Swydd Wag -- 8727 - Swyddog Arweiniol Ynni Adnewyddadwy

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyflawni Ynni
SEO - £41,700 - £49,370
41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Cyfnod penodol o 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae’r swydd wedi ei lleoli yn yr Is-adran Ynni, sy’n rhan o’r Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae ynni yn Is-adran brysur, uchel ei phroffil a strategol bwysig o fewn Llywodraeth Cymru. Mae’n chwarae rhan allweddol yn y broses o gyflawni ymrwymiadau Cymru Sero Net, cynllun cyflawni carbon isel Cymru, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’r Is-adran Ynni yn gyfrifol am gyfres o gamau gweithredu i leihau allyriadau o’r system ynni ac i sicrhau bod digon o ynni carbon isel yn cael ei gyflawni mewn ffyrdd sy’n gwella llesiant Cymru.

Bydd y swydd yn arwain ar ymrwymiad y Rhaglen Lywodraeth i greu 100 MW yn ychwanegol o ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus a chymunedol erbyn 2026, a nifer eraill o brosiectau y tu hwnt i’r dyhead hwnnw o ran amser. Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn gyfrifol am gefnogi gwaith yr Is-adran i sefydlu datblygwr ynni ar gyfer y sector cyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r ymrwymiad i weithio tuag at sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn canolbwyntio ar ynni cymunedol.

Bydd y rôl hefyd yn archwilio ac yn llywio modelau busnes a dulliau gweithredu newydd i ariannu cynhyrchiant adnewyddadwy newydd ar raddfa sylweddol fwy na’r un a welwyd hyd yma. Mae’r swydd cyfnod penodol yma yn cynnig cyfle i weithio o fewn y Llywodraeth ar ymrwymiad Gweinidogol proffil uchel, fydd yn gallu cyflawni buddiannau sylweddol i bobl Cymru. Rydym yn chwilio am sgiliau gweithio mewn partneriaeth a chyflawni rhaglenni cryf, yn ddelfrydol gyda dealltwriaeth o ynni adnewyddol.

Prif dasgau

  • Rheoli’r rhaglen weithredol i ddarparu datblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus ar raddfa fawr yng Nghymru. Sefydlu trefniadau partneriaeth i sicrhau bod gwaith y corff yn parhau i fod yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru a’r DU i ddatblygu modelau a ffynonellau newydd o gyllid ar gyfer ynni adnewyddadwy, yn enwedig pan fo’r rheini’n cynyddu’r cysylltiad rhwng dinasyddion ac ynni adnewyddadwy ac yn cadw’r buddiannau yng Nghymru.
  • Cefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn yr Is-adran ar yr ymrwymiad ar wahân i sefydlu Ynni Cymru, gan ddysgu am ffyrdd i ddatblygu systemau ynni lleol clyfar sydd o fudd i ddinasyddion Cymru.
  • Datblygu dulliau gweithredu o ymgysylltu â phobl a chymunedau er mwyn cyflawni system ynni carbon isel, yn enwedig drwy gefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru o ran cynllunio ynni.
  • Helpu i reoli ar y cyd Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (â’r Is-adran Newid Hinsawdd).
  • Darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp Cyflawni Ynni Adnewyddadwy mewnol, sy’n cynorthwyo i integreiddio cyflawni o ran gwaith yn ymwneud ag ynni ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.
  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr polisi er mwyn adrodd yn ôl o’r gwaith cyflawni i’r broses bolisi ynghylch tystiolaeth a ffyrdd o feddwl newydd.
  • Drafftio gwybodaeth i’r cyhoedd ynghylch rhaglenni cyflawni’r Is-adran, gan gynnwys datganiadau gan y Gweinidogion, areithiau a deunyddiau ar-lein.
  • Cynrychioli Llywodraeth Cymru a’r Is-adran mewn cyfarfodydd a digwyddiadau.
  • Cyfrannu at fusnes y Llywodraeth a sicrhau bod y Gweinidogion yn cael cyngor effeithiol a bod gwaith yr Is-adran yn dryloyw ac yn cael ei lywio gan ystod eang o dystiolaeth a phrofiad byw.

Cyfleoedd datblygu

Dyma faes cyflawni sy’n ehangu’n gyflym mewn tîm uchel ei broffil, sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu. Bydd yn rhoi’r cyfle i ddatblygu syniadaeth mewn meysydd newydd, er mwyn sicrhau bod Cymru yn elwa ar drawsnewidiad sy’n digwydd unwaith mewn canrif, ac yn gwneud gwir gwahaniaeth i bobl Cymru.

Bydd cysylltiadau eang â deiliad y swydd ar draws Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Bydd yn datblygu profiad ym meysydd datgarboneiddio ac ynni. Bydd y swydd hefyd yn darparu profiad o weithio ar brosiectau cyflawni mawr. Bydd yr Is-adran yn cefnogi deiliad y swydd i ddatblygu ei allu neu ei gallu i symud ymlaen yn ei yrfa neu ei gyrfa.

Dyddiad Cau

02/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Cyflawni’n Brydlon

Gweithredu'n brydlon i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion sy'n gwrthdaro i gynnal perfformiad.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

Cyflawni canlyniadau o safon uchel sy'n bodloni anghenion cwsmeriaid yn llwyddiannus ac yn rhoi gwerth am arian.

Gweithio ar y Cyd

Sefydlu perthynas broffesiynol gydag ystod o randdeiliaid. Cydweithio â'r rhain i rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Cyflwyno argymhellion cryf yn brydlon gan amlinellu ystyriaeth i opsiynau, costau, buddion a risgiau eraill.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Gweld y darlun cyflawn. Deall yr ysgogwyr strategol ar gyfer eich maes gwaith: dealltwriaeth o bolisi ynni a’r agenda ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
  • Profiad/dealltwriaeth o weithio mewn partneriaeth, o ddewis, gyda’r Llywodraeth a chyrff hyd braich, gan gynnwys yr angen i reoli arian cyhoeddus yn effeithiol.
  • Bod â sgiliau cyfathrebu gwych o ran y cyfryngau ysgrifenedig a llafar. Sicrhau bod negeseuon pwysig yn cael eu cyfathrebu gyda pharch â chydweithwyr a rhanddeiliaid, gan ystyried yr amrywiaeth o fuddiannau.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Mewn cyfweliad bydd gofyn i ymgeiswyr wneud cyflwyniad yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd ynghyd â'r gwahoddiad i gyfweliad. Gofynnir cwestiynau i ymgeiswyr hefyd i sefydlu eu haddasrwydd ar gyfer y rôl mewn perthynas â'r ymddygiadau a nodir yn yr hysbyseb swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Jennifer Pride - YmatebionYnni-EnergyResponses@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.