Swydd Wag -- Rheolwr Cyfathrebu Digidol (Cymraeg yn hanfodol)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Cyfrathebu
HEO - £32,460 - £39,690
£31,210
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Dwy flynedd (Gyda’r potensial am gontract parhaol, yn amodol ar y cyllid a’r gymeradwyaeth ar y pryd)
Lleoliad arall
Cymru gyfan (Bydd gofyn i chi fod ar gael i deithio i ffilmio, gan gynnwys gyda Gweinidogion yng Nghaerdydd)
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cefndir:

Llywodraeth Cymru yw ein gweinyddiaeth ddatganoledig a chyfrifoldeb dros agweddau allweddol o fywyd cyhoeddus Cymru, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaeth a’r amgylchedd. Cefnogir Gweinidogion Cymru gan weithlu o 5,000+ o weision sifil â swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel a thramor yn bellach.

Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio ei sianeli digidol i gyfathrebu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws amrywiaeth eang o bynciau a meysydd polisi.
 
O fewn y proffesiwn cyfathrebu, ac mae nifer o swyddi ar gael mewn adrannau ar draws Llywodraeth Cymru.

Y Rôl:

Fel rheolwr cyfathrebu digidol, byddwch yn gyfrifol am greu cynnwys gafaelgar a deniadol sy’n rhoi gwybodaeth, yn annog trafodaeth ac yn cyrraedd cynulleidfa eang. Disgwylir i chi gydweithio ag eraill i nodi lle gellir datblygu rhagor o gynnwys ac ymateb i ymholiadau.

Bydd disgwyl i chi ddarparu cyngor i gydweithwyr polisi, uwch reolwyr ac o bosibl Gweinidogion Cymru ar strategaeth ddigidol, a gweithio gyda thimau cyfathrebu eraill er mwyn cyflawni amcanion cyfathrebu.

Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich rôl gan eich rheolwr llinell (uwch reolwr cyfathrebu) ac efallai y bydd yn ofynnol  i chi ddarparu rheolaeth llinell ar gyfer aelodau eraill y tîm (swyddog gweithredol) a sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth, y canllawiau a'r sgiliau cywir sydd eu hangen i gyflawni eu dyletswyddau.

Prif dasgau

  • Datblygu cynnwys o ansawdd dda i’r safonau arddull, cywair a chyhoeddi priodol. 
  • Defnyddio llinell amser a chynnwys wedi’i amserlennu i greu ffrwd gyson o gynnwys newydd rhyngweithiol i’r gynulleidfa gan ddadansoddi, rheoli a newid yr amserlen i gael yr effaith orau. 
  • Cydweithio’n agos ag eraill i greu cynnwys sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn denu sylw at gyhoeddiadau, digwyddiadau a lansiadau polisïau Llywodraeth Cymru. 
  • Monitro ymgysylltiad defnyddwyr a’r tueddiadau – gan ddadansoddi er mwyn gwella cynnwys. 
  • Llunio byrddau stori, ffilmio, golygu ac optimeiddio cynnwys fideo yn barod i’w uwchlwytho. 
  • Curadu, tagio a storio cynnwys, dogfennu’r hawliau a’r defnydd. 
  • Golygu ffotograffau a chynnwys ysgrifenedig. 
  • Dilyn y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf a’r arferion gorau yn y cyfryngau cymdeithasol. 

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich swydd o fewn proffesiwn cyfathrebu Llywodraeth Cymru. Dyma broffesiwn sy’n tyfu, ac fe gewch gyfle i gyfrannu at ei lunio a’i ehangu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a galluoedd ein staff a’u hannog i ddefnyddio 5 diwrnod dysgu bob blwyddyn. 

I helpu gyda hyn, cynigiwn gyfleoedd megis:

Cynadleddau / Cysgodi / Mentora / Dysgu seiliedig ar waith / cymwysterau/ hyfforddi. 

Mynd ati i fagu cysylltiadau a gweithio gydag amrywiaeth eang o dimau yn Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol, gan gynnwys Llywodraethau eraill y DU.

Dyddiad Cau

05/12/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Mae’r sgiliau penodol isod yn HANFODOL i’r swydd hon. Cofiwch sicrhau bod eich CV a’ch llythyr esboniadol yn arddangos eich gallu mewn perthynas â’r sgiliau hyn.

