Swydd Wag -- Prif Arbenigwr Gwybodaeth Geo-ofodol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Taliadau Gwledig Cymru (RPW) - Cangen TG RPW
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£53,440
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o tua £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am y prif agweddau ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae'r swydd o fewn Cangen Technoleg Gwybodaeth Taliadau Gwledig Cymru (RPW), sy'n rhan o Is-adran RPW. Mae'r Is-adran yn gyfrifol am reoli'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, gan gynnwys trefniadau pontio, eu gweithredu a'u cyflawni yn y dyfodol. Mae'r ddau faes hyn yn rhan o'r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i 'greu system newydd o gymorth ffermio a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur drwy ffermio'.

Yn ogystal â hyn, RPW yw Adran Cyflawni Gweithredol Llywodraeth Cymru a fydd yn gweithredu'r cynllun cymorth ar gyfer Sector y Môr a Physgodfeydd yn y dyfodol, ynghyd â grantiau Amgylcheddol a Materion Gwledig eraill, gan gynnwys coedwigaeth a chreu coetir, wrth barhau i gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol a rhaglenni Cynllun Datblygu Gwledig yr CE a Chronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014–2020 yng Nghymru hyd at ddiwedd 2023.

Mae Cangen TG RPW yn darparu'r gwasanaeth digidol a fydd yn sail i'r gwaith o weithredu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, yn ogystal ag ymrwymiadau eraill yn y Rhaglen Lywodraethu o fewn Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae'r Gangen yn gyfrifol am gynnal a chadw'r systemau TG sy'n sail i weithgareddau'r Is-adran, heddiw ac ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu datblygu yn unol â gofynion busnes, yr arferion gorau yn y diwydiant TG, rheoliadau'r CE a'r DU a pholisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru. Mae'r Gangen yn gweithio gyda darparwyr contractau gwasanaeth TG allanol ac mae'n gweithredu ar draws nifer o safleoedd ledled Cymru.

Pwrpas y swydd:

  • Gwneud ymchwil, datblygu a darparu technolegau geo-ofodol yn unol â gofynion busnes.
  • Cynhyrchu cronfeydd data a systemau sy'n seiliedig ar dechnoleg.
  • Arwain tîm rhaglennu cymwysiadau a chydlynu prosiectau.
  • Arbenigo mewn meysydd fel amaethyddiaeth, yr amgylchedd, cartograffeg a synhwyro o bell.
  • Hyrwyddo'r proffesiwn Geo-ofodol

Bydd deiliad y swydd yn edrych ar y technolegau System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) sydd ar gael yn Nhaliadau Gwledig Cymru (RPW) ar hyn o bryd, a datblygu map ffordd GIS/Monitro/Data Mawr/Deallusrwydd Artiffisial/Dysgu Peirianyddol i sicrhau ein bod yn barod i gyflwyno Ffermio Cynaliadwy (Y Model Gweithredu Targed – Ôl-Brexit).

