Swydd Wag -- Swyddog Gorfodi Morol (CMPC) - (x4)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
- Mae Cangen Rheoli a Gorfodi Is-adran y Môr a Physgodfeydd yn gyfrifol am bob agwedd ar bysgod, pysgota a gorfodi rheolau pysgodfeydd. Strategaeth Pysgodfeydd Cymru yw sail polisi pysgodfeydd Cymru. Un o brif feysydd y polisi Pysgodfeydd yw Pysgota Môr. Mae’r maes hwn yn dod â staff i gysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant pysgota, y mesurau Rheoli a Thechnegol sy’n rheoli'r diwydiant a chyda rhannau eraill o’r DU ac Ewrop.
- Prif bwrpas y swydd hon yw cynnal swyddogaethau Canolfan Monitro Pysgodfeydd Cymru (CMPC).
- Ei phrif rôl yw sicrhau bod ein moroedd yn cael eu gwarchod trwy fesurau goruchwylio a rheoli effeithiol. Mae'r CMP yn gysyniad newydd yng Nghymru a bydd yn gyfrifol am fonitro gweithgarwch cychod y DU a Thramor yn ein dyfroedd a chychod o Gymru lle bynnag y gallent fod, archwilio Data Statudol o bob sector, o'r DU a thu hwnt, hwyluso masnach trwy brosesu tystysgrifau dalfeydd a rhwystro problemau Anghyfreithlon, Heb eu Hadrodd a Heb eu Cofrestru, gofynion trwyddedu cychod y DU a thramor a bod yn rhan o grŵp ehangach ar gyfer casglu gwybodaeth yn y DU. Bydd gofyn bod y CMP yn gallu gweithio 24 awr, pryd a ble bynnag y bydd angen, er enghraifft i gefnogi Cychod Patrolio Pysgodfeydd pan fyddant allan ar orchwyl. Bydd angen felly i'r ganolfan fod ar agor dros y penwythnosau a gwyliau banc, felly byddai angen i Swyddog Gorfodi Morol weithio sifftiau a gweithio o dan gontract oriau blynyddol.
- Efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd helpu Tîm Rheoli a Gorfodi'r Môr a Physgodfeydd â'i rôl ehangach o gynnal dyletswyddau gorfodi o gwmpas arfordir Cymru.
Prif dasgau
Fel aelod o dîm:
- Rheoli'r CMP 24 awr y dydd.
- Monitro'r holl weithgarwch pysgota masnachol ym Mharth Cymru trwy system monitro cychod ac astudio'r data statudol a gyflwynwyd.
- Dilysu tystysgrifau dalfeydd ar gyfer allforio cynnyrch pysgodfeydd i'r UE.
- Trin gwybodaeth sensitif y bu gofyn ei chlirio.
- Cynnal ymchwiliadau i achosion o dorri deddfwriaeth pysgodfeydd.
- Paratoi a thrin ffeiliau achos a thystiolaeth a gweinyddu'r holl ffeiliau ymchwiliadau ar ran y Gangen.
- Gweinyddu cosbau gweinyddol ariannol.
- Rhannu gwybodaeth â chyrff datganoledig.
- Dadansoddi data statudol.
- Trin gwybodaeth a blaenoriaethu gweithgarwch pysgota anghyfreithiol, heb ei reoleiddio a heb ei adrodd.
- Monitro faint o'u cwota a ddefnyddir gan gychod o'r tu allan i'r DU sy'n pysgota ym Mharth Cymru.
- Tasgau a chefnogaeth amser real i'n Cychod Patrolio Pysgodfeydd sydd allan ar y môr.
- Gweinyddu a rheoli Trwyddedau Cydsynio Morol.
Cyfleoedd datblygu
Er y byddwch yn gweithio mewn swyddfa, efallai y bydd gofyn ichi helpu i archwilio cychod pysgota ac archwilio pysgod sy'n cael eu dal neu eu glanio a rhaid felly wrth rywfaint o ffitrwydd corfforol.
Bydd gofyn i unigolion hyfforddi i ddod yn Swyddog Gorfodi Morol llawn. Bydd angen rhyw flwyddyn o hyfforddiant a goruchwyliaeth a bydd yn cynnwys cyrsiau dwys mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Pwyso a mesur gwybodaeth gymhleth a chael rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.
- Arwain a Chyfathrebu - Bod yn hyderus wrth gynnal trafodaethau neu gyfweliadau anodd.
- Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Annog gwaith tîm, gan newid dulliau gweithio er mwyn hwyluso cydweithredu er lles gwaith y tîm.
- Cyflawni'n Brydlon - Ymddiddori yn yr hyn y maen nhw a’r tîm yn ceisio ei gyflawni, a bod yn gadarnhaol amdano.
Meini Prawf Penodol i'r Swydd
- Sgiliau dadansoddi i brosesu gwybodaeth o nifer o ffynonellau.
- Y gallu i gyfathrebu'n dda â chynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithiwr brwd sy'n gallu ysgogi ei hun a gweithio'n dda ar ei ben ei hun ac fel aelod o dîm gwasgaredig.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Gofynion dymunol
- Gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant pysgota neu wyddoniaeth forol.
- Yn deall Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol neu'n gweithio mewn rôl orfodi.
- Trwydded Yrru lawn y DU.
Dyddiau Agored / Sesiynau Galw Heibio
Dewch draw i'n sesiynau galw heibio i:
- Ddysgu mwy am y gwaith rydyn ni'n ei wneud;
- Clywed gan Swyddogion Gorfodi Morol, staff Canolfan Monitro Pysgodfeydd Cymru a chriwiau cychod;
- Cael gwybodaeth am y swyddi rydym yn eu hysbysebu;
- Cael help gan reolwyr Adnoddau Dynol ar sut i lenwi'r cais ar-lein.
Cynhelir y sesiynau yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru:
- Dydd Llun, 9 Rhagfyr - Penlle'r-gaer, Abertawe
- Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr - Rhodfa Padarn, Aberystwyth
- Dydd Gwener, 13 Rhagfyr - Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno
Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio trwy'r dydd ar yr amserau canlynol: 9am-11am, 12pm-1pm, 2pm-4pm, 5pm-6:30pm.
Does dim angen trefnu ymlaen llaw - dewch heibio pryd fynnoch.
Os nad yw'r dyddiadau/amserau uchod yn gyfleus, mae croeso ichi gysylltu â'r enw cyswllt ar yr hysbyseb.
Patrwm Gweithio
Bydd y swydd hon yn dod o dan gontract oriau blynyddol Llywodraeth Cymru a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff weithio nifer penodol o oriau’r flwyddyn ond bydd angen gweithio mwy o oriau ar adegau penodol a llai ar adegau eraill. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio oriau anghymdeithasol (gyda'r nos, dros nos ac ar benwythnosau i gyd-fynd â gweithgareddau pysgota) gan fod yn rhan o rota fydd yn cynnig gwasanaeth 24 awr i gefnogi elfennau eraill y Tîm Rheoli a Gorfodi.
Rhestr fer/sifftio
Bydd angen i chi sicrhau eich hun eich bod yn gallu darparu tystiolaeth ddigonol o'r sgiliau craidd, yr ymddygiadau a'r meini prawf penodol i'r swydd.
Bydd tystiolaeth a ddarperir gan ymgeiswyr yn y cais a’r CV yn cael eu hasesu gan ddefnyddio matrics sgorio yn erbyn y meini prawf penodol i’r swydd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddianus yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Dylid cynnwys tystiolaeth yn erbyn y meysydd cymhwysedd yn eich cais, ond dim ond yn y cyfweliad y caiff y rhain eu hasesu.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.