Swydd Wag -- Perchennog Gwasanaeth Hwb

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr Is-adran Dysgu Digidol
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£63,880, ond gall cyflog cychwynnol o hyd at £69,690 gael ei gynnig ar gyfer ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Swydd am gyfnod penodol o 2 flynedd yw hon. Nid oes sicrwydd y gellir gwneud y penodiad yn barhaol yn y dyfodol, ond bydd adolygiad o'r anghenion gwaith a'r trefniadau ariannu yn cael ei wneud cyn diwedd y ddwy flynedd i weld a ddylid gwneud y penodiad yn un parhaol. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes wedi'ch cyflogi yn y sector cyhoeddus, gellir ystyried secondiad o’ch cyflogwr presennol. Rydym yn rhagweld y bydd mwyafrif yr ymgeiswyr sy'n gofyn am secondiad trwy'r cyfle hwn yn symud ar draws, felly byddent yn parhau ar yr un cyflog ag y maent yn ei dderbyn gan eu cyflogwr. Dim ond mewn achosion eithriadol, e.e. lle byddai secondiad yn cyfateb i ddyrchafiad dros dro o ran cyflog, y caniateir hyblygrwydd. Yn y sefyllfa hon, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i'r Secondai gael ei dalu ar leiafswm y Band Cyflog ar gyfer y Radd y’i penodir iddi, ond byddai angen i gyflogwr y Secondai gytuno â thelerau'r penodiad a'r cynnydd dros dro yng nghyflog y gweithiwr dros gyfnod y secondiad.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yn llywodraeth ddatganoledig â chyllideb flynyddol o tua £18 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus y genedl, gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd. 

Wedi ymrwymo i ddarparu'r addysg orau oll i ddysgwyr ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn hybu a hyrwyddo'r defnydd o dechnolegau digidol, ynghyd ag addysgeg gadarn, er mwyn gwneud byd o wahaniaeth i ansawdd cyfleoedd dysgu.  Mae Cymru'n cael ei chydnabod yn geffyl blaen y byd wrth ddarparu gwasanaethau dysgu digidol gan 'gewri technoleg' fel Microsoft, Google ac Adobe. 

Bydd y swydd gyffrous hon yn atebol am ansawdd a darpariaeth amrywiaeth o wasanaethau dysgu digidol cymhleth sy'n sail i raglen genedlaethol ehangach Hwb.  Gan arwain tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr cyflenwi rhaglenni, byddant yn defnyddio dull portffolio, gan reoli gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd gan gynnwys cynhyrchion a sianelau niferus.

 Yn adrodd i'r Dirprwy Gyfarwyddwr Dysgu Digidol, bydd deiliad y swydd yn cyflawni rôl ganolog wrth ddatblygu strategaeth Hwb ar gyfer rhanddeiliaid addysg o Fôn i Fynwy, gyda phwyslais clir ar sicrhau bod rhaglen gydlynol o gynhyrchion digidol yn cael ei datblygu a'i gweithredu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm i Gymru.

 Mae'r swydd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i weithio'n helaeth gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr digidol yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Byddai'n addas i unigolyn egnïol a brwdfrydig sydd am ysgwyddo’r cyfrifoldeb o adeiladu ar y rhaglen waith gwasanaethau dysgu digidol bresennol, ac sydd â chryn ddiddordeb mewn trawsnewid gwasanaethau digidol i gefnogi lleoliadau addysg.

