Swydd Wag -- Swyddog Cymorth Busnes – Llinell Gymorth x 2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Entrepreneuriaeth a Chyflenwi
EO - £26,900 - £30,610
£23,625
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 Mlynedd
Gogledd Cymru
I'w gadanhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu Llinell Gyswllt newydd ar gyfer y Gymraeg.
Nod y gwasanaeth fydd darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un sydd angen gwybodaeth gyffredinol am y Gymraeg, yn ogystal â gwasanaeth cyfieithiadau byr i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Bydd rhanddeiliad y swydd hon yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth a chefnogi’r broses weinyddol o’i dechrau i’w diwedd. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaeth cyswllt Busnes Cymru ac yn gyfrifol am y canlynol:

Bod yn gyfrifol am y canlynol:
• Cynghori cleientiaid ar lle gallant gael gwybodaeth, adnoddau a chyngor pellach ar ddefnyddio neu ddysgu’r Gymraeg (e.e. gwefan “Cymraeg”);
• Delio â cheisiadau cyfieithu dros y ffon, e-bost, sgwrs fyw, cyfryngau cymdeithasol a sianeli eraill newydd rhwng 09:00 – 17:00 dydd Llun – dydd Gwener.
• Helpu i drefnu prosiectau cyfieithu a dderbyniwyd gan gleientiaid, gan ddefnyddio system cof cyfieithu i ddadansoddi ceisiadau unigol ac i dracio gwaith;
• Sicrhau gwasanaeth cwsmer effeithiol drwy reoli disgwyliadau cleientiaid wrth ymdrin â dyddiadau dychwelyd ac ansawdd darnau o waith;
• Dadansoddi gwybodaeth o’r gronfa ddata er mwyn adnabod unrhyw fylchau mewn gwybodaeth gyhoeddus;
• Coladu cyfieithiadau thematig a “Chwestiynau Cyffredin” er mwyn creu deunyddiau i’r wefan “Cymraeg” y cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw sianeli perthnasol eraill.
• Meithrin perthynas waith dda â’r cyflenwyr cyfieithu

Prif dasgau

Cydweithio yn gyson ac effeithiol ag eraill
• O dan arweiniad y Cydlynydd Tîm, cydweithio yn effeithiol â’r Swyddogion Cymorth Busnes eraill a chyfathrebu yn glir â chydweithwyr yn gyffredinol er mwyn arddel prosesau, polisïau ac arferion gwaith cyson.
• Cynorthwyo’r tîm i ddarparu gwasanaeth prydlon, cyson ac effeithlon i gwsmeriaid drwy fod yn rhan o rota waith yr Uned Fusnes.

Darparu cymorth busnes

• Ymgymryd ag amryw o dasgau sydd wedi'u rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes.
• Datblygu sgiliau mewn systemau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i alinio a dadansoddi dogfennau) a systemau corfforaethol.
• Cynorthwyo ag unrhyw agwedd arall ar waith gweinyddol a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau'r rheolwr llinell neu'r staff uwch.

Cyfleoedd datblygu

Cyswllt dyddiol ag amryw randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, cyrff sector gwirfoddol a chwsmeriaid.
Datblygu sgiliau mewn systemau TGCh sy’n ganolog i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau, yn ogystal â chasglu data a magu profiad o ddefnyddio offer a meddalwedd sy’n arbenigol.
Gweithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog lle mae’r Gymraeg yn iaith gwaith.
Bod yn rhan o brosiect newydd cyffrous a fydd yn cyfrannu at lwyddiant Strategaeth Cymraeg 2050.

Dyddiad Cau

18/04/18 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

1. Arwain a chyfathrebu – Bod yn frwd o blaid nodau a gweithgareddau – gan fabwysiadu agwedd gadarnhaol wrth ymwneud ag eraill

2. Cyflawni’n Brydlon – Mynd ati’n rheolaidd i adolygu beth neu bwy sydd ei angen i sicrhau bod prosiect/gweithgaredd yn llwyddo, a gwneud gwelliannau parhaus

3. Rheoli Gwasanaeth Safonol – Gweithio gyda’r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli’r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a’r busnes

4. Cyflawni’n Brydlon - Edrych ar eu perfformiad eu hunain a pherfformiad y tîm yn erbyn canlyniadau, gan wneud awgrymiadau am welliannau neu gymryd camau i ddatrys problemau.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd

1  Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf i ddelio’n effeithiol â chwsmeriaid a chyfieithwyr a chyflenwyr eraill drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

2  Sgiliau TG da, gan gynnwys profiad o weithio â chronfeydd data, a bod yn barod i ddefnyddio ac i wella'r sgiliau hynny ac ymgynefino â systemau newydd ac arbenigol wrth iddynt gael eu cyflwyno.

3 Profiad o ddarparu gwasanaethau rheng flaen i gwsmeriaid o dan amodau  prysur, a hynny fel aelod o dîm mawr.

Rhys Morris - 07990 690144

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.