Swydd Wag -- Pennaeth Diwygio Partneriaeth Gymdeithasol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Y Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
Ar waelod y cyflog os yw'n gyfnod penodol / Yn unol â'r cyflog cyfredol os yw secondiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Secondiad neu gyfnod penodol
24 mis
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Dirprwy Gyfarwyddwr i reoli’r broses o gyflwyno deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol newydd i Gymru, datblygu polisi partneriaeth gymdeithasol yn y portffolio Gweinidogol newydd, sefydlu partneriaethau strategol, rheoli cydberthnasau cymhleth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol a chydlynugwaith cyrff partneriaeth gymdeithasol trawslywodraethol presennol. Ymhlith y cyrff hyn fydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu er mwyn cefnogi amcanion strategol y Gweinidogion a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Er y cyfeirir yn rheolaidd at bartneriaeth gymdeithasol fel ffordd neilltuol i Gymru o weithio rhwng y Llywodraeth ac ein partneriaid cymdeithasol, undebau llafur a chyflogwyr, nid yw wedi’i mynegi na’i datblygu eisoes fel dull neilltuol o weithredu polisi. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu’r polisi yn y maes newydd hwn ac am gefnogi’r portffolio Gweinidogol newydd hwn, gan annog pobl i’w gydnabod a’i fabwysiadau ar draws y Llywodraeth ac yn allanol gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid cymdeithasol. Bydd yn arwain maes gwaith proffil uchel, cymhleth ac weithiau dadleuol a bydd angen gwybodaeth arbenigol a strategol arno/arni a’r gallu i feddwl yn greadigol, datrys problemau cymhleth a rheoli cydberthnasau. Bydd hefyd angen i ddeiliad y swydd negodi gydag uwch-arweinwyr ymhlith cyflogwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector ac undebau llafur a chydag uwch swyddogion ar draws y Llywodraeth i ddylanwadu arnynt a dod o hyd i gyfaddawd rhwng safbwyntiau amrywiol ac yn aml gwrthdrawiadol partneriaid. 

Bydd deiliad y swydd yn bersonol gyfrifol am arwain y gwaith o ddiwygio strwythurau a fframweithiau partneriaeth gymdeithasol presennol ar draws Llywodraeth Cymru. Y nod fydd gweithio gyda phartneriaid i ad-drefnu’r trefniadau partneriaeth gymdeithasol presennol ar lefel genedlaethol yng Nghymru; ac er mwyn sicrhau bod y gwaith o ddylunio a gweithredu strwythurau partneriaeth gymdeithasol yn y dyfodol yn cyd-fynd yn llawn â’r fframwaith statudol newydd a grëwyd trwy’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni busnes y Llywodraeth a busnes corfforaethol arall  ar draws yr Is-adran, gan gynnwys sesiynau briffio Gweinidogol, Cwestiynau’r Senedd, adroddiadau BIRT etc.

Prif dasgau

Prif gyfrifoldebau deiliad y swydd bydd y canlynol:

