cyngor i’r Rheolwr Cymorth Digidol a TGCh ar welliannau ac ateb unrhyw ymholiadau gan gydweithwyr Cafcass Cymru.
  • Darparu cymorth prosiect ar ailddylunio gwefan Cafcass Cymru, gan gysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei ddiweddaru.
  • Diweddaru cyfeiriaduron, blychau post a gwybodaeth arall a ddefnyddir gan staff.
  • Cymryd cyfrifoldeb am greu ffeiliau newydd ar iShare a darparu cymorth i’r Rheolwr Cymorth Digidol a TGCh i reoli Cynllun Ffeiliau Busnes Cafcass Cymru ac Objective Connect.
  • Trefnu a chyfrannu at y sesiynau Gweithio’n Glyfar wythnosol ar gyfer yr holl staff.
  • Darparu cymorth yn ôl yr angen i Cafcass Cymru mewn perthynas â’r system rheoli achosion (IRIS).
  • Creu fideos hyfforddi i gynorthwyo staff Cafcass Cymru i'w galluogi i wneud y defnydd gorau posibl o’r system rheoli achosion (IRIS).
  • Cydymffurfio â pholisïau diogelwch gwybodaeth, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei thrin yn effeithlon ac yn briodol.
  • Cyfrannu at agenda ehangach Cafcass Cymru trwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd, cynadleddau, a grwpiau gorchwyl a gorffen prosiectau.
  • Mae’n bosibl y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni dyletswyddau eraill o fewn y tîm i gydymffurfio â rhwymedigaethau corfforaethol, e.e. swyddog cymorth cyntaf, warden tân ac ati.
  • Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn rhoi'r cyfle i weithio mewn rôl proffil uchel o fewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae'r swydd yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau ar draws Cafcass Cymru, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol.

Dyddiad Cau

02/09/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Newid a Gwella

Adolygu arferion gweithio a meddwl am syniadau i wella’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

Dod i adnabod aelodau eraill y tîm/cydweithwyr a deall eu safbwyntiau a’u dewisiadau.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

Annog cwsmeriaid i gael gafael ar wybodaeth neu gefnogaeth a fydd yn eu helpu i ddeall a defnyddio gwasanaethau’n fwy effeithiol.

Cyflawni’n Brydlon

Cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eu gwaith a rhoi gwybod i’w rheolwyr sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.

Meini prawf penodol i'r swydd

Sgiliau TG da ac yn gallu dysgu am systemau penodol yn ôl yr angen.
Lefel uchel o gywirdeb a sylw rhagorol i fanylion.
Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm ac ar eich liwt eich hun, gyda rhywfaint o brofiad o weithio gydag uwch-randdeiliaid.

Proses Asesu

Caiff ceisiadau eu sifftio, wedyn bydd ymgeiswyr llwyddianus yn derbyn gwahoddiad i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gorfod aros yn y swydd am o leiaf 2 flynedd cyn bod yn gymwys i symud swyddi (amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill sy'n gymwys ar y pryd).

Lleoliad y swydd - Y swyddfa ar gyfer y rôl hon fydd Caerdydd neu Ferthyr Tudful. Fodd bynnag, efallai y bydd angen teithio i swyddfeydd eraill ledled Cymru yn achlysurol hefyd.

Ar hyn o bryd mae staff Cafcass Cymru yn gweithio o bell, ond yn y tymor hir byddwn yn mabwysiadu dull cyfunol a hyblyg sy'n ymgorffori gweithio swyddfa a gweithio o bell, gan ystyried angen busnes.  Felly, dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl y bydd yn ofynnol iddynt fynychu'r swyddfa benodol yn rheolaidd

Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiol o brofiadau byw a phroffesiynol. Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad cynyddol amrywiol sy'n diwallu anghenion yr ystod amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth. Ategir hyn gan ddull deinamig o ddysgu a datblygu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys Y Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig, Rhwydwaith PRISM LHDTRh+, a'r Rhwydwaith Menywod Ynghyd.

CafcassCymruHR@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.