Prif dasgau

  • Cynnal astudiaethau dichonoldeb neu nodi gofynion system, amser, offer neu gost prosiectau.
  • Darparu canllawiau a chyngor arbenigol i reolwyr neu grwpiau eraill ar faterion technegol, systemau neu brosesau.
  • Dylunio, rhaglennu a modelu cymwysiadau neu weithdrefnau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).
  • Cynnal dadansoddiadau integredig neu gyfrifiadurol o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i fynd i'r afael â phroblemau gwyddonol.
  • Darparu cymorth technegol ar gyfer meddalwedd mapio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol sy'n seiliedig ar gyfrifiadur.
  • Creu cynrychioliadau gweledol o ddata geo-ofodol gan ddefnyddio gweithdrefnau cymhleth, fel modelu dadansoddol, delweddau tri dimensiwn neu greu plotiau.
  • Helpu defnyddwyr i lunio gofynion Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol neu i ddeall goblygiadau'r opsiynau eraill.
  • Casglu, coladu neu integreiddio data Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, fel data synhwyro o bell neu ddata cartograffeg i'w cynnwys yn llawysgrifau mapiau.
  • Cynnal neu gydgysylltu ymchwil, dadansoddiadau data, dylunio systemau neu gymorth ar gyfer meddalwedd fel meddalwedd mapio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol neu Systemau Lleoli Byd-eang (GPS).
  • Cofnodi, dylunio, codio neu brofi modelau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, datrysiadau mapio ar y rhyngrwyd neu gymwysiadau eraill.
  • Gwneud argymhellion mewn perthynas ag uwchraddiadau, gan ystyried goblygiadau meddalwedd, offer neu gymwysiadau newydd neu ddiwygiedig ar gyfer Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol. 
  • Cynhyrchu haenau data, mapiau, tablau neu adroddiadau gan ddefnyddio gweithdrefnau dadansoddi gofodol neu dechnoleg neu offer Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
  • Cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu a gweinyddu prosiectau System Gwybodaeth Ddaearyddol, gan gynnwys datblygu blaenoriaethau technolegol, adrodd gan gleientiaid a rhyngwynebau, neu gydgysylltu ac adolygu amserlenni neu gyllidebau.
  • Arwain, hyfforddi a goruchwylio technegwyr neu staff cysylltiedig ar gynnal gweithdrefnau dadansoddol ar gyfer Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
  • Paratoi deunyddiau hyfforddi neu wneud cyflwyniadau ar gyfer defnyddwyr Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
  • Darparu arbenigedd technegol ym maes technoleg Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
  • Cynhwyso technolegau tri dimensiwn (3D) a phedwar dimensiwn (4D) i dechnolegau geo-ofodol i ganiatáu ar gyfer dadansoddiadau neu gymwysiadau newydd neu wahanol.

Cyfleoedd datblygu

Mae hon yn swydd heriol ar flaen Gwasanaethau Digidol Geo-ofodol Llywodraeth Cymru, lle bydd deiliad y swydd yn ennill profid o weithio mewn amgylchedd dynamig sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfle i weithio'n agos gydag uwch-swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac o sefydliadau eraill.

Dyddiad Cau

17/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn yr Ymddygiadau yn Mhroffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.

Bydd yr ymddygiadau a'r cryfderau hyn yn cael eu profi yn y cyfweliad.

Ymddygiadau Gwasanaeth Sifil

  1. Newid a Gwella – Deall a chydnabod rôl technoleg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a gweithredu polisïau.
  2. Rheoli Gwasanaeth Safonol – Gwneud cynlluniau clir, ymarferol a hawdd eu rheoli ar gyfer gyflawni gwasanaethau.

Y cryfderau a fydd yn cael eu profi yn ystod y cyfweliad yw Herio, Datrys Problemau, Cynhwysiant a Chanolbwyntio ar y Gwasanaeth. Mae rhagor o wybodaeth am gryfderau ac ymddygiadau ar gael yma.

Sgiliau DDaT

Gweithio Agile. Nid ydych yn ofn mentro, yn barod i ddysgu o gamgymeriadau ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd darparu prosiectau Agile ar gyfer prosiectau digidol o fewn llywodraeth.

Dadansoddi busnes. Rydych yn gwybod sut i ymchwilio, dadansoddi, mynegi a datrys problemau a chysyniadau cymhleth, a gwneud penderfyniadau disgybledig yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael.

Am ragor o wybodaeth am y sgiliau DDaT sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, cyfeiriwch at y Brif Dadansoddwr Data yn y Fframwaith Gallu DDaT.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

Mae'r sgiliau technegol a ganlyn yn HANFODOL ar gyfer llwyddo yn y rôl hon. Gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi CV, heb fod yn hwy na dwy ochr o A4, sy'n dangos eich gallu mewn perthynas â'r sgiliau hyn.

  1. Daearyddiaeth – Gwybodaeth am egwyddorion a dulliau ar gyfer disgrifio nodweddion tir, môr ac aer, gan gynnwys eu nodweddion ffisegol, eu lleoliad, cydberthnasau a dosbarthiad bywyd planhigion, anifeiliaid a phobl. 
  2. Peirianneg a Thechnoleg – Gwybodaeth am ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg beirianyddol yn ymarferol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio egwyddorion, technegau, gweithdrefnau ac offer yn y gwaith o ddylunio a chynhyrchu amryw nwyddau a gwasanaethau. Arbenigo ym meysydd Data Mawr, Deallusrwydd Artiffisial a methodolegau Dysgu Peirianyddol.
  3. Dadansoddi anghenion a'r gofynion o ran cynhyrchion i greu dyluniad.

