Swydd Wag -- Pennaeth Rheoli Cyfleusterau
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, mae'r Pennaeth Rheoli Cyfleusterau yn gyfrifol am reolaeth strategol a gweithredol ystad weinyddol Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystad weinyddol ar hyn o bryd yn cynnwys y swyddfeydd a'r adeiladau ar gyfer staff a swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Mae'r portffolio yn sylweddol; roedd cyfanswm o 21 eiddo ar 1 Ebrill 2022 gydag Ardal Fewnol Net o tua 72,000 metr sgwâr, ar gyfer tua 5800 o staff. Mae'r ystad ar wasgar ledled Cymru ac mae'n cynnwys swyddfa yn Llundain. Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu newid mawr yn y ffordd mae'n gweithredu wedi'r pandemig a fydd yn cynnwys Gweithio Clyfar ac addasu'n barhaol i strwythur gweithio cyfunol. Bydd maint, siâp a lleoliad ei hystad yn ystyriaethau sylfaenol wrth symud ymlaen.
Yn gyfrifol am stiwardiaeth gyffredinol ased ystad weinyddol Llywodraeth Cymru, bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod yr ystad yn strategol gydnaws ac yn cydymffurfio â gofynion statudol a diogelwch; ei bod yn amgylcheddol gynaliadwy; yn cefnogi anghenion gweithredol a pholisi; yn fodern, yn gynhwysol, yn fforddiadwy ac yn rhoi gwerth am arian.
Fel aelod annatod o Broffesiwn Eiddo Llywodraeth Cymru, bydd deiliad y swydd hefyd yn arweinydd swyddogaethol ar gyfer y ddisgyblaeth Rheoli Cyfleusterau, gan gynrychioli buddiannau’r rhai sy’n rheoli cyfleusterau o fewn Llywodraeth Cymru.
Prif dasgau
Arwain ar bob agwedd ar y swyddogaeth Rheoli Cyfleusterau gan gynnwys rheolaeth strategol a gweithredol ased ystad weinyddol Llywodraeth Cymru; swyddogaeth cleientiaid deallus; rheolaeth yn y gweithle; perfformiad amgylcheddol a chynnydd tuag at garbon sero net erbyn 2030; rhaglen buddsoddi a rhesymoli yr ystad a'r holl weithgareddau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig ag eiddo.
Datblygu a gweithredu Cynllun Strategaeth Gweithle’r Dyfodol a Chynllun Rheoli Asedau Portffolio Llywodraeth Cymru, manteisio i’r eithaf ar botensial yr ased a sicrhau ei fod yn gweddu’r ystad yn y modd gorau posibl gydag anghenion gweithredol a pholisi Llywodraeth Cymru. Cynnal adolygiadau lleoliad ac ymarferion arfarnu opsiynau cysylltiedig.
Datblygu cynlluniau’r ystad i’r dyfodol yn unol ag egwyddorion strategaeth y gweithle, gan eu llywio gan waith pontio Llywodraeth Cymru i ffyrdd mwy clyfar a chyfunol o weithio. Manteisio ar bob cyfle i optimeiddio’r ystad gan gynnwys rhannu lle gyda phartneriaid cyhoeddus eraill. Bydd cynllunio’r ystad i’r dyfodol yn rhan o ddull sector cyhoeddus integredig a chydlynol. Addasu swyddfeydd i fodloni gofynion gofod ar ôl y pandemig ac arddulliau gweithio cyfunol.
Dyfeisio a sicrhau darpariaeth rhaglenni cyfalaf a chynnal a chadw blynyddol ar gyfer yr ystad i sicrhau bod adeiladau Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi amcanion polisi a gweithredol Llywodraeth Cymru, eu bod yn bodloni gofynion cyfreithiol, ac yn cadw eu gwerth fel asedau eiddo allweddol y Llywodraeth.
Rheoli a gwella perfformiad carbon, ynni ac amgylcheddol ystad weinyddol Llywodraeth Cymru yn unol ag amcanion carbon sero net Llywodraeth Cymru ac ymrwymiadau a thargedau amgylcheddol eraill.
Datblygu a gwella’r ffyrdd o reoli contractau ar draws yr ystod lawn o gontractau gwasanaethau cyfleusterau sy'n cefnogi'r ystad. Darparu rhyngwyneb arbenigol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â darpariaethau contractau; mae cysylltiadau yn agored ac yn adeiladol a’r llywodraethu ffurfiol yn gadarn. Monitro Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn rheolaidd, gan gynnwys data'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Adolygu’r model darpariaeth Rheoli Cyfleusterau. Goruchwylio/arwain y gwaith o gaffael/ail-gaffael contractau Cyfleusterau yn amserol.
Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y sefydliad gan sicrhau lefelau uchel o ymgysylltu a gweithio mewn partneriaethau. Egluro cynlluniau a strategaethau ac adeiladu ymddiriedaeth gyda rhanddeiliaid sy'n cael eu heffeithio gan feysydd gwaith. Briffio Gweinidogion ac uwch swyddogion ar feysydd pwnc.
Yn gyfrifol am y prosesau gwybodaeth a chyllidebol sylfaenol. Adolygu cyfraddau gwariant yn rheolaidd a chadw at dargedau cyllidebol a gwariant.
Gallu dangos effeithlonrwydd a pherfformiad ystad weinyddol Llywodraeth Cymru, gan sicrhau ei bod yn perfformio'n dda yn erbyn meincnodau cydnabyddedig.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Gweld y Darlun Cyflawn - Rhagweld datblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a thechnolegol i sicrhau bod gweithgareddau yn berthnasol ac yn cael eu targedu’n briodol
Arwain a Chyfathrebu - Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Mynd ati i gynnwys partneriaid i sicrhau canlyniad busnes drwy weithio ar y cyd sy'n sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer dinasyddion
Darparu Gwerth am Arian - Cael yr enillion gorau ar fuddsoddiadau a sicrhau bod mwy yn cael ei gyflawni am lai o fewn cyllidebau penodol drwy reoli adnoddau a sicrhau bod asedau yn cael eu defnyddio i’r eithaf
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Rhaid bod â gwybodaeth a phrofiad amlwg ym maes cyfleusterau/rheoli eiddo ar gyfer gweithrediadau aml-safle, gan gynnwys caffael a rheoli perfformiad contractwyr
- Profiad o ymwreiddio polisïau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ac annog ffocws cadarn ar gynaliadwyedd, lles ac adeiladau clyfar.
- Profiad o feithrin cysylltiadau cadarn ag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth ag Undebau Llafur, a/neu grwpiau eraill sy’n cynrychioli’r gweithlu, er mwyn datblygu arferion cynhwysol a datrys problemau cymhleth.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.