Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Masnachol a Chaffael

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Uwch Wasanaeth Sifil 2
Tua £100,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

11/05/21 12:00

Pwrpas y Swydd

Mae Llywodraeth Cymru am fabwysiadu model caffael cyfoes sy'n defnyddio contractau cyhoeddus i sicrhau'r gwerth cyhoeddus mwyaf posibl. Rydym am benodi Cyfarwyddwr Masnachol a Chaffael sy'n deall potensial caffael i wella canlyniadau ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

 Mae caffael yn sbardun hollbwysig i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cenedl fwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach. Bydd y Cyfarwyddwr Masnachol a Chaffael yn arwain y gwaith hwn, gan sbarduno dyfodol y proffesiwn yng Nghymru, llunio polisi a chyflawni caffael, a gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau polisi ehangach. Bydd hyn yn gofyn am arweiniad a chyfarwyddyd strategol mewn caffael arloesol / cydweithredol er mwyn sicrhau'r gwariant mwyaf posibl gan y sector cyhoeddus er mwyn sbarduno manteision ehangach.

 Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn sy'n deall yr agenda bolisi ehangach, gan gynnwys gwerth cymdeithasol a manteision cymunedol ehangach, a'r angen i sicrhau gwerth am arian/effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. Deall y pwysau a'r amcanion sy'n gwrthdaro weithiau; a bydd dangos arweinyddiaeth gydweithredol/partneriaeth gref (yn fewnol ac yn allanol) yn hanfodol.

 Mae angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfarwydd â'r gofynion polisi yng Nghymru ac yn gallu gweithredu o fewn cyd-destun y DU ac yn rhyngwladol.

 Mae Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yn caffael eitemau o werth uchel yn rheolaidd lle gallai trafodaethau masnachol arwain at fanteision ariannol sylweddol a manteision sylweddol nad ydynt yn rhai ariannol i bwrs cyhoeddus Cymru a gwella'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Ni fyddai'r Cyfarwyddwr yn cymryd rhan ym mhob trafodaeth ar gyfer pob caffaeliad o'r fath, ond bydd yn ganolog i’r gwaith ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus, gan ddarparu arweinyddiaeth a meithrin gallu. Byddai’n rhoi sicrwydd bod trafodaethau priodol yn cael eu cynnal a bod gan y negodwyr ddigon o sgiliau.

 Mae'r Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol yn Gyfarwyddiaeth ar draws Llywodraeth Cymru ac mae'n atebol i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael yng Nghymru, gan roi cyngor a chymorth i Weinidogion. Mae'n rhoi arweiniad i'r proffesiwn caffael yng Nghymru, yn ogystal â goruchwylio polisi ac arferion caffael Llywodraeth Cymru ei hun.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd y Tîm Recriwtio yn cydnabod eich cais trwy system Llywodraeth Cymru a phan fo’n briodol cewch wybod am ganlyniad y cyfarfod rhestr fer a gynhelir ar 17 Mai 2021

 

Asesiadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer yn unig

 

Profion Seicometrig Ar-lein – anfonir manylion am y rhain at yr ymgeiswyr fydd ar y rhestr fer. Byddwch yn derbyn dolen i'r profion ar-lein hyn yn ystod w/c 24 Mai 2021

 

Os ydych chi wedi gwneud y profion seicometrig ar-lein yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gyfer swydd ar yr un gradd, ni fydd angen ichi wneud y profion hyn eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn.

 

Sesiynau ymgysylltu â staff/rhanddeiliaid - bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod w/c 24 Mai 2021.

 

Bydd cyfarfod byr gyda'r Gweinidog perthnasol yn cael ei gynnal ar w/c 24 Mai 2021.

 

Cyfweliadau’r Panel – bwriedir eu cynnal ar 9 Mehefin 2021. Bydd y cyfweliadau yn para rhyw 45 munud.

 

Bydd yr holl asesiadau uchod yn cael eu cynnal o bell drwy Microsoft Teams

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

09/06/2021

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.