  • gweithio gyda’r Dirprwy Gyfarwyddwr, i oruchwylio’r gwaith o reoli a chyflwyno Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), gan gynnwys holl feysydd perthnasol y polisi, gan sicrhau bod y Bil yn cael ei gyflwyno yn y Senedd cyn toriad haf 2022;
  • goruchwylio tîm a datblygu polisi i gyflawni uchelgeisiau Gweinidogion Cymru o ran partneriaeth gymdeithasol ym maes newydd y portffolio hwn, gan ddatblygu cynigion i sefydlu ac ymgorffori partneriaeth gymdeithasol fel dull trawsbynciol a swyddogaeth allweddol yng ngweithredoedd y Llywodraeth ac o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus. Cynyddu rhan a chyfranogiad cyflogwyr ac undebau llafur, gan gynnwys hyrwyddo aelodaeth undebau llafur ar fyrddau a grwpiau Gweinidogol, i wella cydweithrediad, datrys problemau ar y cyd a chydfuddion ar draws diddordebau gwahanol partneriaid;
  • datblygu datrysiadau i broblemau cymhleth ar draws agendâu amrywiol, sy’n aml yn gwrthdaro, partneriaid cymdeithasol, gan weithio gydag uwch-arweinwyr yn fewnol ac yn allanol mewn maes proffil uchel, er mwyn mynd i’r afael â materion sylweddol ac weithiau dadleuol drwy drafod yn effeithiol, meddwl yn greadigol a datrys problemau cymhleth;
  • gweithredu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG), goruchwylio datblygiad ac archwiliad cynigion deddfwriaethol ar gyfer Cyngor statudol. Dylunio mecanweithiau gweithredol ar gyfer y CPG ac unrhyw is-bwyllgorau sy’n gysylltiedig ag ef. Cael profiad o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth a chanlyniadau adolygiad trawslywodraethol, er mwyn dylunio darpariaethau cynaliadwy a chael cefnogaeth eang i’r diwygiadau a gynigir;
  • sicrhau y caiff y trawsnewidiad i fframwaith statudol newydd partneriaeth gymdeithasol a’r broses o gefnogi strwythurau eu rheoli’n ddidrafferth ac yn ddiogel;
  • creu a chynnal partneriaethau strategol a chydberthnasau cymhleth ar ran y Llywodraeth gydag uwch-arweinwyr mewnol ac allanol, gan ddatblygu rhaglen ymgysylltu rhwng partneriaid cymdeithasol a hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol yn effeithiol ar draws y sefydliad a chyda phartneriaid yn symudiad yr undeb llafur a chyflogwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector;
  • goruchwylio gwaith Tîm y Cyd-ysgrifenyddiaeth sy’n cydlynu strwythurau partneriaeth gymdeithasol a arweinir gan y Gweinidog, sy’n cynnwys y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol, Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’i Gydbwyllgor Gweithredol, gan ddatblygu rhaglenni gwaith ym maes partneriaeth gymdeithasol, ymgysylltu â strwythurau SP y mae adrannau’n berchen arnynt i ddatblygu agendâu a rennir a manteisio i’r eithaf ar synergeddau. Arwain swyddogaeth glyfar yr ysgrifenyddiaeth i gefnogi cyfarfodydd, cyfarfodydd paratoadol ac ymgysylltu â phartneriaid yn effeithiol;
  • gweithio gyda Gweinidogion, uwch swyddogion a phartneriaid cymdeithasol i gynnal adolygiad o strwythurau partneriaeth gymdeithasol presennol ar lefel strategol genedlaethol yng Nghymru, gan gwmpasu pob rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru. Symleiddio’r dull presennol a chyflwyno cysondeb a chysylltedd rhwng strwythurau gwahanol, gan gymryd camau gweithredu i gyflawni newid, gan gynnwys trafod â pherchnogion systemau sydd ar lefel Cyfarwyddwyr a delio ag uwch-randdeiliaid sydd â safbwyntiau cadarn a gwrthdrawiadol;
  • dylunio ac adeiladu system bartneriaeth gymdeithasol gydlynus, sy’n adlewyrchu’r egwyddorion a sefydlwyd yn y Bil, sy’n cryfhau cydberthnasau ar draws Llywodraeth Cymru a chyda phartneriaid cymdeithasol. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i arwain systemau’n gryf ac yn effeithiol o ran partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru;
  • gweithio gyda dau Ddirprwy Gyfarwyddwr presennol i adolygu strwythur a gweithrediad Cyfarwyddiaeth y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg i sicrhau y gall barhau i arwain yn effeithiol ar draws Llywodraeth Cymru ac yn ychwanegu at y cyfle a grëwyd gan y Bil Partneriaeth Gymdeithasol;
  • rhoi cyngor ar bolisïau AD, cydberthnasau diwydiannol a chyflogaeth i SPC a WPC a gweithredu fel cyswllt arbenigol ar draws y Gyfarwyddiaeth ar gyfer materion sydd heb eu datganoli;
  • sicrhau y caiff busnesau Gweinidogol a rhai corfforaethol ehangach sy’n berthnasol i waith yr Is-adran eu rheoli’n effeithiol, gan gydlynu gwaith y tair cangen o reoli blaenoriaethau Is-adrannol a sicrhau bod sesiynau briffio Gweinidogol, Cwestiynau’r Senedd etc yn cael eu cyflawni ar amser ac i’r ansawdd gofynnol;
  • gweithredu fel rheolwr llinell ar gyfer dau aelod o staff Gradd 7 ac un SEO;
  • gweithredu fel dirprwy i’r Dirprwy Gyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol, gan gydnabod fel Is-adran â llwyth trwm, gyda nifer sylweddol o randdeiliaid y mae’r Gweinidogion wedi ymrwymo iddynt gymryd rhan weithredol mewn datblygiadau, bydd gan ddeiliad y swydd y gallu hanfodol ar lefel uwch i gymryd perchnogaeth ar wahân o gyfleoedd ymgysylltu penodol â phartneriaid a rheoli’r ymgysylltiad eang a manwl sydd ei angen ar lefel uwch, i gyflawni canlyniadau partneriaeth gymdeithasol.

