Swydd Wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_6ADDFEA1-CE61-4551-A559-9C7DCE6031F7~~

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafcass Cymru - De Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£53,440 Mae'r swydd hon hefyd yn denu lwfans o £3,500 y flwyddyn
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd, Lleoliad arall
De Cymru
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cefndir:  

Mae'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass Cymru) yn un o isadrannau’r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.  Cafcass Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant sy'n rhan o achosion Llys Teulu.

Diben y Swydd:  

Darparu arweiniad strategol a gweithredol effeithiol i'r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliad o fewn ardal ddaearyddol ddynodedig yng Nghymru.  Rheoli Rheolwyr Ymarfer y sefydliad yn ei ardal ddaearyddol ddynodedig. Rheoli'r defnydd effeithiol o adnoddau a bod yn gyfrifol amdano a sicrhau y caiff yr holl gyfrifoldebau rheoli eu cyflawni yn unol â blaenoriaethau gweithredol a strategol y sefydliad ac o fewn llinellau atebolrwydd priodol. Datblygu cysylltiadau strategol a gweithredol cryf yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig â rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau partner.

Prif dasgau

  • Cymryd yr awenau a bod yn gyfrifol am arwain perfformiad, ansawdd ac amseroldeb cyffredinol pob agwedd ar y gwasanaethau gweithredol a ddarperir mewn rhanbarth daearyddol dynodedig.
  • Arwain y gwaith o sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed sy'n rhan o Achosion Teuluol.
  • Bod yn gyfrifol am reoli ac arwain Rheolwyr Ymarfer yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig, gan gynnwys darparu trefniadau cyflenwi ar gyfer Penaethiaid Gweithrediadau eraill yn ôl yr angen.
  • Bod yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau gweithredol er mwyn diwallu anghenion plant a theuluoedd sy'n rhan o Achosion Teuluol yn effeithiol ac amserol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau y caiff adnoddau, cyllidebau a staff yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig eu rheoli'n effeithiol a datblygu camau unioni a'u rhoi ar waith os bydd angen.
  • Arwain y gwaith o sicrhau y caiff trefniadau sicrhau perfformiad ac ansawdd cadarn eu rhoi ar waith yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig a chyfrannu at ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath.
  • Sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith ar gyfer atebolrwydd, cydymffurfiaeth a goruchwyliaeth rheolwyr o safon ac ansawdd ymarfer a darpariaeth gwasanaethau uniongyrchol yn yr ardal weithredol ddynodedig.
  • Fel rhan o dîm Uwch-Arweinwyr y sefydliad, cyfrannu at ddatblygu, cydgysylltu ac adolygu polisïau gweithredol, cynlluniau strategol a gweithredol a datblygiadau mewn gwasanaethau.
  • Yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig, arwain y gwaith o sicrhau bod pob agwedd ar y gwasanaeth a phrosesau darparu gwasanaethau yn cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
  • Sicrhau cydberthnasau gwaith ardderchog rhwng Cafcass Cymru a Chyfarwyddiaethau ac Isadrannau eraill yn Llywodraeth Cymru.
  • Sicrhau cydberthnasau gwaith ardderchog a chysylltiadau strategol cryf yn yr ardal ddaearyddol ddynodedig rhwng Cafcass Cymru a rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau partner.
  • Darparu arweiniad strategol yn genedlaethol ac fel aelod o'r Tîm Uwch-Arweinwyr ar gyfer maes darparu gwasanaeth arbenigol a nodwyd, gan gynnwys cyflawni rôl arwain prosiect ar gyfer prosiectau penodol o bryd i'w gilydd. 
  • Arwain y gwaith o roi cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Prif Weithredwr/Dirprwy Brif Weithredwr yn ôl y gofyn.
  • Cynrychioli'r sefydliad ar lefel uwch-arweinydd yn ôl y gofyn.
  • Dirprwyo i'r Dirprwy Brif Weithredwr yn y gofyn.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd sylweddol i chwarae rôl arweiniol yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaeth i Gymru gyfan, gan gynnwys cydgysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau.