Proses Asesu

Bydd eich cais yn cael ei asesu mewn dau cham:

  1. Bydd proses sifftio gychwynnol yn cael ei chynnal yn erbyn eich CV a'r sgiliau penodol sy'n hanfodol i'r swydd. Fel rhan o'ch cais gofynnir ichi lanlwytho copi o'ch CV. Ni ddylai eich CV fod yn hwy na dwy ochr A4. Bydd unrhyw beth dros ddwy ochr A4 yn cael ei ddiystyru, ac ni fydd yn cael ei ystyried yn ystod y cam sifftio. Gofynnir ichi dynnu eich enw a'ch cyfeiriad o'ch CV i'n helpu ni i gynnal proses sifftio ddienw.
  2. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi pasio'r cam sifftio cychwynnol i gymryd rhan yn yr Ymarfer Technegol a’u gwadd i gymryd rhan mewn Cyfweliad.

Y Rhestr Wrth Gefn

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi derbyn yr isafswm sgôr ym mhob asesiad yn cael y cyfle i fod ar restr 'wrth gefn' Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Os bydd swyddi eraill yn cael eu creu neu os bydd swyddi presennol yn dod yn wag yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y rôl i'r ymgeisydd hwnnw ar y rhestr wrth gefn sydd â'r sgôr uchaf.  Os bydd yn gwrthod y swydd, gall Llywodraeth Cymru gynnig y swydd i'r ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac yn y blaen.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb

Gan nad oes cynrychiolaeth ddigonol yn y sefydliad, caiff ymgeiswyr sy'n datgan eu bod yn anabl neu o gefndir Du neu Ethnig Leiafrifol (BAME) symud ymlaen yn awtomatig i'r Porth Asesu os yw eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol. Dim ond os bydd ymgeiswyr yn nodi'r wybodaeth hon yn eu ffurflen gais y bydd yn bosibl inni wneud hyn. Bydd gwybodaeth am ymgeiswyr BAME yn cael ei chymryd o'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen hon fel rhan o'ch cais.

Addasiadau Recriwtio

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd ac i wneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar unrhyw rwystrau yn y broses recriwtio i staff sydd â nam, gyflwr iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Gallwn wneud addasiadau i unrhyw ran o'r broses recriwtio (y cais yn ogystal â'r ganolfan asesu) a byddwn yn sicrhau bod ymgeiswyr anabl yn cael eu rhoi mewn rolau lle y gellir gwneud addasiadau i'r gweithle. Gallwn ddarparu cyngor i staff sy'n meddwl y gallai fod angen addasiadau rhesymol arnynt, ond sydd angen gwybod mwy am y broses asesu a pha fath o addasiadau y gallem eu gwneud i sicrhau proses asesu deg.

Os gwyddoch (neu os credwch) fod angen unrhyw fath o addasiad rhesymol arnoch er mwyn gwneud eich cais, cysylltwch â'r tîm recriwtio yn RPW.Cyfathrebu@llyw.cymru cyn gynted â phosibl i drafod unrhyw addasiad rhesymol.

Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, byddwn yn cysylltu â'r holl ymgeiswyr i roi manylion am sut y gall ymgeiswyr anabl ofyn am addasiad, a derbyn cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw addasiadau sydd eu angen arnynt ar gyfer y digwyddiad asesu. Bydd hyn yn cynnwys y cyfle am sesiynau cyngor 1-1 i ymgeiswyr sy'n ansicr a oes angen addasiadau rhesymol neu pa fath o addasiadau y gallent neu y dylent ofyn amdanynt er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu gorau.

Yn y cyfamser, mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr anabl am gyfeirio at Atodiad A i'r Canllawiau i Ymgeiswyr (dolen) ar gyfer y Ffurflen Addasiadau Rhesymol yr ydym yn ei threialu.

