Swydd Wag -- Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Asedau Gwasanaeth a Rheoli Ffurfweddiadau (SACM)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
DDaT - Gwasanaethau TGCh
HEO - £32,460 - £39,690
£30,600 - Gellir cynnig cyflog cychwynnol o hyd at £34,490 ar gyfer ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'w thechnoleg TGCh dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac fe'i hystyrir yn un o sefydliadau arweiniol sector cyhoeddus y DU o ran ei gallu Digidol a TGCh. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau nifer o brosiectau TGCh megis newid i Exchange 365, symud oddi wrth ddefnyddio e-bost  Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI), cyflwyno gliniaduron newydd i holl staff y Llywodraeth (gan eu galluogi i weithio'n hyblyg) a chwblhau'r dasg enfawr o symud cymwysiadau i Microsoft Azure.  Mae hyn wedi'i gofnodi mewn astudiaeth achos Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU ar enghreifftiau o arfer da o symud pethau i'r Cwmwl (gweler https://www.gov.uk/government/case-studies/how-the-welsh-government-migrated-their-technology-to-the-cloud)

Mae Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Asedau Gwasanaeth a Ffurfweddiadau (SACM) (Meddalwedd) yn gyfrifol am wneud y defnydd gorau o asedau meddalwedd llywodraeth Cymru a rheoli'r Catalog Meddalwedd o fewn y Portffolio Gwasanaeth ehangach. 

Mae Rheolwr Gwasanaeth SACM (Meddalwedd) yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi rheoli ac archwilio gwerthwyr gan gynnwys dadansoddi, briffio rhanddeiliaid gweithredol a datblygu cynllun gweithredu i sicrhau cydymffurfiad â'r drwydded.

Mae Rheolwr Gwasanaeth SACM (Meddalwedd) yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi rheoli ac archwilio gwerthwyr gan gynnwys dadansoddi, briffio rhanddeiliaid gweithredol a datblygu cynllun gweithredu i sicrhau cydymffurfiad â'r drwydded.


Prif dasgau

Fel Rheolwr Gwasanaeth SACM (Meddalwedd), bydd eich rolau a'ch cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Deall contractau trwyddedu, hawliau, hawliau defnyddio cynnyrch, grantiau a therfynau a sicrhau eu bod yn cael eu hadlewyrchu a'u cynnal yn gywir yn ateb SACM Llywodraeth Cymru.
  • Dadansoddi'r defnydd o feddalwedd, gan ddefnyddio'r data sydd ar gael o offer Rheoli Asedau Meddalwedd i lywio penderfyniadau ynghylch ailgynaeafu trwyddedau lle bo angen.   
  • Chwilio am gyfleoedd awtomeiddio a'u gyrru o fewn y broses Rheoli Meddalwedd.   
  • Cyfleu statws trwyddedau a risgiau'n glir i randdeiliaid ar draws pob lefel o'r sefydliad.
  • Sicrhau llywodraethu a chydymffurfiad trwyddedu o fewn y Broses Rheoli Cylch Oes Meddalwedd.
  • Trwyddedu llywodraethu fel rhan o broses ehangach.
  • Helpu i ddatrys materion diffyg cydymffurfio, rheoli'r gwaith o gysoni trwyddedau gan sicrhau ar yr un pryd fod y defnydd presennol a'r defnydd a gynlluniwyd yn y dyfodol yn cydymffurfio â'r hawliau defnyddio.
  • Cefnogi archwiliadau gwerthwyr trydydd parti yn ôl y gofyn, herio hawliadau gwerthwyr lle y bo'n briodol a chynorthwyo gyda datrysiad archwilio.
  • Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am fodelau newydd ac wedi'u diweddaru ar gyfer trwyddedau meddalwedd ac opsiynau ar gyfer cynhyrchion allweddol, gan wneud argymhellion i randdeiliaid ynghylch newidiadau i fodelau a thelerau trwyddedu meddalwedd.
  • Mynd ati i asesu risg, cyfleoedd i leihau costau, a gwneud argymhellion i wneud y gorau o bortffolio asedau'r feddalwedd.
  • Gweithredu fel y pwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad ynghylch asedau meddalwedd e.e. hawliau, defnydd, adnewyddiadau etc.
  • Darparu cyngor a chyfarwyddyd ar effeithiau  prosiectau penodol neu newidiadau pensaernïol o ran trwyddedu.
  • Sicrhau a chynnal cywirdeb a dilysrwydd data trwyddedu meddalwedd o fewn y CMDB.
  • Sicrhau gwybodaeth ymarferol dda am brosesau ITSM ac ITIL.
  • Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y technolegau diweddaraf a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru e.e. Gwasanaethau Azure / Cwmwl.
  • Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am safonau cydymffurfio'r diwydiant.