Prif dasgau

      Bod yn gyfrifol am weithredu’n llwyddiannus a gwella'n barhaus yr ystod gymhleth o wasanaethau Hwb gan gynnwys timau technegol, cynnwys digidol a chadernid digidol

Sicrhau bod prosesau busnes a gweithredol angenrheidiol y llywodraeth yn cael eu datblygu a'u dilyn ar draws yr uned

Arwain y gwaith o lywodraethu gwasanaeth Hwb, gan gynnwys gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer y timau cyflenwi

Rheoli dibyniaethau o gymhlethdod amrywiol, cynllunio a chyfrannu at raglenni a phortffolios mwy

Bod yn gyfrifol am gyllideb gwasanaeth Hwb, gan ddyrannu cyllid i feysydd o'r gwasanaeth yn seiliedig ar eich penderfyniadau am flaenoriaethau

Cael gwared ar rwystrau a rheoli risgiau, gweithrediadau masnachol, cyllidebau a phobl

Cyfleu manteision a pherfformiad y gwasanaeth

Y gallu i gydbwyso amcanion ac adleoli adnoddau wrth i flaenoriaethau newid, gan weithio gyda rhannau eraill o'r proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg o fewn Llywodraeth Cymru.

Bod â gwybodaeth fanwl am Ystwyth (Agile) a methodolegau eraill

Bod yn gyfrifol am ddeall, rheoli a chyfathrebu ag uwch grwpiau rhanddeiliaid cymhleth, gan gydbwyso blaenoriaethau

Cynghori uwch randdeiliaid, gan gynnwys Gweinidogion, ar wasanaethau dysgu digidol arfaethedig - pontio'r bwlch rhwng timau technegol a rhanddeiliaid annhechnegol.

Bod yn rhagweithiol wrth sefydlu perthynas waith dda gydag uwch reolwyr ac arweinwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yn ymddiried yn y cyngor a'r argymhellion ac yn gweithredu arnynt.

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o'i lywio a'i ehangu. .

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a galluoedd ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod y flwyddyn i ddysgu.  I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd a allai gynnwys:

·       Cysgodi

·       Mentora

·       Dysgu seiliedig ar waith

·       Cymwysterau

·       Coetsio

·       Y Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)

·       Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

14/05/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Fel rhan o'ch cais, paratowch ddatganiad personol sy'n amlinellu sut rydych yn bodloni'r gofynion HANFODOL canlynol ar gyfer y rôl.  Ni ddylai eich datganiad personol fod yn fwy na 2 ochr A4. 

Er mwyn bod yn llwyddiannus ar gyfer y rôl hon:

Rydych chi'n gallu datblygu gweledigaeth ac amcanion hirdymor. Rydych yn graff a disgybledig wrth ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig ac yn fwyaf perthnasol. Rydych chi'n gwybod sut i feithrin gallu pobl eraill. (Lefel sgiliau perthnasol: arbenigwr)

Rydych chi'n ymwybodol o arfer gorau'r diwydiant ac yn gallu rhaeadru ffyrdd o weithio. Rydych chi'n gwybod sut i wneud gweithrediadau'n effeithlon. Rydych chi'n gallu bod yn bwynt uwchgyfeirio ar gyfer materion gweithredol mawr a hyrwyddo rheolaeth weithredol ar draws y gymuned. Rydych chi'n gallu gweithio'n agos gydag arweinwyr timau cyflenwi gweithredol yn y maes digidol, data a thechnoleg (DDaT). (Lefel sgiliau perthnasol: arbenigwr)

Rydych chi'n gwybod sut i ragweld problemau a sut i amddiffyn yn eu herbyn ar yr adeg iawn. Rydych chi'n deall sut mae'r broblem yn cyd-fynd â'r darlun ehangach. Rydych chi'n gallu mynegi'r broblem a helpu eraill i wneud hynny. Rydych chi'n gwybod sut i feithrin galluoedd datrys problemau mewn eraill. (Lefel sgiliau perthnasol: arbenigwr)

Rydych chi'n gwybod sut i hyfforddi ac arwain timau mewn arferion ystwyth a darbodus, gan benderfynu ar y dull cywir i'r tîm ei ddefnyddio a gwerthuso hyn ar hyd oes prosiect. Rydych chi'n gallu meddwl am ffyrdd newydd ac arloesol o weithio i gyflawni'r canlyniadau cywir. Rydych chi'n gallu gweithredu fel arbenigwr ac eiriolwr cydnabyddedig ar gyfer y dulliau gweithredu, gan fyfyrio a herio'r tîm yn barhaus. (Lefel sgiliau perthnasol: arbenigwr)

