Swydd Wag -- Pennaeth Rheolaeth Ariannol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyllid a Llywodraethu
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£48,650
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Gwahanol leoliadau
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu Porth Asesu rhwng 10fed a'r 24ain Gorffennaf 2019. Dim ond yng Nghaerdydd y mae'r broses asesu ar gael i'w chynnal. Mae rhagor o fanylion am yr asesiadau i'w gweld yn y ddogfen canllawiau i ymgeiswyr (dolen ar gael yn yr adran sut i wneud cais yn yr hysbyseb).

Pwrpas y swydd

Mae’r grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus (EPS) yn un o 5 grŵp yn Llywodraeth Cymru sy'n gwasanaethu nifer o bortffolios Gweinidogol ac mae'n cynnwys nifer o gyfarwyddiaethau, gan gynnwys Llywodraeth Leol, Addysg (gan gynnwys yr iaith Gymraeg), Cymunedau a Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio a dwy Arolygiaeth, Arolygaeth Gofal Cymru (CIW) ac Arolygiaeth Iechyd Cymru (HIW).

Mae cydweithio agos yn digwydd gyda grwpiau eraill Llywodraeth Cymru a hefyd amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus datganoledig a rhai heb eu datganoli.

O fewn y tîm Cyllid a Llywodraethu ac yn ateb i'r Pennaeth Cyllid a llywodraethu, bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth partneriaeth busnes ariannol o’r radd flaenaf gan gynwnys data ariannol rheolaidd a chywir er mwyn sicrhau defnydd effeithiol o’r gyllideb £6 biliwn yn ogystal ag ysgogi rheolaeth ariannol briodol o fewn y grŵp a gan y cyrff sy’n derbyn cyllid. Mae’r rôl yn cynnwys trosolwg o brosesau cynllunio busnes ar gyfer EPS.

Bydd angen Gyfrifydd â chymhwyster CCAB gyda'r ymgeisydd llwyddianus. 

Prif dasgau

Arwain y tîm

  • Arwain, rheoli, datblygu ac ysbrydoli’r timau Cyllid a Chynllunio Busnes, gan annog diwylliant sy’n canolbwyntio ar wasanaeth gwych i gwsmeriaid a gwelliant parhaus.

Rheolaeth Ariannol

  • Yn gyfrifol am baratoi a chydlynu adroddiadau rheoli (gwybodaeth ariannol a gwybodaeth am berfformiad) i uwchreolwyr ac i’r tîm Cyllid Canolog
  • Cefnogi a llywio Cyfarwyddwyr, deiliaid cyllidebau allweddol a’u timau perthnasol er mwyn sicrhau rheolaeth gyllidebol effeithiol, gan gynnwys helpu i gynllunio’r gyllideb, ymdrin â phwysau ar y gyllideb yn ystod y flwyddyn ac unrhyw faterion ariannol eraill.
  • Cyfrifoldeb dros reoli prosesau cau diwedd y mis a diwedd y flwyddyn, gan gynnwys cysylltu â tîm Cyllid Canolog a Swyddfa Archwilio Cymru fel y bo’n briodol.
  • Gwerthuso gwybodaeth ariannol a pherfformiad yn feirniadol,  a darparu cyngor ariannol strategol er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau o safon.
  • Adolygu cyngor gweinidogol yn feirniadol trwy ddarparu canllawiau ar oblygiadau ariannol unrhyw gynigion newydd, atebion i gwestiynau Aelodau’r Cynulliad  ac ati. Rhoi cyngor i’r Gweinidog ar faterion ariannol a chyllidebol.
  • Cefnogi’r Pennaeth Cyllid a Llywodraethu i sicrhau bod y safonau proffesiynol uchaf yn cael eu cyflawni o fewn y grŵp fel bod gofynion statudol a chydymffurfio’n cael eu bodloni.
  • Dirprwyo ar ran y Pennaeth Cyllid a Llywodraethu fel bo’r angen.
  • Cefnogi Gweinidogion, y Cyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwyr trwy ddarparu opsiynau i gyllido ac ariannu blaenoriaethau gwleidyddol, gan roi darlun gwrthrychol o gynlluniau ariannol cyfredol i ymgynghori yn eu cylch, a sicrhau bod cronfeydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y diben a fwriadwyd.
  • Rhoi arweiniad i holl staff o fewn EPS gan gynnwys bod yn aelod o dîm trawsbynciol o benaethiaid os bydd cyllid gan wahanol is-adrannau. Datblygu galluogrwydd y ‘rhwydwaith ariannol’ a helpu i ddatblygu sgiliau ariannol aelodau cyllid o’r staff a rhai nad ydynt yn ymwneud â chyllid ym maes y Cyfarwyddwr Cyffredinol ac ar draws Llywodraeth Cymru.
  • Cydlynu cyfraniad maes y Cyfarwyddwr Cyffredinol i broses gyllideb Llywodraeth Cymru, gan gysylltu â’r maes cyllidebu strategol lle bo’n briodol.

