Swydd Wag -- Rheolwr Rheoleiddio
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
I ddiogelu arian cyhoeddus a buddiannau tenantiaid sydd wedi eu buddsoddi mewn cymdeithasau tai wedi'u cofrestru yng Nghymru. Mae Rheolwyr Rheoleiddio yn gyfrifol am bortffolio o 6-8 cymdeithas tai ac i farnu effeithiolrwydd eu llywodraethu, gwasanaethau landlord a’u hyfywedd ariannol. Mae’r rôl yn golygu cyhoeddi barn rheoleiddiol bob blwyddyn am bob cymdeithas dai yn y portffolio.
Prif dasgau
- Sefydlu a chynnal perthynas busnes gyda pob cymdeithas dai, deall y risgiau sy'n wynebu cymdeithasau a chael sicrwydd ynghylch sut y caiff y risgiau hynny eu lliniaru
- Sicrhau rheoleiddio effeithiol a chredadwy yn unol â fframwaith rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai wedi'u cofrestru yng Nghymru 2011
- Casglu a dadansoddi'r dystiolaeth ac arsylwi data/gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau cymdeithas tai i lunio a cyhoeddi barn rheoleiddio blynyddol rheoliadol am bob aelod o'r portffolio.
- Ynghyd â dadansoddwyr cyllid arbenigol, adolygu hyfywedd ariannol a solfedd cymdeithasau tai yng Nghymru; drwy ddadansoddi cyfrifon rheoli, cynlluniau busnes ac unrhyw wybodaeth arall sy'n gysylltiedig â datganiadau ariannol
- Cefnogi cymdeithasau tai i wella yn barhaus a chyflawni gofynion y fframwaith rheoleiddiol.
- Cydweithio gydag uwch aelodau o'r tîm rheoleiddio i ymyrryd yn briodol mewn cymdeithasau tai nad ydynt yn gallu mynd i'r afael â diffygion sylweddol eu hunain.
- Cymeryd rhan weithredol mewn cyswllt â rhanddeiliaid y sector tai cymdeithasol yng Nghymru gan gynnwys tenantiaid, sefydliadau cynrychioliadol, awdurdodau lleol a Bwrdd Rheoleiddio Cymru ac ei seilwaith
- Ymateb i geisiadau am wybodaeth Gweinidogaethol ar reoleiddio
- Sefydlu a chynnal systemau i gasglu gwybodaeth a gasglwyd a chadw cofnodion effeithiol.
- I fod yn Llysgennad ar gyfer y tîm rheoleiddio tai, y sector tai a phartneriaid allweddol yn cynrychioli Llywodraeth Cymru
- I gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n cyfateb â cymwyseddau yn ymwneud ag gradd hwn.
Cyfleoedd datblygu
Weithredwyr a Chadeiryddion Byrddau Cymdeithasau Tai er mwyn deall busnes ar y lefel uchaf. Byddwch yn datblygu eich arbenigedd ar lywodraethu, maes hanfodol ar gyfer y rhai sy'n chwilio i ddatblygu eu cymwysterau arweinyddiaeth. Mae'r rôl hon yn gweithio gyda nifer o grwpiau rhanddeiliaid allanol a bydd cyfleoedd cydweithio sylweddol gyda busnesau eraill a'r trydydd sector.
Mae Debbie Green, Prif Weithredwr Tai Coastal yn cymeradwyo gwerth y secondiad hwn ar gyfer ei busnes.
Mae’r swydd hon yn gofyn am gyflawni gwaith yn gyflym, ac yn swydd heriol, deinamig ac amrywiol.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Gwneud penderfyniadau effeithiol - gwneud penderfyniadau pan fydd eu hangen, hyd yn oed os meant yn anodd neu amhoblogaidd
Arwain a chyfathrebu - cyfathrebu mewn ffordd syml ac yn onest; ymgysylltu â rhanddeiliaid tra bod yn barod i sefyll tir pan fo angen
Gweithio ar y cyd gyda Phartneriaid - sefydlu perthynas gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi'r gwaith o gyflawni canlyniadau busnes
Sicrhau canlyniadau - dangos dull cadarnhaol o gadw pawb yn canolbwyntio ar y nodau sydd wirioneddol o bwys
Meini Prawf Penodol i’r Swydd
1. Gweithio hefo rhanddeiliaid
2. Rheoli prosiect
3. Dealltwriaeth ariannol a dealltwriaeth o fusnes cymdeithasau tai
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.