Swydd Wag -- Arweinydd Datblygu Proffesiynol a Sicrhau Ansawdd Cyfieithu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Gwasanaeth Cyfieithu
SEO - £41,700 - £49,370
Gwaelod y band, ond gellid ystyried cynnig cyflog cychwyn uwch i ymgeisydd eithriadol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gwahanol leoliadau, Lleoliad arall
Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Cyffordd Llandudno
19/20 Medi 2017

Pwrpas y swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod allweddol o Uned Ddatblygu’r Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma’r uned sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyfieithu cyfan – a’r Llywodraeth yn ehangach - ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddo’r Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth.

Bydd yr Arweinydd Datblygu Proffesiynol a Sicrhau Ansawdd Cyfieithu yn benodol gyfrifol am:

1.    Arwain rhaglen sicrhau ansawdd ar gyfer y gwaith y mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn ei gyfieithu yn fewnol ac yn allanol;

2.    Arwain rhaglen fewnol ar gyfer datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol cyfieithwyr ar bob lefel yn y Gwasanaeth Cyfieithu;

3.    Arwain y gwaith o gysoni arddull y cyfieithiadau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cyfieithu;

4.    Denu a datblygu adnodd cyfieithu priodol i’r Gwasanaeth Cyfieithu.

Prif dasgau

1.    Arwain rhaglen sicrhau ansawdd ar gyfer y gwaith y bydd y Gwasanaeth Cyfieithu yn ei ddarparu yn fewnol ac yn allanol:

  • cynllunio, amserlennu a rheoli rhaglen o asesiadau ansawdd o'r gwaith a gynhyrchir gan y Gwasanaeth Cyfieithu - yn fewnol ac yn allanol.
  • gwneud yr asesiadau cychwynnol ac, fel y bo’n briodol, hyfforddi uwch-gyfieithwyr i gyfrannu at y swyddogaeth hon, a llunio a chynnal canllawiau clir ar eu cyfer;
  • cyflwyno adroddiadau i uwch-reolwyr ar ganlyniadau'r holl asesiadau sicrhau ansawdd, a gwneud argymhellion ar y camau priodol i'w cymryd yn eu sgil;
  • cyfathrebu â chyflenwyr allanol yn ôl y galw, gan gynnwys darparu adborth ar ganlyniadau’r adolygiadau a'r camau sydd i'w cymryd yn eu sgil;
  • cyflwyno adroddiadau yn ôl y galw i reolwyr y Fframwaith Cyfieithu (sef y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol) a gwneud argymhellion ar y camau priodol i'w cymryd yn eu sgil;
  • sicrhau bod negeseuon pwysig a ddaw i’r amlwg yn sgil y rhaglen asesu ansawdd, yn cael eu rhannu drwy gyfrwng BydTermCymru a/neu gyfryngau priodol eraill, a bod y cyfieithwyr mewnol ac allanol yn rhoi’r penderfyniadau hynny ar waith;
  • hybu a hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau cyfieithu, fel systemau cof cyfieithu, er mwyn sicrhau ansawdd gwaith mewnol ac allanol y Gwasanaeth Cyfieithu.

2.    Arwain rhaglen ar gyfer datblygu sgiliau proffesiynol cyfieithwyr ar bob lefel yn y Gwasanaeth Cyfieithu:

  • gan ddefnyddio Fframwaith Datblygu Cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn sail, arwain y gwaith o lunio rhaglen gynefino a datblygu ar gyfer cyfieithwyr dan hyfforddiant er mwyn eu paratoi at ymgeisio am swyddi uwch-gyfieithwyr ymhen cyfnod penodedig;
  • llunio a chyflwyno rhaglen ar gyfer datblygu’r sgiliau proffesiynol y mae eu hangen ar aelodau’r Gwasanaeth er mwyn darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf, ee arwain gweithdai iaith a gramadeg, cynnal sesiynau un i un, rhannu cynghorion ac ati;
  • cydlynu’r gwaith o lunio a chynnal set o gymwyseddau proffesiynol ar gyfer y Gwasanaeth Cyfieithu.

3. Arwain y gwaith o osod safon arddull glir ar gyfer gwaith cyfieithu Llywodraeth Cymru:

  • bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau arddull gan gyfieithwyr mewnol ac allanol y Gwasanaeth Cyfieithu;
  • mynd ati’n rhagweithiol i adolygu’r canllawiau arddull presennol gan ddefnyddio deunyddiau cyfeirio safonol yn sail ar gyfer gwaith ymchwil pellach;
  • llunio a rhannu canllawiau a chyngor yn amserol ac yn briodol er mwyn sicrhau cysondeb ar draws cyhoeddiadau’r Llywodraeth.