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu o fewn Llywodraeth Cymru ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gymuned ac i ddatblygu rôl y gymuned honno o fewn Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau

22/06/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gan ystyried y Disgrifiad o'r Radd uchod, dylech gyflwyno eich Datganiad Personol yng nghyd-destun y 5 Cymhwysedd canlynol:


Rheoli Asedau a Ffurfweddiadau

  • Gallwch gynnal ffurfweddiad diogel a gwybodaeth gywir, rheoli asedau TG mewn un neu ragor o feysydd sylweddol, a gwirio lleoliad a chyflwr asedau.

Gwella Gwasanaethau yn barhaus

  • Gallwch nodi cyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar brosesau gyda chanllawiau a chyfrannu at roi atebion arfaethedig ar waith.

Arweinyddiaeth

  • Rydych yn ystyried effeithiau gweithgareddau eich tîm eich hun a'ch tîm ar randdeiliaid a defnyddwyr terfynol.

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

  • Rydych yn nodi risgiau ac yn datrys materion yn effeithlon

Newid a Gwella

  • Rydych yn egluro'n glir y rhesymau dros newid i gydweithwyr a sut i'w rhoi ar waith, gan gefnogi unigolion sydd ag anghenion gwahanol i addasu i newid.

Proses Asesu

Drwy gydol y broses asesu gyfan, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn y Cymwyseddau o Broffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil a'r fframwaith Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT).

Arweinyddiaeth, Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd, Newid a Gwella, Cyfathrebu a Dylanwadu, Datblygu chi'ch  Hunan ac Eraill, Rheoli Asedau a Ffurfweddiadau a Gwella Gwasanaethau'n Barhaus.

Y Cam Sifftio:

Caiff eich Datganiad Personol ei asesu mewn dau gam:

  • Cynhelir y cam sifftio cychwynnol yn erbyn y ddau Sgil Digidol, Data a Thechnoleg sydd yn yr adran 'Meysydd i'w Dangos'.  Mae hyn yn cynnwys Rheoli Asedau a Ffurfweddiadau a Gwella Gwasanaethau'n Barhaus.
  • Caiff Datganiadau Personol yr ymgeiswyr hynny sydd wedi pasio'r cam sifftio cychwynnol eu hasesu ymhellach yn erbyn y tri Chymhwysedd Proffil Llwyddiant sydd yn yr adran 'Meysydd i'w Dangos'.  Maent yn cynnwys Arweinyddiaeth, Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd a Newid a Gwella. 

Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na 1500 o eiriau - bydd unrhyw gynnwys sy'n uwch na'r  terfyn o 1500 o eiriau yn cael ei ddiystyru.

Defnyddir eich CV i helpu i roi gwybod i'r panel am hanes eich gyrfa, fodd bynnag ni fydd yn cyfrannu at sgôr gyffredinol y sifft. Ni ddylai CVs fod yn fwy na dwy ochr A4

Disgwylir i ganlyniadau'r cam sifftio gael eu cyhoeddi erbyn canol mis Mehefin 2021 Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, ni fydd modd i chi ofyn am eich sgoriau yn y cam sifftio hyd nes y bydd proses asesu lawn wedi'i chwblhau.

Y Cam Asesu:

Caiff pob ymgeisydd sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio wahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad asesu.  Bydd tair rhan iddo:

Rhan 1 – Paratoi ar gyfer yr Ymarfer sy'n seiliedig ar senarios (i'w gwblhau gan yr ymgeisydd yn annibynnol)

Rhan 2 – Cyflwyniad ar Ymarfer sy'n seiliedig ar senarios (sesiwn fideo o bell gyda Phanel Technegol)

Rhan 3 – Y Cyfweliad (sesiwn fideo o bell gyda Phanel Cyf-weld)

Mae'r cymwyseddau a fydd yn cael eu profi yn y Cam Asesu i'w gweld isod  

Pan fydd cymhwysedd yn cael ei brofi fwy nag unwaith, defnyddir y sgôr gyfartalog fel y sgôr derfynol ar gyfer y cymhwysedd hwnnw a bydd yn cyfrannu at y sgôr gyffredinol.   


