Swydd Wag -- Uwch-gynghorydd Eiddo

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Is-Adran Tir
SEO - £41,700 - £49,370
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £41,700 a £45,970 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, ei wybodaeth a'i brofiad, a'i berfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod y cyflog a gynigir.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Cyfnod Penodol/Secondiaid 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cafodd Tîm Ymateb Wcráin ei sefydlu yn gynharach eleni i arwain yr holl weithgareddau polisi a gweithredol i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd Cymru fel rhan o Gynllun Uwch-Noddwr Llywodraeth Cymru a Chynllun Fisa Llywodraeth y DU.

Gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, rydym wedi datblygu seilwaith a phecyn cymorth i ddarparu llety diogel ac addas ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd, a gwasanaethau cofleidiol gan gynnwys iechyd, addysg, iaith, a chymorth i ddod o hyd i waith. Un o'r prif flaenoriaethau yw cefnogi Wcreiniaid i symud i lety tymor hwy a mwy sefydlog.

Mae gwaith y Tîm Ymateb yn ddiddorol ac yn ddynamig, ac mae angen amrediad o sgiliau ac arbenigedd. Byddwch yn gweithio gydag adrannau mewnol a rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, a gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector yn ehangach, i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd yn cael eu croesawu ac yn ymgartrefu yn llwyddiannus pan fyddant yng Nghymru.

Mae hwn yn benodiad allweddol i Is-adran Tir Llywodraeth Cymru. Yn bennaf bydd deiliad y swydd y cefnogi Tîm Ymateb Wcráin drwy ddarparu cyngor proffesiynol ar eiddo i uwchreolwyr, partneriaid a rhanddeiliad. Bydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r Strategaeth ar gyfer Llety Dros Dro, sydd â'r nod o ddarparu rhagor o lety dros dro o ansawdd uchel fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng dyngarol yn Wcráin.

Gan weithredu fel cleient deallus, bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gydag ymgynghorwyr allanol. Bydd cyngor yn cynnwys eiddo sy'n cael ei brynu a'i werthu, rheoli eiddo o ddydd i ddydd a darparu cyngor a chanllawiau i Weinidogion, partneriaid a rhanddeiliaid ar sicrwydd eiddo a phrosiectau.

Bydd gan ddeiliaid y swydd y cyfle i weithio gyda chydweithwyr yn yr Is-adran Tir, yn rheoli ac yn paratoi safleoedd sydd â'r potensial i fod yn safleoedd preswyl i'w gwerthu, gyda'r nod o gynyddu canlyniadau gwerth i’r cyhoedd cymaint ag y bo modd.

Er mwyn cydweithio mewn perthynas ag asedau a rhesymoli sector cyhoeddus Cymru, a bydd cydweithio agos â rhanddeiliaid mewnol, cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach, gan gynnwys y GIG yng Nghymru a Phroffesiwn Eiddo Llywodraeth y DU.

Prif dasgau

  • Gweithio gyda chydweithwyr o fewn Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu'r Strategaeth ar gyfer Llety Dros Dro, sydd â'r nod o ddarparu rhagor o lety tymor hwy o ansawdd uchel er mwyn cefnogi'r ymateb dyngarol a'r pwysau ehangach rydym yn eu hwynebu yng Nghymru.
  • Gweithio gyda chydweithwyr, rhanddeiliad ac ymgynghorwyr, datrys problemau cyfreithiol ac ariannol, a phroblemau mewn perthynas â chymhorthdal wrth drosglwyddo a rheoli eiddo.
  • Hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu safleoedd cyhoeddus er mwyn cyflawni canlyniadau polisi. • Gweithio gyda chynghorwyr allanol a mewnol i hyrwyddo'r gwaith o brynu, rheoli a throsglwyddo safleoedd ac eiddo Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu canlyniadau gwerth i’r cyhoedd cymaint ag y bo modd.
  • Annog a chefnogi cydweithio wrth gynnal gweithgareddau tir ac eiddo ar draws y llywodraeth a'r ystad gyhoeddus ehangach.
  • Darparu cyngor cytbwys a diduedd i randdeiliaid mewnol ac allanol ar eiddo a phryniadau posibl, i sicrhau bod arferion llywodraethu da yn cael eu defnyddio a bod gwaith am arian yn cael ei sicrhau.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn rhan o broffesiwn Rhaglen a Rheoli Prosiectau Llywodraeth Cymru. Bydd cyfle i chi weithio gyda nifer o brosiectau a rhaglenni ar draws holl feysydd Llywodraeth Cymru. Byddwch yn gweithio gyda staff ar bob lefel gan gynnwys Dirprwy Gyfarwyddwyr a Gweinidogion.

