Swydd Wag -- Datblygwr Arweiniol (Drupal)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Cyfathrebu Digidol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Y cyflog cychwynnol fel rheol yw £50,870. Gellir cynnig cyflog cychwynnol o hyd at £56,000 ar gyfer ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad. Fydd hwn yn pwynt 3 ar raddfa 4 pwynt hyd at £60,830. Gallwch ddisgwyl derbyn cynyddran i’r pwynt nesaf ar y raddfa ar ôl 1 blwyddyn o wasanaeth.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Y cefndir:

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae gweithlu o dros 5,000 o weision sifil yn cefnogi Gweinidogion Cymru mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel, a gwledydd eraill dramor.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio denu pobl sy'n gallu darparu cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu ffocysu adnoddau a chanddynt egni ac arbenigedd.

Mae trawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hanfodol o ran cyflenwi'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu disgwyl. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n cyflenwi nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ar draws Cymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth ar ein gwefannau. 

O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi mwy a mwy o wasanaethau ar-lein.

Mae'r rôl hon yn perthyn i’r is-adran gyfathrebu sy'n gyfrifol am ddarparu a goruchwylio llwyfannau cyfathrebu corfforaethol sy'n darparu gwybodaeth am bolisïau a strategaethau i ddinasyddion a rhanddeiliaid.

Y Rôl:

Mae rôl y Datblygwr Arweiniol yn rhan o'r Proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) yn Llywodraeth Cymru (LlC).  Mae'r rôl hon wedi'i mapio ar sail rôl y Datblygwr Arweiniol yn Fframwaith DDaT Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).

Fel y Datblygwr Arweiniol byddwch yn gyfrifol am reoli'r datblygiadau ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cysylltiedig.  Byddwch:

  • yn llywio’r ffyrdd y mae'r tîm yn gweithio
  • yn fedrus mewn amrywiaeth eang o systemau technegol
  • yn rhan o'r gwaith o nodi technoleg a dulliau gweithredu priodol, gan benderfynu pryd y dylid ysgrifennu meddalwedd
  • yn cyfrannu at gymuned y datblygwyr
  • yn darparu arweinyddiaeth dechnegol, yn hyfforddi a mentora eich tîm
  • yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth a mabwysiadu arfer da

 

Prif dasgau

  • Gweithio gyda chydweithwyr i gynllunio nodweddion, gwaith uwchraddio ac integreiddio sy'n canolbwyntio ar roi’r profiad gorau i’r defnyddiwr. Arwain gwaith datblygu ar gyfer gwefannau dwyieithog pwysig â phroffil uchel a microwefannau ar draws sawl parth.
  • Trosi problemau busnes yn ddyluniadau technegol; rhagddychmygu'r gwasanaeth delfrydol ar gyfer defnyddwyr ac ymchwilio i wahanol ddulliau o ddatblygu atebion i broblemau ac o greu syniadau am ddyluniadau posibl sy'n addas i'r diben.
  • Defnyddio safonau modern/safonau’r diwydiant ar gyfer offer a thechnegau rhaglennu drwy gydol y cylch datblygu a phrofi. Hyfforddi ac arwain eraill i wella eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth o'r safonau ac ysgwyddo cyfrifoldeb technegol am bob cam a fersiwn o brosiect datblygu meddalwedd.
  • Defnyddio gwybodaeth a phrofiad technegol ac arbenigedd i adolygu manylebau a, phan fo angen, cydweithio ag eraill fel tîm y prosiect, i gynllunio, creu, profi a dogfennu datblygiadau.
  • Nodi, lleoli a thrwsio'n fedrus wallau cymhleth neu rhai sy’n cael effaith ar wasanaeth.
  • Sefydlu a chydgysylltu system o gyflenwi ac integreiddio parhaus i sicrhau arferion gwaith effeithlon tra'n gweithio mewn amgylchedd hyblyg fel y gellir cyflawni prosiectau a briffiau heb amharu ar amgylcheddau ‘byw’ y cynnyrch, a thrwy hynny gynnal profiad di-dor i ddefnyddwyr.
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am arferion diogelwch Drupal a chynnal codau CMS â’r patsys a’r diweddariadau perthnasol a mwyaf newydd er mwyn sicrhau diogelwch y codau.
  • Dylunio, gweithredu a rheoli rheolaethau i gynnal diogelwch, cyfrinachedd a chywirdeb systemau gwybodaeth drwy gydymffurfio â rheoliadau, polisïau a safonau perthnasol. 

