Swydd Wag -- Uwch-reolwr – Arolygu Gwasanaethau Oedolion ac Arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion Iau

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£56,620) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Lleoliad arall
Swyddfa Merthyr, Caerfyrddin neu Aberystwyth. Goruchwylio timau sy'n cwmpasu canolbarth a gorllewin Cymru.
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Mae rheoleiddio a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth sicrhau y caiff gwasanaethau rheoleiddiedig diogel o ansawdd da eu darparu i ddinasyddion Cymru. 

Mae rôl yr Uwch-reolwr yn hollbwysig er mwyn cymell gwelliant yn y sector ac i roi sicrwydd mai dim ond gwasanaethau dibynadwy, diogel sy'n cael eu cofrestru a bod camau gweithredu cadarn yn cael eu cymryd pan fydd gwasanaethau'n methu â darparu gofal diogel.

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb rheoli llinell ar Reolwyr Tîm (MB1) ac Arolygwyr (MB2), a bydd yn cefnogi'r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau cyson, effeithiol, effeithlon ac o ansawdd da.

Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion.

Prif dasgau

  • Darparu cymorth arwain a rheoli llinell i'r tîm arolygu gwasanaethau plant ac oedolion. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb rheoli llinell i Reolwyr Tîm (MB1) ac Arolygwyr (MB2).
  • Arwain a bod yn gyfrifol am berfformiad cyffredinol, ansawdd ac amseroldeb pob agwedd ar waith arolygu rheoleiddiol yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau mewnol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau y caiff adnoddau a staff yn y tîm Gwasanaethau Plant ac Oedolion eu rheoli mewn ffordd gadarn, gan ddatblygu a rhoi camau unioni ar waith yn ôl yr angen.
  • Sicrhau y caiff gwaith y tîm arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion ei gyflawni i safon uchel ac yn amserol, a bod penderfyniadau'n cael eu cyfleu'n effeithiol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau bod trefniadau perfformiad a sicrhau ansawdd cryf ar waith a chyfrannu at y broses o ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath.
  • Gwneud penderfyniadau gorfodi yn unol â'r dyletswyddau dirprwyedig a nodir yng nghanllawiau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.
  • Gweithio'n agos gydag uwch-reolwyr timau Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth.
  • Sicrhau trefniadau cadarn ar gyfer atebolrwydd, cydymffurfiaeth a rheoli goruchwyliaeth y tîm.
  • Arwain y gwaith o ddarparu cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion fel sy'n ofynnol.
  • Paratoi gwybodaeth friffio ar gyfer Gweinidogion a'r Tîm Uwch-reolwyr mewn perthynas â materion penodol.
  • Datblygu arferion arolygu cryf ac effeithiol a'u hymgorffori ym mhob rhan o AGC a sicrhau bod canllawiau ac adnoddau arolygu ar waith, yn addas at y diben, wedi'u gwerthuso ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
  • Rhoi cymorth i staff gydag achosion cymhleth, cadeirio cyfarfodydd perthnasol â darparwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i gymell gwelliant mewn gwasanaethau rheoleiddiedig.
  • Sefydlu dull cyson o weithio gydag asiantaethau eraill mewn perthynas ag Uwchgyfeirio Pryderon a pholisïau allweddol eraill.
  • Rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu ac arolygiaethau eraill i ddatblygu a chyflawni gwaith rheoleiddio effeithiol dan arweiniad dinasyddion.
  • Sefydlu a chynnal cydberthnasau effeithiol ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn perthynas ag ansawdd y gwasanaethau a gomisiynir a diogelu, gan sicrhau y rhennir yr hyn a ddysgir â thîm yr awdurdod lleol.
  • Arwain y gwaith o oruchwylio a monitro darparwyr sydd â sawl gwasanaeth, yn unol â chanllawiau AGC.
  • Ystyried sylwadau yn unol â'r rota y cytunwyd arno.
  • Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
  • Bod yn bennaf gyfrifol am gadw'n ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi perthnasol, ynghyd â'r arferion gorau mewn meysydd a nodir a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.
  • Cefnogi'r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion â gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid.
  • Cynrychioli'r sefydliad ar lefel uwch fel sy'n ofynnol.
  • Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion fel y bo angen.
  • Sicrhau bod rhaglen ddatblygu ar gael i'r staff mewn perthynas â'u rôl er mwyn i'r rheolwyr tîm ac arolygwyr fod yn gymwys i'w chyflawni.
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Plant ac Oedolion.

 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

08/12/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Newid a Gwella

  • Adnabod yr arwyddion pan fydd pethau'n mynd o chwith a chynnig ymatebion pendant i heriau sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau

Gwneud penderfyniadau effeithiol 

  • Llunio a chyflwyno casgliadau rhesymol o amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth – gallu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan fydd y manylion yn aneglur 

Arwain a Chyfathrebu 

  • Bod yn weladwy i staff a rhanddeiliaid a chynnal gweithgareddau yn gyson i ymgysylltu â phobl sy'n ymwneud â'r maes gwaith a meithrin eu hyder

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd 

  • Creu cyfleoedd rheolaidd i staff a chwsmeriaid helpu i wella ansawdd gwasanaethau a dangos cyfranogiad gweladwy

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) y mae ganddynt brofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol. Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig

- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
- cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
- cymhwyster addysgu neu addysg,
- gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
- Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

  • Profiad ôl-gymhwyso perthnasol helaeth fel ymarferwr mewn gwasanaethau neu reoleiddiwr gwasanaethau.
  • Profiad o arwain a rheoli tîm o staff sy'n perfformio i lefel uchel yn y sector gofal cymdeithasol.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant cerbyd modur yn ofynnol.

Ar gyfer ymholiadau am y rôl cysylltwch â Sarah.GlynnJones@gov.wales. 

Cyn gwneud cais ar gyfer ein rolau, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth fanylach am sut i wneud hynny.

Ar gyfer Ymholiadau ynghŷn â Thelerau ac Amodau, anfonwch neges e-bost i CIWHR@gov.wales

CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.