Dyddiad Cau

12/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Bydd yr Ymddygiadau a'r Sgiliau canlynol yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.

  • Gweld y Darlun Cyflawn. Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a'u tîm, neu a allai fod o fudd i'r gwaith hwnnw.
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol. Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl. 
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth. Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
  • Arwain a Chyfathrebu. Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

Bydd y meini prawf canlynol sy’n benodol i'r swydd yn cael eu hasesu yn y cam sifftio a’r cyfweliad.

  1. Byddwch yn Syrfëwr Siartredig Cymwysedig neu'n gyfatebol, gydag o leiaf pum mlynedd o brofiad proffesiynol. 
  2. Byddwch yn gallu dangos y gallu i ddefnyddio Gwybodaeth ac Arbenigedd ym maes prynu a gwerthu eiddo preswyl, ynghyd â thystiolaeth o adeiladu perthnasau gweithio effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol. 
  3. Byddwch yn dangos y gallu i ddatblygu, gwerthuso a negodi cynigion masnachol yn unol â strategol yr adran a'r portffolio, gan ymgorffori gwybodaeth ehangach am y farchnad. Byddwch yn cefnogi'r gwaith parhaus o reoli contractau masnachol, ynghyd â chaffael gwasanaethau neu gynhyrchion yn unol â'r fframweithiau busnes perthnasol.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

Proses Asesu

Mae 3 cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am i chi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu’ch CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf.

 

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn derbyn prawf sgiliau ar-lein/ (teitl) cyflwyniad o 5 munud.
 

Cam 3 - Prawf Sgiliau (Ar-lein)

Bydd y prawf sgiliau yn cael ei gynnal awr cyn eich cyfweliad.

Dyddiad cyfweliadau: I'w gadarnhau.

 

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau/Sgiliau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau a’r Sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Manteision Gweithio yn Llywodraeth Cymru

Ble ca i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym o blaid cynnig ffordd hybrid o weithio – ‘Gweithio Clyfar’ fel y’i gelwir. Mae’n golygu cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio gartref gan ddibynnu ar anghenion y busnes a'r ymrwymiadau i’ch tîm.  Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoliadau penodol yn ôl eich amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu a oes nam neu gyflwr ar eich iechyd. Dywedwch ble yr hoffech weithio yn eich CV, yn y blwch 'Dewis leoliadau'.

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Cyffordd Llandudno, Caerfyrddin

 

Beth yw'r manteision?

Mae llawer o fanteision o weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £41,700 - £49,370.
  • Bydd unigolion ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint. 
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i gael y cydbwysedd bywyd / gwaith cywir. 
  • Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

 

Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff sydd am reoli eu cydbwysedd bywyd -gwaith trwy weithio gartref (yn amodol ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swyddi, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (yn amodol ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – i chi gael prydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy’ch cyflog
  • Cyllid Cymorth – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Cycle2Work a mwy
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth
  • Awr Les – Awr les bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn
  • Tâl – Incrementau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'i deilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod nhw eu hunain, a does neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn ei erbyn
  • Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn, ar gyfer: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fydd ei angen fwyaf
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i reoli eu hiechyd meddwl
  • Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 i roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio
  • 3 Undeb – Mae gennym 3 undeb ar hyn o bryd
YrIs-adranTir.LandDivision@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.