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o'i lywio a'i ehangu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a galluoedd ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod y flwyddyn i ddysgu. 

I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd a allai gynnwys:

Cynadleddau / Cysgodi / Mentora / Dysgu seiliedig ar waith / cymwysterau / hyfforddi

Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

05/07/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Fel rhan o'ch cais, byddwch cystal â pharatoi datganiad personol sy'n amlinellu sut yr ydych yn bodloni gofynion HANFODOL y rôl a restrir isod.  Ni ddylai'r datganiad personol fod yn fwy na 1500 o eiriau.

Rheoli gwasanaeth safonol

  • Sicrhau y bodlonir gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a diogelwch wrth ddarparu gwasanaethau.

Arweinyddiaeth

  • Canfod diddordebau a rennir y tu hwnt i’ch maes cyfrifoldeb eich hun, gan ddeall maint yr effaith sydd gan y gweithredoedd ar y sefydliad.

Rhaglennu ac adeiladu (peirianneg meddalwedd)

  • Rydych yn gallu darparu cyngor technegol i randdeiliaid a gosod safonau’r tîm ar gyfer offer a thechnegau rhaglennu.

Dull gweithredu sy’n defnyddio safonau modern

  • Rydych yn dangos dealltwriaeth gref o’r safonau a’r arferion modern mwyaf priodol ac yn eu defnyddio. Rydych yn cymryd cyfrifoldeb am goetsio ac arwain eraill.

Cefnogi'r gwasanaeth

  • Rydych yn nodi a lleoli gwallau ac yn eu trwsio'n fedrus.

Mae'r sgiliau technegol a ganlyn hefyd yn HANFODOL ar gyfer llwyddo yn y rôl hon. Byddwch cystal â sicrhau eich bod yn amgáu CV sy'n dangos eich gallu mewn perthynas â'r sgiliau hyn.

  • Gradd mewn maes technoleg perthnasol fel Cyfrifiadureg, peirianneg meddalwedd neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad masnachol sylweddol ym maes datblygu ar y we, gydag arbenigedd mewn PHP.
  • Profiad amlwg o ddefnyddio JavaScript / JQuery / Vue.
  • Profiad mewn HTML5, SCSS (Sass) a CSS3.
  • Arbenigedd mewn fframwaith PHP Symfony a Twig.
  • Profiad o ysgrifennu ymholiadau SQL.
  • Profiad o bob elfen o ddatblygu a ffurfweddu Drupal 8 ac, os yn bosibl, 9 ar gyfer defnydd amlieithog ac aml-barth yn AWS a’r defnydd o’r offeryn llinell orchymyn Rush.
  • Profiad o ddylunio, adeiladu a chynnal Modiwlau Drupal pwrpasol dibynadwy a themâu pwrpasol gyda gwybodaeth am y modiwl Nodweddion Drupal.
  • Profiad o waith integreiddio API cymhleth.
  • Profiad o offer rheoli fersiynau cod (e.e. Git), gan weithio mewn amgylchedd hyblyg.
  • Profiad o ddefnyddio llwyfannau profi awtomataidd, profion uned ac offer ansawdd codau.

Proses Asesu

Drwy gydol y broses asesu gyfan, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn yr Ymddygiadau o’r fframwaith Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) a Phroffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.

Ymddygiadau Proffil Llwyddiant a asesir: Arweinyddiaeth a Rheoli Gwasanaeth Safonol

Ymddygiadau DDaT a asesir: Rhaglennu ac Adeiladu, Dull Gweithredu Safonau Modern a Chefnogi Gwasanaeth.

I wneud cais am y rôl hon, gofynnir ichi amgáu'r canlynol:

  • Datganiad Personol o addasrwydd yn esbonio sut y mae eich profiad a'ch sgiliau'n darparu tystiolaeth yn erbyn gofynion hanfodol y swydd. Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn fwy na 1500 o eiriau - bydd unrhyw gynnwys sy'n uwch na'r  terfyn o 1500 o eiriau yn cael ei ddiystyru. 
  • CV cyfredol, dim mwy na dwy ochr A4 gan gynnwys tystiolaeth o'r sgiliau hanfodol sy'n benodol i'r swydd.

