Swydd Wag -- AGC Arolygydd Oedolion - Cymraeg
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol er mwyn darparu gwasanaethau rheoleiddiedig diogel ac o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru.
Prif dasg Arolygydd yw sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yn darparu gofal diogel o ansawdd da, ac yn annog ac yn ysgogi gwelliant. Caiff Arolygwyr y cyfle i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddiogelu llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig a chasglu gwybodaeth am ganlyniadau i bobl. Gall AGC ddefnyddio hyn yn ei gwerthusiad o gynghorau lleol ac i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau.
Bydd Arolygwyr yn atebol i Reolwr Tîm. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni'n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar Wasanaethau Gofal Rheoleiddiedig.
Prif dasgau
Cynnal arolygiadau yn unol â rhaglen gytûn, arsylwi ac adrodd ar lesiant pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, nodi a monitro meysydd o ddiffyg cydymffurfio, a chodi ac ymateb i bryderon sy'n ymwneud â diogelu.
Bod yn gyfrifol am gymryd a datblygu camau gweithredu mewn perthynas â gwasanaethau sy'n achosi pryder, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys comisiynwyr, cyrff rheoleiddio eraill ac arweinwyr diogelu.
Paratoi a chwblhau gweithgarwch gorfodi gan gynnwys drafftio hysbysiadau statudol.
Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
Cydweithio â rheolwyr i gyfrannu at y gwaith o osod a chyflawni amcanion perfformiad sefydliadol, gan gynnwys mesurau meintiol ac ansoddol.
Sicrhau bod y tîm yn cyfathrebu'n effeithiol er mwyn sicrhau y rhennir arfer da a rhoi gwybod am feysydd sy'n achosi pryder.
Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gwella ymarfer er mwyn cynnal safonau rheoliadol cadarn a chyson, lle eir i'r afael â materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb a'u hintegreiddio'n llawn.
Bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a datblygu arfer gorau.
Sicrhau yr ymgysylltir â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr, yn effeithiol ac yn barhaus.
Paratoi gohebiaeth mewn perthynas â materion penodol a gaiff eu codi am wasanaethau.
Rheoli cofnodion yn gywir gan gynnwys defnyddio cronfa ddata CRM (CaSSI).
Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses gymorth rheoli / datblygu a pherfformiad Llywodraeth Cymru/AGC ac ar ôl trafod â rheolwr y tîm.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Pennu Cyfeiriad – Gweld y Darlun Cyflawn
Ceisio deall y modd y mae gwasanaethau, gweithgareddau a strategaethau yn yr ardal yn gweithio gyda'i gilydd i roi gwerth i'r cwsmer/defnyddiwr.
Pennu Cyfeiriad – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
Ymgysylltu â Phobl – Arwain a Chyfathrebu
Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
Cyflawni Canlyniadau – Cyflawni'n Gyflym
Blaengynllunio ond ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd pobl yn gorfod bodloni gofynion sy'n gwrthdaro.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
1. Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) y mae ganddynt brofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
- cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
- cymhwyster addysgu neu addysg,
- gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
- Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
2. Tystiolaeth o arwain a llywio'r gwaith o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion amrywiol defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid/defnyddwyr.
3. Y gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid yn gadarn, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Proses Asesu
Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.
Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.
Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ar gyfer dau gwestiwn, o leiaf, o'r meini prawf cymhwysedd neu feini prawf penodol i'r swydd yn yr iaith amgen. Er enghraifft, os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, dylai dwy o'r enghreifftiau, o leiaf, gael eu hysgrifennu yn Gymraeg. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, dylai dwy o'r enghreifftiau, o leiaf, gael eu hysgrifennu yn Saesneg.
Cyn gwneud cais ar gyfer ein rolau, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth fanylach am sut i wneud hynny ac am ein ffeiriau recriwtio rhithwir
Ar gyfer Ymholiadau ynghŷn â Thelerau ac Amodau, anfonwch neges e-bost i CIWHR@gov.wales
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Swyddi sydd ar gael:
Un swydd wag sydd ar gael
• 1 x Arolygydd Oedolion wedi'i leoli yng Nghyffordd Llandudno.
Mae swyddi ar gael i ymgeiswyr sy'n dymuno gweithio'n rhan amser, ond bydd angen gweithio patrwm o isafswn o 28 awr dros 4 diwrnod, ar ddiwrnodau i'w cytyno.
Cedwir rhestr wrth gefn o ymgeiswyr y gellir eu penodi i rôl Arolygydd o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol os bydd swydd addas, sy'n cyd-fynd â'u lleoliad, yn codi.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer ein holl rolau arolygu, rydym yn awyddus i gynyddu nifer yr arolygwyr Cymraeg sydd gennym ac felly croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Cyflog a Lwfansau:
Bydd Lwfans Recriwtio a Chadw o hyd at £4,535 y flwyddyn yn daladwy. Atodir y lwfans i swydd yr Arolygydd ac mae'n ychwanegol i'r cyflog parhaol.
Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£34,490) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.
Mae rhywfaint o waith yn ofynnol y tu allan i oriau swyddfa arferol er mwyn cwblhau arolygiadau.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.