Swydd Wag -- Dirprwy Gyfarwyddwr Gwella

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 1
tua £73,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

30/01/23 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan hanfodol o wasanaethau cyhoeddus, gan gomisiynu a darparu gofal cymdeithasol yn uniongyrchol i tua 300,000 o bobl yng Nghymru. Dyma un o'r ddau gyfrifoldeb mwyaf mewn llywodraeth leol, ac mae'r sector gofal yn cyflogi dros 90,000 o bobl drwy'r wlad.

 Mae'r Is-adran Gwella, sy’n rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gyfrifol am arwain y sector ledled Cymru yn y meysydd a ganlyn: Gwaith Teg – a ddarperir drwy fforwm partneriaeth gymdeithasol; polisi'r gweithlu; gofal cartref a pholisi’r economi sylfaenol; rheoleiddio cartrefi gofal a gwella gwasanaethau; a datblygiad strategol ehangach llesiant a chanlyniadau i ddinasyddion. Mae'r Is-adran hefyd yn gweithredu fel noddwr Gofal Cymdeithasol Cymru (Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n arwain ar wella a rheoleiddio'r gweithlu). Mae'r Is-adran hefyd yn gweithredu fel y cydgysylltydd o fewn y Gyfarwyddiaeth ehangach ar gyfer materion ariannol, nodau gofal cymdeithasol Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymateb gofal cymdeithasol i’r Argyfwng Hinsawdd.

 Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn gyfrifol am wariant rhaglenni o tua £74 miliwn gan gynnwys nawdd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru (£27m), grantiau’r gweithlu (£45m), cyllid diwygio gofal cymdeithasol gwerth tua £4m a chronfeydd amrywiol eraill i gefnogi'r gwaith o gyflawni gwelliannau. Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn arwain ar gynllunio a monitro ariannol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth yn ehangach. Mae hyn yn cwmpasu cyllideb o £188 miliwn ac mae'n cynnwys datblygu cyllidebau'r Gyfarwyddiaeth, llunio adroddiadau misol, a threfniadau trosolwg ariannol eraill. Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn y sector ehangach i bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael, gan ddylanwadu ar sut y mae awdurdodau lleol ac eraill yn defnyddio eu hadnoddau i gyflawni nodau polisi Llywodraeth Cymru.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

  • Profion seicometrig ar-lein – bydd y rhain yn cynnwys rhesymu rhifiadol a geiriol a thrafodaeth â seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein ymhen 10 diwrnod gwaith ar ôl y cyfarfod llunio rhestr fer.

Os ydych chi wedi cwblhau'r profion seicometrig ar-lein yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ar gyfer swydd ar yr un radd, ni fydd angen ichi eu gwneud eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio penodol hwn.

  • Ymarfer Ymgysylltu â Staff– cynhelir y rhain ar 20 - 22 Chwefror 2023. Rhagor o fanylion i ddilyn. 
  • Cyfweliadau gan banel a chyflwyniad – mae'r rhain wedi'u trefnu ar gyfer 6ed - 8 Mawrth 2023. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams. Bydd y cyfweliadau’n para tua 45 munud. Bydd y Panel yn cael adborth ar ôl ichi gwblhau'ch profion seicometrig a chymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu â staff/rhanddeiliad, cyn ichi gael cyfweliad. Bydd eich cyfweliad yn ystyried sut y mae eich sgiliau a'ch profiad fel y maent wedi’u hamlinellu yn eich CV a'ch datganiad personol yn bodloni gofynion y rôl. Bydd ymgeiswyr yn cael o leiaf wythnos o rybudd am bwnc y cyflwyniad. Nodwch y dylid gwneud y cyflwyniadau heb rannu taflenni neu ddefnyddio dyfeisiau electronig oni bai bod hynny’n rhan o addasiad rhesymol. Fodd bynnag, mae croeso ichi ddefnyddio cardiau i brocio’r cof.

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

6ed - 8fed o Fawrth

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.