Dyddiad Cau

21/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Arwain a Chyfathrebu: Arwain drwy esiampl, gan gyfathrebu mewn modd gonest a chlir a chan ddangos moeseg, uniondeb a didueddrwydd a hyrwyddo amgylchedd gweithio sy’n cefnogi gwerthoedd a chod y Gwasanaeth Sifil

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth: Annog a sefydlu egwyddorion ar gyfer gweithio’n effeithiol ar draws ffiniau i gefnogi’r busnes

Rheoli Gwasanaeth Safonol: Bod yn batrwm i eraill o ran agwedd at wasanaethau i gwsmeriaid, a hyrwyddo diwylliant sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael eu bodloni.

Cyflawni’n Brydlon: Cynnal perfformiad effeithiol mewn amgylchiadau anodd a heriol, ac annog eraill i wneud yr un fath.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol a gydnabyddir gan Gofal Cymdeithasol Cymru) a phrofiad helaeth o arwain yng nghyd-destun darparu gwasanaethau plant.
  2. Profiad o oruchwylio staff, gweithio gyda gwasanaethau diogelu i blant a'u teuluoedd yn y sector statudol ac arwain gwasanaethau o'r fath a dealltwriaeth o anghenion plant sy'n rhan o achosion cyfreithiol preifat a chyhoeddus yn y system cyfiawnder teuluol.
  3. Profiad o arwain datblygiadau neu fentrau newydd mewn sefydliad plant.

Proses Asesu

Mae tri cham i'r broses ddethol, lle y caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn y pedwar cymhwysedd a'r tri maen prawf sy'n benodol i'r swydd a nodir yn y disgrifiad o'r swydd wag:

Y tri cham yw:

Cam 1 – Datganiad personol
Cam 2 – Panel Asesu Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
Cam 3 – Cyfweliad 
 

Cam 1 – Datganiad personol

Ar gyfer eich cais, dylech gyflwyno datganiad personol sy'n darparu tystiolaeth yn erbyn pob un o'r cymwyseddau a'r meini prawf sy'n benodol i'r swydd a restrir yn yr hysbyseb, gan gadw diben a thasgau allweddol y swydd mewn cof. Ni ddylai eich datganiad personol gynnwys mwy na 2100 o eiriau, gan gynnwys unrhyw benawdau. Caiff unrhyw ddatganiad sy'n cynnwys mwy na 2100 o eiriau ei ddiystyru.

Ynghyd â'ch datganiad personol, gofynnir i chi ddarparu CV. Defnyddir eich CV er mwyn helpu i roi gwybod i'r panel am eich hanes gyrfaol. Fodd bynnag, ni chaiff ei farcio ac ni fydd yn cyfrannu at eich sgôr sifftio derfynol. Ni ddylai CVs fod yn hwy na 2 ochr o ddalen A4.

Ni dderbynnir ceisiadau hwyr oni chytunwyd ar hynny fel addasiad recriwtio neu ymlaen llaw oherwydd amgylchiadau eithriadol. 

Cam 2 – Panel Asesu Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol

Caiff pob ymgeisydd sy'n llwyddiannus yng Ngham 1 wahoddiad i ymddangos gerbron Panel Asesu Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol.

Mae Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol (FJYPB) yn grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiad uniongyrchol o'r system cyfiawnder teuluol neu sydd â diddordeb mewn hawliau plant a'r llysoedd teulu.  Maent yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol yn canolbwyntio ar blant ac yn cynnwys plant drwy weithio'n agos gyda grwpiau pobl ifanc eraill a rhanddeiliaid yn y system cyfiawnder teuluol, gan gynnwys Cafcass Cymru.  Bydd Panel Asesu Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder yn cynnwys 2 aelod o'r bwrdd gyda chymorth hwylusydd.

Darperir rhagor o fanylion am yr asesiad hwn i ymgeiswyr sy'n llwyddo i basio cam cyntaf yr asesiad.

Cam 3 – Cyfweliad 

Yn dilyn Cam 2, byddwch yn cymryd rhan yn y trydydd cam, sef y cam olaf. Cewch eich cyfweld gan banel lle y gofynnir i chi ateb cwestiynau a fydd yn seiliedig ar y cymwyseddau a'r meini prawf sy'n benodol i'r swydd er mwyn ystyried yn fanwl yr hyn y gallwch ei wneud a'ch profiad blaenorol sy'n berthnasol i ofynion y radd a'r rôl.   

Darperir rhagor o fanylion am y cam hwn yn y broses yn eich gwahoddiad i gael cyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
CafacssCymruHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.