4. Denu a datblygu adnodd cyfieithu priodol i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru:

  • rheoli a chydlynu rhaglen ar gyfer cynnig - mewn ffordd deg ac agored - gyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol;
  • datblygu a rheoli rhaglen ar gyfer cynnig – mewn ffordd deg ac agored – interniaethau cyfieithu i raddedigion;
  • Rheoli’r gwaith o asesu sgiliau cyfieithu fel rhan o brosesau caffael neu recriwtio, gan gynnwys paratoi profion addas, cynnal ac addasu gridiau a chanllawiau asesu, cyfarwyddo a hyfforddi’r aseswyr, a sicrhau cysondeb o fewn prosesau ac ar draws prosesau asesu.

5. Cyffredinol

  • cydweithio’n agos â gweddill aelodau’r Uned Ddatblygu er mwyn sicrhau ei bod yn cynnal ei holl swyddogaethau mewn modd effeithiol ac effeithlon;
  • unrhyw dasg resymol arall ar gais uwch-reolwyr y Gwasanaeth Cyfieithu.

Cyfleoedd datblygu

  • Cyfle i arwain ar agweddau allweddol ar ddatblygu’r proffesiwn cyfieithu Cymraeg/Saesneg a helpu i roi ar waith agweddau ar y weledigaeth ar gyfer y proffesiwn a amlinellir yn Strategaeth newydd y Gymraeg;
  • Cyfle i gydweithio ag arweinwyr proffesiynol mewnol ac allanol er mwyn llunio rhaglen ddatblygu proffesiynol o’r radd flaenaf ym maes cyfieithu;
  • Cyfle i gydweithio â’r sector addysg uwch yng Nghymru a chyfrannu at hyfforddiant a datblygiad cyfieithwyr y dyfodol;
  • Cyfle i ddatblygu adnoddau arddull fel rhan o arlwy BydTermCymru, sy’n gyfrwng i Wasanaeth Cyfieithu’r Llywodraeth rannu ei adnoddau â’r proffesiwn cyfieithu yn ehangach.
  • Cyfle i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes cyfieithu.

Dyddiad Cau

29/08/17 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y darlun cyflawn: Meithrin dealltwriaeth o strategaeth eu maes eu hunain a sut y mae’r strategaeth honno yn cyfrannu at flaenoriaethau’r Adran (sef Llywodraeth Cymru).

Arwain a Chyfathrebu: Cyfathrebu’n brydlon drwy ddefnyddio arddulliau a chyfryngau priodol, gan gynnwys sianeli digidol, er mwyn sicrhau bod gymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl.

Gwella gallu pawb: Nodi a mynd i’r afael â gofynion neu fylchau o ran gallu ymhlith timau neu unigolion, er mwyn cyflawni gwaith heddiw ac yfory.

Rheoli gwaith safonol: Datblygu cynigion i wella ansawdd gwasanaethau gydag amrywiaeth eang o staff, rhanddeiliaid neu bartneriaid cyflenwi.

 

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol, a phrofiad o weithio ar lefel uwch fel cyfieithydd neu olygydd Cymraeg, neu mewn disgyblaeth berthnasol.
  • Gafael gwbl gadarn ar y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gallu dadansoddi ansawdd gwaith cyfieithu mewn amryfal gyweiriau a chyfleu adborth yn briodol i gyfieithwyr mewnol ac allanol, ac i gwsmeriaid yn unol â’r galw.
  • Y gallu a’r hygrededd i arwain a hyfforddi cyfieithwyr ar bob lefel i ddatblygu eu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hynny gan gydweithio â chyrff proffesiynol a’r sector addysg uwch.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno’u ceisiadau yn Gymraeg, ond gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer un cymhwysedd yn Saesneg. Fe gynhelir asesiad cychwynnol o ansawdd yr iaith ysgrifenedig fel rhan o’r sifft. 
Os bydd yr ymgeisydd yn llwyddo i ddod drwy’r sifft, cynhelir prawf pellach o’i allu i asesu ansawdd gwaith cyfieithu ac i ddarparu adborth ar y gwaith hwnnw.


Cynhelir y profion a’r cyfweliadau yng Nghaerdydd ar 19/20 Medi.
Lleoliad y swydd: Caerdydd / Aberystwyth /Caerfyrddin / Cyffordd Llandudno.

Helen Phillips - helen.phillips@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.