Rhan 1: Ymarfer sy'n seiliedig ar Senarios

Awr cyn dechrau'r sesiwn fideo gyntaf, anfonir e-bost at yr ymgeiswyr a fydd yn cynnwys ymarfer sy'n seiliedig ar senarios sy'n berthnasol i'r rôl y ceisir amdani.  Rhoddir canllawiau pellach a manylion pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau yn yr e-bost a anfonwyd at yr ymgeiswyr.


Rhan 2: Trafodaeth ar Ymarfer sy'n seiliedig ar Senarios

Hyd – 15 i 20 munud

Ffurf - sesiwn fideo o bell gyda Phanel Technegol yn cynnwys:

  • Adborth i ymgeiswyr ar yr ymarfer technegol (5 i 10 munud)
  • Cwestiynau dilynol (5 i 10 munud)

Bydd yr ymarfer technegol yn galluogi ymgeiswyr i ddangos eu gwybodaeth am y prosesau rheoli meddalwedd a'u gallu i fynegi'r methodoleg dechnegol mewn ffordd sy'n hawdd ei deall.    

Cymwyseddau sy'n cael eu hasesu –  Rheoli Asedau a Ffurfweddiadau, Gwella Gwasanaethau'n Barhaus a Chyfathrebu a Dylanwadu. 


Rhan 3: Y Cyfweliad

Hyd - 1 awr

Ffurf - sesiwn fideo o bell gyda Phanel Cyf-weld

Bydd y cyfweliad yn gyfuniad o gwestiynau am gymwyseddau a chryfderau. Caiff y cwestiynau am gymwyseddau eu defnyddio i edrych yn fanwl ar beth yr ydych yn gallu ei wneud, a bydd y cwestiynau am gryfderau hefyd yn edrych ar beth rydych chi'n ei fwynhau a'ch cymhellion sy'n berthnasol i ofynion y radd.

Cymwyseddau sy'n cael eu hasesu, - Arweinyddiaeth Datblygu'ch Hunan ac Eraill, Cyfathrebu a Dylanwadu, Rheoli Asedau a Ffurfweddiadau a Gwella Gwasanaethau'n Barhaus.

Nid oes disgwyliad na rheidrwydd arnoch chi i baratoi ar gyfer y cwestiynau am gryfderau ymlaen llaw, ond efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi dreulio ychydig o amser yn meddwl beth yr ydych yn ei fwynhau ei wneud a beth yr ydych yn ei wneud yn dda.

Cryfderau a gaiff eu profi yn ystod y cyfweliad; Asiant dros Newid, yn Gynhwysol ac yn Esboniwr.


Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Yn dilyn y digwyddiadau asesu, disgwylir i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi erbyn dechrau neu ganol mis Gorffennaf 2021.

Rhestr Wrth Gefn:

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi derbyn yr isafswm sgôr ar draws yr holl gymwyseddau  gofynnol yn cael y cyfle i fod ar restr 'wrth gefn' Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Os bydd swyddi ychwanegol yn cael eu creu neu os bydd swyddi presennol yn dod yn wag yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y rôl i'r ymgeisydd hwnnw ar y rhestr wrth gefn sydd â'r sgôr uchaf.  Os bydd yn gwrthod y swydd, gall Llywodraeth Cymru gynnig y swydd i'r ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac yn y blaen. 

Manteision:

  • Cyflog cychwynnol o £30,600. Gellir cynnig cyflog cychwynnol o hyd at £34,490 ar gyfer ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad
  • 31 o ddiwrnodau o wyliau (yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint)
  • Swydd barhaol
  • Cyllideb datblygiad personol
  • Gweithio gartref
  • Yr offer TGCh diweddaraf
  • Yswiriant marw yn y swydd 
  • Oriau gweithio hyblyg
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith - beic newydd sbon gwerth hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Cynllun Talebau Gofal Plant, yn arbed hyd at £933 y flwyddyn
  • Cynllun pensiwn cyfrannol 

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb:

Gan nad oes cynrychiolaeth ddigonol yn y sefydliad, caiff ymgeiswyr sy'n datgan eu bod yn anabl neu o gefndir du neu leiafrifoedd ethnig (BAME) symud ymlaen yn awtomatig i'r Porth Asesu os yw eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol. Dim ond os bydd ymgeiswyr yn nodi'r wybodaeth hon yn eu ffurflen gais y bydd yn bosibl i ni wneud hyn. Bydd gwybodaeth am ymgeiswyr BAME yn cael ei chymryd o'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen hon fel rhan o'ch cais.


officeofthechiefdigitalofficer@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.