Dylech ddefnyddio'r templed Datganiad Personol a ddarperir i gyflwyno eich Datganiad Personol

NODER: Mae'n bwysig eich bod yn amgáu’r ddwy ddogfen hyn (y Datganiad Personol a'r CV) yn eich cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.        

Y Cam Sifftio:

Caiff eich cais ei asesu mewn dau gam:

  • Bydd proses sifftio gyntaf yn cael ei chynnal yn erbyn eich CV a'r sgiliau hanfodol sy'n benodol i'r swydd.
  • Caiff Datganiadau Personol yr ymgeiswyr hynny sydd wedi pasio'r cam sifftio cyntaf eu hasesu ymhellach yn erbyn y ddau Ymddygiad Proffil Llwyddiant - Arweinyddiaeth a Rheoli Gwasanaeth Safonol a’r tri ymddygiad DDaT - Rhaglennu ac Adeiladu, Dull Gweithredu Safonau Modern a Chefnogi Gwasanaeth.

Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, ni fydd modd i chi ofyn am eich sgoriau yn y cam sifftio hyd nes y bydd y broses asesu lawn wedi'i chwblhau.

Y Cam Asesu:

Caiff pob ymgeisydd sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio wahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad asesu.  Bydd dwy ran iddo:

  • Asesiad technegol
  • Cyfweliad

Darperir rhagor o wybodaeth am y camau hyn ar ôl y cam sifftio.

Er gwybodaeth, rydym ond yn derbyn cais yn uniongyrchol gan ymgeiswyr (dim asiantaethau recriwtio), a fel cyflogwr sy’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.

Rydym hefyd wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau ar-lein lle gallwch gyfarfod y tîm a chael cyngor ar sut i gwblhau eich cais. Cysylltwch â Aeddan.davies@llyw.cymru i gadw lle.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae amryw o fanteision i'w cael os ydych yn gweithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Trafodaethau cyson ynghylch datblygiad a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn y swydd ac i fagu hyder
  • 31 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol, a diwrnod ar gyfer y Nadolig a Phen-blwydd y Frenhines ar ben hynny
  • Absenoldeb rhiant hael, gan gynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cymwys
  • Cynllun Pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Talebau Gofal Plant, yn arbed hyd at £933 y flwyddyn
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith: dewiswch feic newydd sbon sy'n costio hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Blaenswm Cyflog: gwnewch gais am flaenswm cyflog Nadolig, ar gyfer cyfarpar cyfrifiadurol neu ar gyfer Blaendaliadau Tenantiaeth
  • Benthyciadau Tocyn Tymor
  • Polisi Oriau Hyblyg

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb:

Gan nad oes cynrychiolaeth ddigonol yn y sefydliad, caiff ymgeiswyr sy'n datgan eu bod yn anabl neu o gefndir du neu ethnig leiafrifol symud ymlaen yn awtomatig i'r Porth Asesu os yw eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol. Dim ond os bydd ymgeiswyr yn nodi'r wybodaeth hon yn eu ffurflen gais y bydd yn bosibl i ni wneud hyn. Bydd gwybodaeth am ymgeiswyr o gymunedau ethnig lleiafrifol yn cael ei chymryd o'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen hon fel rhan o'ch cais.

Y Rhestr Wrth Gefn:

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi cyrraedd yr isafswm sgôr ar draws yr holl gymwyseddau  gofynnol yn cael cyfle i fod ar restr 'wrth gefn' Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Os bydd swyddi ychwanegol yn cael eu creu neu os bydd swyddi presennol yn dod yn wag yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y rôl i'r ymgeisydd hwnnw ar y rhestr wrth gefn sydd â'r sgôr uchaf.  Os bydd yn gwrthod y swydd, gall Llywodraeth Cymru gynnig y swydd i'r ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac yn y blaen.

Aeddan Davies - aeddan.davies@gov.wales - 03000 251647

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.