Rydych chi'n gallu datblygu achos busnes ystwyth a'i hyrwyddo a'i ailadrodd gydol cylch bywyd y cynnyrch. Rydych chi'n gwybod sut i ddatblygu manteision gydag eraill o fewn y portffolio. Rydych chi'n deall glo mân costau ariannol fesul cymal a gwerth a ddarperir. (Lefel sgiliau perthnasol: arbenigwr)

Rydych chi'n gallu cymhwyso profiad o sawl rhan o gylch bywyd cynnyrch. Rydych chi'n gallu cydnabod pryd ddylid symud ymlaen a phryd mae'n iawn rhoi'r gorau iddi. Rydych chi'n adnabod y pethau priodol i’w cyflawni a'r bobl iawn i fodloni'r rhain. Rydych chi'n gallu gweithio gyda gweithrediadau dosbarthu ystwyth eraill gydol cylch bywyd y cynnyrch. Rydych chi'n gallu cynllunio ac ymgysylltu â'r rhanddeiliaid priodol ar gam penodol o'r prosiect. (Lefel sgiliau perthnasol: ymarferydd)

Rydych chi'n gwybod sut i roi cyfarwyddyd ar ba offer neu ddulliau i'w defnyddio. Mae gennych brofiad o ddiwallu anghenion defnyddwyr ar draws amrywiaeth o sianeli. Rydych chi'n gallu cyflwyno safbwyntiau ac arbenigedd yn y ffordd mae anghenion defnyddwyr wedi newid dros amser i sicrhau bod y busnes yn diwallu'r rhain. Rydych chi'n gwybod sut i feddwl strategol o ran sut mae darparu'r gwasanaeth gorau i'r defnyddiwr terfynol. (Lefel sgiliau perthnasol: arbenigwr)

Rydych chi'n gwybod am yr offer, y termau a'r cysyniadau a ddefnyddir i ddarparu cynnyrch a sut y gellir eu haddasu a'u cymhwyso i wahanol gamau cyflwyno. (Lefel sgiliau perthnasol: gweithio)


Mae'r sgiliau technegol canlynol hefyd yn HANFODOL er mwyn llwyddo yn y rôl hon.  Cofiwch atodi CV sy'n dangos eich gallu mewn perthynas â'r sgiliau hyn. 

  • Dealltwriaeth ddofn o ddarparu gwasanaethau technegol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddarparu sicrwydd gwasanaeth i uwch reolwyr a rhanddeiliaid.
  • Yn gallu cynhyrchu strategaeth ar gyfer technoleg sy'n diwallu anghenion busnes.
  • Gallu creu, mireinio a herio patrymau, safonau, polisïau, mapiau ffyrdd a datganiadau gweledigaeth.

Proses Asesu

I wneud cais am y rôl hon gofynnir i chi atodi'r canlynol: 

Datganiad Personol o addasrwydd sy'n esbonio sut mae'ch profiad a'ch sgiliau yn darparu tystiolaeth yn erbyn gofynion hanfodol y rôl.  Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na dwy ochr A4. 

CV cyfredol gan gynnwys tystiolaeth o'r sgiliau technegol hanfodol ac unrhyw alluoedd dymunol sy'n benodol i'r swydd lle bo hynny'n berthnasol.

Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad.  Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â gofynion hanfodol y rôl.  Efallai y byddwn yn cynnwys prawf neu asesiad os yw'n briodol. 

Yn dilyn y cyfweliad, efallai y byddwn yn cadw eich manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn pe bai swyddi tebyg eraill yn codi. 

NODER: Mae'n bwysig eich bod yn atodi'r ddwy ddogfen hyn (y Datganiad Personol a CV) yn eich cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
CHRIS OWEN christopher.owen2@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.