 

Cynllunio Busnes

  • Rheoli proses cynllunio busnes Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys sicrhau ansawdd y cyfraniad a sicrhau bod gwybodaeth reoli reolaidd yn cael ei darparu er mwyn helpu i gyflawni blaenoriaethau Gweinidogol. 

Cyfleoedd datblygu

Fel aelod allweddol o gymuned gyllid Llywodraeth Cymru, mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i weithio gyda'r grŵp EPS a Llywodraeth Cymru yn ehangach, a dylanwadu ar y gwaith hwnnw.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gydweithio'n agos â Gweinidogion, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddwyr a Dirprwy Gyfarwyddwyr yn y grŵp i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau Gweinidogion.

Dyddiad Cau

26/06/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Beth fydd y sefydliad yn ei ddisgwyl?

  • Byddwch yn gallu gweithio o dan bwysau, bod yn hyblyg, yn rhagweithiol ac yn hunangymhellol. Bydd gennych yr uchelgais i arwain a chymell tîm i weithio'n llwyddiannus mewn amgylchedd heriol, llawn pwysau a chyflym.
  • Byddwch yn gallu defnyddio dull gweithredu arloesol, edrych am gyfleoedd i wneud pethau'n wahanol a bod yn ddigon ymatebol i addasu a datblygu opsiynau newydd wrth i bethau newid.
  • Fel Gwas Sifil effeithiol, bydd angen i chi ennill dealltwriaeth o dirwedd wleidyddol ac o rôl Gweinidogion i osod yr agenda ar gyfer eich maes busnes; dealltwriaeth o sut i gyflawni pethau o ran prosesau llywodraethu a rheoli ariannol; gallu i reoli risg, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth heb lawer o arweiniad neu dim arweiniad o gwbl; a'r gallu i gyfathrebu'n glir ar bob lefel, gan gynnwys gydag uwch randdeiliaid a Gweinidogion.

Beth fydd eich tîm yn ei ddisgwyl?

  • Byddwch yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant, gan greu amgylchedd lle y mae unigolion yn teimlo eu bod yn ddiogel i herio, rhannu syniadau a mynegi pryderon. 
  • Byddwch yn fodel rôl, sy'n gallu cymell ac ysbrydoli eraill, creu gweledigaeth a chymell pobl eraill i'w chefnogi, gan roi arweiniad a blaenoriaethau clir i'r tîm, a sicrhau bod pob aelod yn deall eu cyfraniad i gyflawni amcanion ac yn teimlo eu bod yn gallu cyflawni eu rôl.
  • Byddwch yn cefnogi datblygiad eraill, gan ddangos dealltwriaeth o bwysigrwydd dysgu, cynllunio cyfleoedd a darparu ar eu cyfer ac annog unigolion i ddatblygu, ynghyd â neilltuo amser ar gyfer eich datblygiad chi eich hun.

Beth fydd rhanddeiliaid yn ei ddisgwyl? 

