Swydd Wag -- Swyddog Iechyd a Thai

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Iechyd a Thai
SEO - £41,700 - £49,370
41700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae'r rôl hon yn cefnogi'r tîm  Iechyd a Thai  i sicrhau bod y Gronfa Tai gyda Gofal (HCF) yn llwyddo i gyflawni'r Rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r Llywodraeth i gefnogi datblygiad tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal ac ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth.

Prif dasgau

Mae gan yr HCF gyllideb gyfalaf flynyddol o £60 miliwn. Mae'r Gronfa yn buddsoddi mewn tai parhaol arbenigol, fel gofal ychwanegol i bobl hŷn, a byw â chymorth i bobl ag anabledd dysgu, yn ogystal â llety tymor byr a chanolig a lleoliadau gofal canolradd, fel llety preswyl i blant, llety trosiannol e.e. ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal a phobl ag anghenion iechyd emosiynol a meddyliol, a llety cam i fyny / cam i lawr.

  • Darparu gwasanaethau busnes a gweinyddol i'r tîm Iechyd a Thai.
  • Cofnodi ceisiadau grant, paratoi llythyrau grant, gwirio ac ardystio hawliadau grant. 
  • Monitro ymrwymiadau ariannol, gwariant a rhagolygon ariannol.
  • Meithrin a chynnal perthynas dda gyda swyddogion y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, derbynwyr grantiau a chydweithwyr mewn meysydd polisi cysylltiedig ar draws Llywodraeth Cymru.
  • Trefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol, helpu drafftio agendâu a phapurau, ymateb i geisiadau am wybodaeth, cymryd cofnodion, a chofnodi penderfyniadau.
  • Monitro a chyfrannu at fusnes pob dydd y llywodraeth, gohebiaeth a chyfathrebu.

Cyfleoedd datblygu

Bydd cyfle i chi gael profiad o gynlluniau grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru a deall sut mae prosiectau a rhaglenni'n cael eu rheoli.  Byddwch yn ymgysylltu'n adeiladol â rhanddeiliaid  ac yn datblygu rhwydweithiau mewnol ac allanol. Byddwch yn helpu i adeiladu a gwella cysylltiadau a chydweithio ar draws tai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Dyddiad Cau

05/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Bydd y Cymwyseddau canlynol yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.

Gwneud penderfyniadau effeithiol

  • Sylweddoli faint o awdurdod sydd ganddynt i wneud penderfyniadau ac awdurdodi aelodau eraill o’r tîm i wneud penderfyniadau.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Gweithio gyda’r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni

Meini Prawf Penodol i’r Swydd 

Bydd y meini prawf canlynol sy’n benodol i'r swydd yn cael eu hasesu pan fyddwn yn sifftio a chyfweld.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  • Sgiliau gweinyddu cryf a gwybodaeth am Excel.
  • Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu da.
  • Gweithiwr tîm.

Proses Asesu

Mae 3 cam i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch datganiad personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym yn chwilio'n arbennig i chi ddangos sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd.  Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn  adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd o'r hysbyseb.

  • Sylwch y byddwn yn asesu eich CV a'ch datganiad personol yn erbyn y meini prawf swydd penodol a restrir isod .  Sicrhewch fod eich datganiad personol yn nodi sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 o eiriau ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 - Dyraniad CV

Ar ôl y dyddiad cau, bydd CV a datganiadau personol pob ymgeisydd yn cael eu hasesu.

Danfonir prawf/cyflwyniad sgiliau ar-lein (hyd 5 munud) i bob ymgeisydd sy'n dangos eu bod yn bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd gofynnol yn llwyddiannus.

Cam 3 – Prawf sgiliau (Ar-lein)

Bydd y prawf sgiliau wedi'i drefnu awr cyn eich cyfweliad

Dyddiad cyfweliadau i’w gadarnhau.

Cam 4 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y Proffil Sgiliau neu’r Cymwyseddau a’r Meini Prawf Penodol i Swyddi a amlinellir yn adrannau'r hysbyseb hon.

Mewn cyfweliad gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu ichi ddarparu tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a Chymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Daniel Jones

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.