    Cyfleoedd datblygu

    Mae’r swydd yn cynnig y cyfle i arwain meysydd allweddol o waith mewn rôl heriol ac uchel ei phroffil ac yn ystod cyfnod cyffrous ar gyfer yr agenda Partneriaeth Gymdeithasol a Chwarae Teg. Mae’r swydd yn gofyn am ddull trawsbynciol o lunio a chyflwyno polisïau, gyda chyfleodd sylweddol i greu rhwydweithiau ar y lefelau uchaf posibl o fewn y Gwasanaeth Sifil a'r tu allan iddo drwy weithio gyda chydweithwyr Llywodraeth Cymru, partneriaid cymdeithasol ac eraill. Bydd gan ddeiliad y swydd friff anarferol o eang gyda’r cyfle i helpu i lywio gwaith Llywodraeth Cymru ar draws portffolios Gweinidogol. Bydd amrywiaeth eang o sgiliau sy’n ymwneud â pholisïau, cynllunio, cyflawni gwaith gweithredol, trafod a rhwydweithio yn cael eu profi i’r eithaf yn y rôl hon. Bydd y swydd yn cynnig cysylltiad sylweddol â’r Gweinidogion, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru.

    Dyddiad Cau

    03/12/21 16:00

    Cymhwystra

    Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

    Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

    Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

    Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

    Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

    Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

     

    Hyderus o ran Anabledd

    Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

    Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


    Sgiliau yn y Gymraeg

    Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

     

    Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

    Bydd angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir

    Partneriaeth Gymdeithasol

    O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

    Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
    •         PCS
    •         Prospect
    •         FDA

    Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
    •         cyflog
    •         telerau ac amodau
    •         polisïau a gweithdrefnau
    •         newid sefydliadol

    Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

    Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

    Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

    Cymwyseddau:

    Gweld y Darlun Cyflawn - Casglu ynghyd farn a safbwyntiau rhanddeiliaid er mwyn cael darlun mwy cyflawn o gefndir gweithgareddau a pholisïau

    Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt

    Gwella Gallu Pawb - Pennu’r gofynion o ran gallu sydd eu hangen er mwyn cyflawni amcanion y tîm yn y dyfodol a chefnogi timau i lwyddo wrth gyflawni er mwyn bodloni’r anghenion hynny

    Cyflawni’n Brydlon - Egluro blaenoriaethau busnes, rolau a chyfrifoldebau, a sicrhau bod unigolion a’r tîm yn teimlo perchenogaeth arnynt


    Meini Prawf Penodol i’r Swydd: 

    1. Y gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau adeiladol â rhanddeiliaid ar lefelau uwch.

    2. Sgiliau arwain, rheoli a thrafod cryf.

    3. Profiad o waith dylunio sefydliadol a newid sefydliadol.

    Proses Asesu

    Sifftio i ddigwydd pan fydd y cais yn cau. Gwahoddir pob ymgeisydd llwyddiannus i gyfweliad.  Mae dyddiadau cyfweld i'w cadarnhau.

    Gwybodaeth arall

    • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
    • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
    • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
    • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
    Jo Salway: Jo.Salway@gov.wales

    Sut i wneud cais

    Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

    I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

    I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

    Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

    Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

    Anghydfod a Chwynion

    Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

    Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.