  • Hanes o gyflenwi cynnwys arloesol sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa i fodloni amcanion cyfathrebu.
  • Dangos profiad o reoli cyfrifon cymdeithasol: Facebook, Twitter ac Instagram gan gynnwys platfformau hysbysebu.
  • Profiad gyda meddalwedd dylunio ee Adobe Creative (premiere pro, indesign) a/neu Canva.
  • Profiad o greu cynnwys ysgrifenedig a fideo o ansawdd dda.
  • Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, gyda lefel uchel o gywirdeb wrth ysgrifennu.
  • Gallu adrodd a dadansoddi.

Proses Asesu

I wneud cais am y swydd hon, gofynnir i chi atodi’r canlynol:

  • CV a llythyr esboniadol, yn rhoi tystiolaeth fod gennych y sgiliau hanfodol i’r swydd. Ni ddylai’r llythyr na’r CV fod yn hirach na dwy ochr o A4. Peidiwch â rhoi eich enw a’ch cyfeiriad ar y CV, er mwyn i ni allu sifftio yn ddi-enw.

Cofiwch sicrhau bod eich CV a’ch llythyr esboniadol yn adlewyrchu’r meini prawf hanfodol yn llawn ac yn dangos pa mor addas ydych i’r swydd. Dylech ddefnyddio’r llythyr esboniadol i roi tystiolaeth o bob
maen prawf hanfodol a restrir yn y fanyleb person. Byddwn yn sgorio’r meini prawf hyn, felly cofiwch roi enghreifftiau clir am bob un, gan gynnwys pa effaith gafodd eich gweithredoedd chi.

Os cewch wahoddiad i gyfweliad ar ôl y sifft, bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a’ch profiad sy’n berthnasol i ofynion hanfodol y swydd. Efallai hefyd y bydd prawf neu asesiad yn rhan o’r
cyfweliad.

Ar ôl y sifft, byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn am weddill y broses ddethol:

Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil:

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: Gwahodd her a, lle bo'n briodol, cynnwys eraill wrth wneud penderfyniadau.
  • Cyflawni’n brydlon: Gweithredu'n brydlon i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion sy'n gwrthdaro i gynnal perfformiad. 

Fframwaith Gwasanaeth Cyfathrebu’r Llywodraeth (GCS): 

  • Mewnwelediad: Adeiladu mewnwelediad i’r gynulleidfa gan ddefnyddio’r arfau priodol i fonitro cynnwys a gwrando ar sgyrsiau ar sianeli digidol allanol allweddol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
  • Syniadau: Dangos dealltwriaeth ymarferol o’r gwasanaethau digidol, offer a thueddiadau diweddaraf gan gynnwys technegau optimeiddio
  • Rhoi ar waith: Dangos dealltwriaeth dda o faterion hygyrchedd a defnyddiadwyedd. Creu cynnwys sy’n bodloni gofynion hygyrchedd.
  • Effaith: Cynghori ar, crynhoi a dadansoddi dangosyddion effeithiolrwydd cyfathrebu digidol.

Yn dilyn y cyfweliad, os byddwch yn llwyddiannus, gallem gadw eich manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn, rhag ofn y daw swyddi eraill yn rhydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig amryw o fanteision cyflogaeth, gan gynnwys:

  • Trafodaethau datblygu rheolaidd a’r hyfforddiant sydd arnoch ei angen i’r swydd ac i dyfu.
  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â diwrnod dros y Nadolig a phen-blwydd y Brenin.
  • Cyfnod hael o absenoldeb i rieni, gan gynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i’r gweithwyr sy’n gymwys. 
  • Cynllun pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr.
  • Y cynllun Seiclo i’r Gwaith: dewiswch feic newydd am hyd at £1,000 i arbed o leiaf 32%.
  • Rhagdaliadau cyflog: i’r Nadolig, i brynu offer cyfrifiadurol neu i dalu Blaendal Tenantiaeth.
  • Benthyciadau am Docynnau Tymor. 
  • Polisi oriau hyblyg. 

Aeddan Davies - socialmedia@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.