Pwynt cyswllt i gael rhagor o wybodaeth  

Penny Aubrey yn RPW.Cyfathrebu@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylid cyflwyno pob cais ar gyfer y swydd hon ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. 

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a bod angen ichi drafod gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, e-bostiwch RPW.Cyfathrebu@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy'n ymwneud â nam er mwyn cyflwyno eich cais.

I wneud cais, bydd angen ichi fod â chyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch ar y botwm 'Gwneud Cais' isod, a gofynnir ichi fewngofnodi os oes gennych gyfrif eisoes, neu 'Cofrestru' os nad oes gennych gyfrif. Ni fydd cofrestru'n cymryd fawr o dro. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch er mwyn gallu cofrestru. Ar ôl ichi gofrestru i gael cyfrif, a mewngofnodi, ewch i'r ffurflen gais ar-lein, a bydd angen ichi ei llenwi a'i chyflwyno cyn y dyddiad cau.

Os hoffech wneud cais am y swydd hon yn Saesneg, defnyddiwch y ddolen 'Newid Iaith / Change Language' ar frig y dudalen hon, a fydd yn mynd â chi at y fersiwn Saesneg o'r hysbyseb, er mwyn ichi allu gwneud cais yn Saesneg.

**Noder: Os oes cyfrif Penodi gennych eisoes a hoffech ddiweddaru eich enw defnyddiwr a'ch cyfeiriad e-bost i'r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, dylech fewngofnodi gan ddefnyddio eich hen fanylion, clicio ar eich enw yn y ddewislen, a dewis 'Golygu Manylion Personol' ar y gwymplen. Gallwch ddiweddaru unrhyw fanylion personol ar y dudalen hon.**

Mae nifer o fanteision gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Byddwch yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â deg diwrnod o wyliau banc a braint.  
  • Rydym yn cynnig oriau hyblyg i'ch helpu i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  
  • Byddwch hefyd yn gallu ymaelodi â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Manteision eraill:

  • Gweithio'n Hyblyg – Rydym yn cefnogi staff i reoli cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd drwy weithio gartref (yn ddarostyngedig i anghenion busnes ac os yw hynny'n briodol ar gyfer y swydd)
  • Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawnamser, Rhan Amser, Rhannu Swydd, Oriau Cywasgedig, Tymor yr Ysgol ac ati (yn ddarostyngedig i anghenion busnes ac os yw hynny'n briodol ar gyfer y swydd)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – Bydd y cynllun hwn yn caniatáu ichi lesio car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy eich cyflog
  • Cymorth Ariannol – Blaensymiau o'ch cyflog am amrediad o sefyllfaoedd, gan gynnwys: tocynnau teithio tymhorol, gofal llygaid, cyfarpar TG, Cycle2Work a mwy
  • Absenoldeb Rhiant – 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu ar gyflog llawn, a 15 diwrnod o absenoldeb tadolaeth
  • Amser Llesiant – Awr lesiant neilltuedig bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau gwaith. Boed hynny yn fynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrio neu fynd i'r gampfa, eich amser chi yw hwn
  • Tâl – Cynyddrannau cystadleuol drwy'r bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Chamu Ymlaen – Mynediad at hyfforddiant a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl chi
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo y gallant fod eu hunain, ac nid oes neb yn profi rhagfarn
  • Ymgysylltu â Staff – Mae gennym amrediad eang o rwydweithiau gweithgar a chroesawgar, gan gynnwys: Awtistiaeth, Gofalwyr, Menywod Ynghyd, PRISM (ein rhwydwaith LHDTC+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau neilltuedig i ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen fwyaf ar staff
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth neilltuedig i helpu staff i reoli eu hiechyd meddwl
  • Cyfarpar TG modern – Bydd gliniadur sydd ag Office 365 yn rhoi rhagor o hyblygrwydd ichi o ran pryd, sut a ble rydych yn gweithio
  • Tri Undeb – Ar hyn o bryd mae tri undeb yn weithredol yn ein sefydliad
Hugh Morgan - RPWCommunications@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.