  • Byddwch yn gallu arfer barn gadarn a defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i roi cyngor a chanllawiau credadwy i randdeiliaid mewnol ac allanol. 
  • Byddwch yn deall pwysigrwydd meithrin a chynnal cydberthnasau adeiladol, o fewn Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Bydd gennych sgiliau dylanwadu cryf a'r gallu i feithrin cydberthnasau cydweithredol sy'n herio gyda chefnogaeth a datblygu ymddiriedaeth a chyd-barch ar draws ffiniau sefydliadol.
  • Byddwch yn gallu defnyddio meddylfryd creadigol i ddatblygu argymhellion ac elwa ar y cyfleoedd i gydweithio ar draws ffiniau.

 

Am ymgyrch hon yn unig, anwybyddwch y cyfarwyddiadau am ddogfen cymwyseddau a mwyafswm o 300 o eiriau.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Canolfan asesu

Caiff ymgeiswyr eu hasesu mewn canolfan asesu. Bydd pob canolfan asesu yn para am 4 awr ac yn cynnwys dau ymarfer asesu gwahanol, yn ogystal â chyfweliad. Dyma ychydig o wybodaeth am y math o ymarferion y bydd gofyn i chi eu cwblhau yn ystod y ganolfan asesu.

  • Yr Ymarfer Dadansoddol

Mae hyn yn cynnwys cyflwyno llawer o wybodaeth i ymgeiswyr o wahanol ffynonellau, sy'n ymwneud â phroblem fusnes berthnasol. Mae'n bosibl y bydd y rhain ar ffurf graffiau, tablau, papurau'r llywodraeth, dogfennau cynghori ac erthyglau papurau newydd. Mae'r cynnwys yn gymhleth iawn a rhaid i'r ymgeisydd ddarparu argymhelliad rhesymegol ar gyfer ei gasgliadau. Bydd gan ymgeiswyr arferol awr i baratoi eu hargymhellion i'w cynnwys ar ffurf cyflwyniad gyda sesiwn holi ac ateb heriol i ddilyn.  

  • Yr Ymarfer Arweinyddiaeth 

Bydd hyn yn cynnwys efelychu cyfarfod a fydd yn gofyn i ymgeiswyr gymryd rhan mewn ymarfer ymddygiadol sy'n efelychu cyfarfod un i un â rhanddeiliad rhwng yr ymgeisydd a rhywun yn chwarae rôl yn seiliedig ar friff penodol. Bydd y briff yn cynnwys gwybodaeth gefndirol, disgrifiad o'r sefyllfa a nodiadau am y person y mae ar fin cyfarfod ag ef. Caiff y trefniadau o ran amseru a phrif amcanion y cyfarfod eu hamlinellu hefyd. Bydd gan ymgeiswyr tua 20 munud i baratoi cyn cyfarfod â'r person sy'n chwarae'r rôl a bydd angen iddynt ddatrys y sefyllfa mewn ffordd sydd o fudd i'r ddwy ochr.

  • Cyfweliad

Yn ystod y cyfweliad panel, byddwch yn ateb amrywiaeth o gwestiynau yn seiliedig ar ymddygiad a chryfder. Caiff y cwestiynau sy'n seiliedig ar ymddygiad eu defnyddio i archwilio'r hyn rydych chi'n gallu ei wneud yn fanwl a phwrpas y cwestiynau sy'n seiliedig ar gryfderau yw darganfod yr hyn rydych chi'n ei fwynhau a'ch cymhelliant sy'n berthnasol i ofynion y radd. 


Canllaw i Ymgeiswyr

Cynghorir yn gryf eich bod yn darllen y Canllaw i Ymgeiswyr cyn gwneud cais, gweler y ddolen isod.

Claire Bushell - Claire.Bushell@gov.wales / 03000 628911

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd yma, bydd angen i chi gyflwyno CV a datganiad personol sy'n dangos profiad mewn perthynas â disgrifiad y radd a gaiff ei rhestri o dan cymwyseddau / meini prawf penodol i'r swydd yn yr hysbyseb.

Ni ddylai'r CV fod yn hirach na dwy ochr A4 ac ni ddylai'r datganiad personol fod yn hirach na phedair ochr A4.


Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynglyn a gwithio i Lywodraeth Cymru, gwelwch ein Pecyn Recriwtio.

Am manylion ynghylch wneud cais, gwelir Canllaw i Ymgeiswyr.

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.